Nid ar gyfer arbenigwyr yn unig mae seiber, mae'n rhan o'n bywydau bob dydd ac mae angen i ni ei gofleidio

23 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Sharan_Johnstone_23236.jpg

Sharan Johnstone, pennaeth Seiberddiogelwch a Chyfarwyddwr y Ganolfan er Rhagoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), yn esbonio pam nad yr arbenigwyr technoleg yn unig sydd angen gwybodaeth seiber.

Pan oedd y byd i gyd yn ymddangos fel pe bai’n ei gloi ei hun i ffwrdd oherwydd pandemig Covid, roedd chwyldro tawel yn digwydd yn y byd seiber.

Daeth y newid sydyn i weithio ar-lein â llawer o newidiadau i filiynau o bobl ledled y byd, wrth iddyn nhw ddysgu sut i gyflawni eu rolau a'u gweithgareddau dyddiol ar-lein. Wrth i alwadau Teams a Zoom ddod yn norm i lawer o weithwyr y busnesau mwy o faint, ac wrth i ni i gyd sylweddoli mor hanfodol oedd systemau TG i'n bodolaeth bob dydd, mewn meysydd eraill o'r economi daeth yr angen am systemau seiber dibynadwy yn gwbl allweddol.

I lawer o sefydliadau bach, daeth yr hyn a fu'n offeryn defnyddiol cyn Covid yn rhywbeth oedd yn  hanfodol i'w gweithrediadau - roedd meddygfeydd, deintyddion, a siopau bwyd, ymhlith eraill, yn wynebu symud ar-lein yn sydyn, heb fawr o amser ar gyfer hyfforddiant a gweithredu.

Er bod nifer o fanteision, daeth y symud ar-lein i'r byd seiber hefyd ag anfantais fawr - dylanwad pobl.

Yn sydyn, roedd gweithredu ar-lein yn golygu bod gan fusnesau o bob math fynediad at doreth o ddata personol am y bobl roedden nhw’n ymwneud â nhw, manylion 'sanctaidd' oedd yn gorfod cael eu gwarchod. Ac mae rheswm da dros ddiogelu data, oherwydd yn y DU gall busnesau sy’n torri Deddf Diogelu Data (2018) gael dirwy o hyd at £17.5m neu 4% o’u trosiant byd-eang blynyddol - pa un bynnag sydd fwyaf.

Ond faint o berchnogion BBaChau fyddai'n deall holl fanylion y Ddeddf Diogelu Data, neu'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, ac i ba raddau roedd meddalwedd neu apiau 'twyllodrus', neu unigolion, yn bygwth diogelwch data? Rydyn ni i gyd, heb sylweddoli, yn cyflawni gweithredoedd sy'n gallu peryglu ein sefydliad – bod â YouTube ymlaen yn y cefndir wrth i ni weithio, defnyddio ffon USB i fynd â ffeil adref i weithio arni, neu lawrlwytho lluniau mae rhywun wedi'u hanfon atom.

Er eu bod yn aml yn weithredoedd diniwed, gallant gyflwyno meddalwedd wystlo a maleiswedd i systemau TG sefydliad, ac maent yn cael effaith fawr ar weithrediadau. Ac efallai na fydd hyn yn digwydd ar unwaith, gall y 'ceffylau Trojan' hyn eistedd yno yn aml am fisoedd neu flynyddoedd lawer yn disgwyl yr adeg iawn i ddod yn fyw ac achosi anhrefn, a gellir gosod logwyr bysellau all gofnodi cyfrineiriau a gwybodaeth hanfodol arall y gall hacwyr ei defnyddio er budd iddyn nhw.    

Dyna pam nad arbenigwyr TG yn unig ddylai ddeall seiber. Pan fydd y gwaethaf yn digwydd, gall sefydliadau mawr golli parhad busnes gan nad yw eu systemau hanfodol yn gweithio mwyach. Yn y gorffennol efallai fod pawb wedi troi at yr adran TG i gael eu gweithrediadau yn ôl ar waith, ond mae bellach yn effeithio ar lawer mwy o adrannau, ac mae angen i ni chwalu'r myth mai rôl swyddfa gefn technoleg yn unig yw seiber.

Pan fydd rhywbeth yn digwydd sy'n effeithio ar weithrediadau a pharhad busnes, bydd tîm Ymateb i Ddigwyddiad sefydliad yn rhoi protocolau a pholisïau ar waith. Yn ogystal â'r timau ymateb technegol, bydd sawl rhan o sefydliad ynghlwm wrth yr ymateb hwn, yn cynnwys y tîm cysylltiadau cyhoeddus i ddelio ag unrhyw fygythiad i enw da’r sefydliad, y tîm cyfathrebu mewnol i hysbysu staff er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a gwybod sut i ymateb yn briodol i gwsmeriaid, a'r timau gwytnwch busnes i actifadu protocolau i gadw'r sefydliad ar waith gyda chyn lleied o darfu â phosibl a chyn lleied o niwed i enw da’r sefydliad.

