Cydweithrediad â Catapult yn dod â thechnoleg chwaraeon o’r radd flaenaf i PDC
4 Ionawr, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio gyda Catapult, arbenigwyr mewn technoleg perfformiad chwaraeon. Mae'r contract tair blynedd yn golygu y bydd myfyrwyr chwaraeon yn gallu defnyddio technoleg a meddalwedd dadansoddi perfformiad gwisgadwy o'r radd flaenaf.
Gan ddefnyddio festiau GPS Catapult a system ddadansoddi bwrpasol, gall myfyrwyr hyfforddi pêl-droed a rygbi israddedig ac ôl-radd werthuso data technegol a thactegol, i wella perfformiad a llywio'r broses hyfforddi.
Dywedodd Jay Probert, Pennaeth Pwnc Chwaraeon: "Mae cyn-fyfyrwyr chwaraeon PDC yn cael eu cyflogi'n rhyngwladol felly mae profiad o dechnoleg sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol yn hanfodol.
"Mae gan Catapult enw gwych o ran dadansoddi perfformiad mewn amryw gampau, felly mae'r cydweithrediad hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth ym maes chwaraeon. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni'n gweithio gyda nhw."
Dywedodd Jacob Sherwood, Rheolwr Datblygu Busnes Catapult: "Mae gallu ehangu ein partneriaeth â'r Brifysgol yn gyffrous iawn, mae cyfleusterau PDC yn anhygoel; mae’r cae dan do, gyda system LPS ClearSky ar gyfer data safleol dan do, a'r ystafell dadansoddi perfformiad, yn amgylcheddau dysgu trawiadol iawn. Bellach mae gan fyfyrwyr y Brifysgol fynediad at gyfres lawn o gynnyrch sy'n cael ei defnyddio gan dimau elît drwy’r diwydiant cyfan. Mae Ben a'r tîm wedi bod yn glir gyda'u nod o sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at feddalwedd sy'n cael ei defnyddio yn y byd go iawn, ac mae hyn yn cyfoethogi eu cyflogadwyedd yn sylweddol."