Cwrs newydd i greu gweithwyr proffesiynol digwyddiadau byw sy'n barod i'r diwydiant

13 Hydref, 2023

Grŵp o beirianwyr sain

Bydd gradd newydd mewn Sain, Goleuo a Thechnoleg Digwyddiadau Byw ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn rhoi cyflogadwyedd wrth galon ei chwricwlwm er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu bod ar flaen y gad yn eu gyrfaoedd.

Mae PDC wedi partneru â chwmni Stage Sound Services (SSS) o Gaerdydd i gyflwyno’r cwrs – cyflenwr technoleg ar raddfa fawr i gynyrchiadau’r West End, theatr ryngwladol a theithiol, digwyddiadau corfforaethol a byw. Mae PDC a SSS yn cychwyn ar bartneriaeth strategol i wella'r cwrs gydag arbenigedd yn y diwydiant a blaenoriaethu cyflogadwyedd myfyrwyr.

Mae tîm y cwrs hefyd wedi gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu, gweithwyr proffesiynol y diwydiant a darlledwyr i ddatblygu gradd arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn digwyddiadau byw.

Meddai’r Arweinydd Cwrs, Rob Locke: “Yn PDC rydym wedi bod yn cyflwyno cyrsiau sy’n uchel eu parch yn y diwydiant ers blynyddoedd lawer, ac mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i gymryd y profiad hwnnw a lansio cwrs mewn cyfadran sydd â llawer o gyfleoedd ategol, fel cerddoriaeth a drama. I bob pwrpas, rydyn ni wedi cymryd popeth rydyn ni’n gwybod sy’n gweithio’n dda ac wedi’i ddatblygu gyda diwydiant i sicrhau bod y cwrs newydd yn gwbl berthnasol a chyfoes.”

“Rydyn ni’n falch iawn o’n cysylltiadau â diwydiant ac yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl gefnogaeth rydyn ni’n ei mwynhau gan gwmnïau cynhyrchu a chynhyrchwyr. Mae’r bartneriaeth gyda SSS yn gyfle gwych ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ein cysylltiadau â nhw ymhellach.”

Bydd y bartneriaeth yn gweld SSS yn cefnogi PDC gyda chyflwyno cyrsiau, ar ffurf cyflenwad offer, sesiynau gwesteion a phrosiectau, yn ogystal â hyrwyddo o fewn y diwydiant. Mae nifer o raddedigion PDC yn cael eu cyflogi gan y cwmni ar hyn o bryd ac mae llawer mwy wedi gwneud lleoliadau yno.

Ychwanegodd Ashley Dyer, Pennaeth Gweithrediadau SSS: “Fel busnes sy’n tyfu, rydym yn awyddus iawn i gefnogi sefydliadau drwy gael mewnbwn i ddatblygiad graddedigion y dyfodol. Mae’r cyfle i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru yn fraint fawr ac edrychwn ymlaen at helpu myfyrwyr i symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus.”

 

Mae carfan gyntaf y cwrs newydd eisoes wedi mwynhau ymweliad â phencadlys yr SSS, taith i leoliad cerddoriaeth fyw Porters yng Nghaerdydd a thaith gefn llwyfan o amgylch BBC Cymru Wales.

Mae PDC hefyd yn cynnal Sesiynau Diwydiant Sŵn, rhaglen o arloesi, technoleg a chymorth ymarferol i helpu i adeiladu a datblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, gyda Chlwb Ifor Bach, yn Tramshed Tech ddydd Sadwrn 21 Hydref.

Gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd a Bwrdd Cerdd Caerdydd, bydd y sesiynau hyn yn gweld amrywiaeth o arbenigwyr, artistiaid, a phobl greadigol yn rhannu eu mewnwelediad unigryw o ŵyl gerddoriaeth flynyddol Sŵn. I ddarganfod mwy ac i gofrestru, ewch i https://swnfest.com/swn-industry-sessions/