Dathlu blwyddyn o ddysgu Saesneg i ffoaduriaid o Wcráin yn PDC

17 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Ukrainian_refugees_walking_trip.jpg

Mae Prifysgol De Cymru yn nodi blwyddyn o gyflwyno gwersi Saesneg i ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi ailsefydlu yn y gymuned leol.

Ers 17 Mai 2022, mae tiwtoriaid yng Nghanolfan Saesneg Rhyngwladol PDC, yn ogystal ag athrawon sy’n fyfyrwyr ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) wedi bod yn cynnal gwersi wythnosol i grwpiau o ffoaduriaid sydd wedi ffoi o’r rhyfel yn Wcráin.

Mae’r dysgwyr hefyd wedi mwynhau teithiau cerdded i Senedd Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac arfordir Gŵyr, gyda thaith i Lundain ar gyfer y mis nesaf.

Er y byddai rhai myfyrwyr wedi dysgu ychydig bach o Saesneg yn yr ysgol yn Wcráin, nid oedd eraill yn siarad unrhyw Saesneg o gwbl cyn ymuno â gwersi PDC, ac maent wedi elwa ar y cyfle i ddod yn fwy integredig yn eu cymunedau newydd yn Ne Cymru.

Mae Eugene, a ddechreuodd wersi Saesneg yn PDC yr haf diwethaf, yn mwynhau chwarae gemau fel ffordd o ddysgu Saesneg sgyrsiol. Meddai: “Doeddwn i erioed wedi dysgu Saesneg yn fy mywyd cyn dod yma. Nawr rydw i'n mynychu dwy wers bob wythnos ac rydw i wedi dysgu cymaint. Rydyn ni hyd yn oed yn cael dadleuon yn yr ystafell ddosbarth nawr, ac mae'r gwersi wedi fy helpu i wneud llawer o ffrindiau newydd. Rwy’n ddiolchgar iawn.”

Ychwanegodd Olena, a gyrhaeddodd Dde Cymru ychydig fisoedd yn ôl ac sy’n mynychu gwersi wythnosol yn PDC: “Mae’r athrawon yn amyneddgar iawn gyda ni ac yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni ymarfer siarad Saesneg gyda phobl o’r ardal leol. Mae’r gwersi yn ddefnyddiol iawn i ddysgu geirfa newydd ac yn ein helpu pan mae angen gofyn am bethau yn y gymuned. Diolch, PDC!”

Dywedodd Dr Mike Chick, darlithydd ESOL a Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC: “Mae cwrdd â’r Wcreiniaid wedi agor meddyliau’r athrawon dan hyfforddiant i’r angen i gefnogi ffoaduriaid, ac wedi rhoi cyfle i ddysgu ieithoedd go iawn.

“Mae digwyddiadau fel y teithiau cerdded yn hollbwysig er mwyn rhoi cyfle i ddefnyddio’r iaith go iawn ac i greu ymdeimlad o berthyn i’w cymunedau newydd.”

Dywedodd Gunita Sapa, un o’r tiwtoriaid Saesneg Rhyngwladol sydd wedi bod yn gweithio gyda’r ffoaduriaid ers iddynt gyrraedd: “Mae hwn wedi bod yn gyfle anhygoel i addysgu grŵp mor amrywiol, ysbrydoledig a hyfryd o ffoaduriaid Wcráin am y flwyddyn ddiwethaf.

“Trwy ddysgu’r Saesneg trwy sgyrsiau ar ystod o bynciau, rydym wedi bondio, chwerthin a chael amser bendigedig yn gyffredinol. Mae wedi bod yn bendant yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa addysgu hyd yn hyn.”

Ychwanegodd Peter Squires, un arall o’r tiwtoriaid Saesneg Rhyngwladol sydd wedi bod yn dysgu’r ffoaduriaid: “Mae gwersi Saesneg mor bwysig fel cam cyntaf i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn cymuned newydd, yn enwedig mewn amgylchiadau mor ofnadwy ag y mae’r ffoaduriaid hyn wedi’u profi.

“Mae mynychu gwersi a datblygu geirfa newydd yn golygu eu bod nhw’n gallu magu’r hyder i siarad Saesneg ac ennill sgiliau newydd, gan ganiatáu iddyn nhw wneud ffrindiau, dod yn fwy annibynnol a chymryd rhan mewn gweithgareddau maen nhw’n eu mwynhau. Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’u dysgu a’u gweld yn datblygu.”