PDC yn dathlu partneriaeth 10 mlynedd ag Ymddiriedolaeth EFL

3 Tachwedd, 2023

Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC, a Cathy Abraham, Prif Swyddog Gweithredol yn gwenu ar y camera yng Nghanolfan Gynadledda Trefforest

Cynhaliodd Prifysgol De Cymru (PDC) ddigwyddiad dathlu ar 1 Tachwedd i nodi 10 mlynedd ers sefydlu partneriaeth unigryw ag Ymddiriedolaeth Cynghrair Pêl-droed Lloegr (EFL).

Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn hynod ffrwythlon dros y 10 mlynedd diwethaf, gan dyfu o dri chlwb, yn ei blwyddyn gyntaf, i dros 40 o glybiau’n darparu cyrsiau, gyda dros 650 o fyfyrwyr wedi cofrestru erbyn hyn. Sefydliadau Cymunedol Clybiau o Carlisle United i Exeter City i enwi ond rhai sy’n croesawu myfyrwyr yn eu hybiau dysgu, i brofi cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith ochr yn ochr â’u hastudiaethau ar-lein.

Wedi’i gynnal yng Nghanolfan Gynadledda PDC, agorwyd y digwyddiad gan Dr Ben Calvert, Is-ganghellor PDC, a Cathy Abraham, Prif Swyddog Gweithredol ymddiriedolaeth EFL.

Cafwyd dwy drafodaeth banel, y cyntaf yn cynnwys Penaethiaid Cynlluniau Ymddiriedolaeth EFL, Simon Carnell o Ymddiriedolaeth Gymunedol Derby County, Christ Stenner o Sefydliad Robins Dinas Bryste, a Ryan Collins o Ymddiriedolaeth Gymunedol Sheffield United. Trafodwyd effaith rhaglenni Addysg Uwch ar ehangu cyfranogiad. Dilynodd trafodaeth a sesiwn holi-ac-ateb gyda chyn-fyfyrwyr PDC yn siarad am sut mae astudio ym Mhrifysgol De Cymru wedi eu helpu yn eu gyrfaoedd.

Dywedodd Dr Ben Calvert, PDC: “Mae heno yn ddathliad o’r bartneriaeth anhygoel ac yn rhoi’r cyfle i ni fyfyrio ar y cyd ar ei llwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Y bartneriaeth EFL oedd un o’r cytundebau partneriaeth cyntaf i ni eu harwyddo fel Prifysgol De Cymru yn ôl yn 2013.

“Ni ellir diystyru pwysigrwydd partneriaeth i Brifysgol De Cymru – yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf y cwrs Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol wnaeth recriwtio’r nifer fwyaf o fyfyrwyr ar draws cyrsiau’r Brifysgol gyfan sy’n dangos ei arwyddocâd.

“Yr hyn sy’n unigryw yw’r ffaith mai anaml y bydd y myfyrwyr hyn yn dod i’r campws. Mae eu dysgu wedi’i wreiddio yn y gweithle sy’n eu galluogi i gymhwyso eu sgiliau a’u profiad, o’r diwrnod cyntaf, yn y byd go iawn ac yn helpu i gyfrannu at amcanion strategol Sefydliadau Cymunedol Clybiau sydd wedi’u gwreiddio wrth galon eu cymunedau. Mae hyn yn effaith wirioneddol.”

Dywedodd Cathy Abraham, Ymddiriedolaeth EFL: “10 mlynedd yn ôl, fe ddechreuon ni gyda phedwar o’n Sefydliadau Cymunedol Clybiau yn rhedeg y cwrs Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol. Ers hynny, mae dros 800 o fyfyrwyr wedi graddio.

“Rheswm arall rwy’n falch o’r bartneriaeth hon yw ei bod yn helpu i gyflawni ein cenhadaeth o ddarparu cymunedau cryfach, iachach, mwy egnïol. Mae cylch rhinweddol wrth wraidd y cyrsiau gradd hyn, sydd o fudd i unigolion a’u cymunedau ehangach, ac sy’n ganolog i’r rheswm pam ein bod yn bodoli fel sefydliad.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn PDC am fod yn bartneriaid mor anhygoel a helpu’r Ymddiriedolaeth EFL a’n rhwydwaith i wella bywydau pobl yn eu cymunedau ledled Cymru a Lloegr.”