Ond, i berchnogion busnesau bach, byddai'n rhaid iddynt wneud yr uchod i gyd eu hunain ac mae'n annhebygol y byddai ganddynt gynllun Ymateb i Ddigwyddiadau, a byddai hyn yn debygol o arwain at niwed i'w henw da a cholli busnes.

Dyna pam rydyn ni'n helpu pobl i ddeall seiber a'u cyfrifoldebau o oedran ifanc. Mae Ymwybyddiaeth Seiber bellach yn rhan hanfodol o hyfforddiant 'bywyd', ac yn rhywbeth rydyn ni o ddifrif yn ei gylch yn PDC. Nid dim ond y rhai sy'n astudio ar gyfer eu gradd a'u hôl-radd yn y Brifysgol rydyn ni’n eu dysgu, rydyn ni’n ystyried y sgiliau a'r wybodaeth hyn yn allweddol i bawb. Nid yn unig ar gyfer eu diogelwch ar-lein eu hunain, ond hefyd ar gyfer datblygu'r Biblinell Sgiliau Seiber.

Mae'r addysg ‘Biblinell Sgiliau Seiber’ hon yn dechrau’n ifanc. Fel y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod fel un o Safon Aur gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o GCHQ y Llywodraeth, ac ar ôl cael ein henwi'n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am bedair blynedd yn olynol rhwng 2019 a 2022, ni oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyflwyno gweithgareddau allgymorth, â’r nod o godi uchelgeisiau ac ymwybyddiaeth seiber yn y genhedlaeth iau. 

O'n partneriaeth gydweithredol â Thales yn y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol, at arwain rhaglen Seiber yn Gyntaf Ysgolion a Cholegau Cymru, gyda’n partneriaid cydweithredol Abertawe a phrifysgolion Bangor, mae ein gweithgareddau allgymorth gydag ysgolion a cholegau yn helpu i wreiddio mor hanfodol yw seiber iddynt yn bersonol, a sut y gallai ddod yn yrfa iddynt ei dilyn.

Rhan o hyn yw gwneud seiber yn haws ei ddeall a chwalu'r myth mai rhywbeth i’r technegwyr yn unig ydyw, ac annog merched a bechgyn i ystyried seiber fel gyrfa hyfyw, yn anad dim oherwydd bod prinder sgiliau enfawr ledled y byd mewn personél seiberddiogelwch.

Mae seiber ym mhob man, ymhob sector diwydiant. Gweithgynhyrchu, peirianneg, iechyd, awyrofod, yswiriant, unrhyw le lle rydych chi'n cadw neu'n prosesu data.

Mae seiber yn gyffrous gan ei fod yn esblygu ac yn arallgyfeirio'n gyson, yn creu rolau a chyfleoedd newydd sy'n wahanol iawn i'r 'arbenigwyr seiber' sy’n cael eu portreadu mewn ffordd mor ystrydebol weithiau ar y teledu ac mewn ffilmiau.

Y tu hwnt i'r gefnogaeth a'r cyfleoedd datblygu i bobl iau, mae PDC hefyd yn ymwneud â rhaglenni drwy ein Clinig Cymunedol Seiber am ddim, gyda phartneriaid fel Cartrefi Dinas Casnewydd. Mae hyn yn helpu unigolion mwy aeddfed i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael o fod ar-lein, a'u hyfforddi i gadw'n ddiogel wrth bori a chynnal eu gweithgareddau dydd i ddydd. Mae hefyd yn bosib y gallai eu hysbrydoli i feddwl am yrfa ym maes seiber - dyw hi byth yn rhy hwyr. Mae ein gwaith o fewn yr Hyb Arloesedd Seiber sydd newydd ei ffurfio yn caniatáu i unrhyw un gaffael y sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa gyffrous ym maes seiber.

Rydyn ni'n galw hyn yn 'biblinell' am nad yw'n rhywbeth statig. Mae'n ymestyn ar draws cenedlaethau ac yn rhywbeth rydyn ni’n ei ystyried yn hanfodol - gwneud seiberddiogelwch a fforenseg ddigidol yn rhan o fywyd pawb fel eu bod nid yn unig yn meddwl am yrfa bosibl a sut y gallent lunio dyfodol seiber, ond hefyd eu gwneud yn fwy ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd wrth gyrchu'r rhyngrwyd.