Gall arbenigwyr technoleg y Brifysgol gynnig yr help sydd ei angen ar fentrau bach i yrru eu busnesau yn eu blaen
5 Awst, 2024
“Mewn oes y mae datblygiadau technolegol yn ei dominyddu, mae cenhedloedd ledled y byd yn arloesi er mwyn gyrru twf economaidd a meithrin ffyniant. Gyda'i hanes cyfoethog a'i hunaniaeth unigryw, mae Cymru ar fin harneisio grym trawsnewidiol technoleg i yrru ei heconomi i uchelfannau newydd. Gall technoleg fod yn gatalydd hanfodol i economi ffyniannus yng Nghymru."
Geiriau Tara McGeehan, Llywydd CGI, cwmni ymgynghori TG a busnes, wrth ysgrifennu’n gynharach eleni mewn blog ar gyfer cymdeithas fasnach technoleg ddigidol techUK. Mae’n disgrifio'n berffaith pam mae gwaith y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET) mor hanfodol.
Wedi'i sefydlu yn 2017, crëwyd CEMET - sy’n gweithio o Brifysgol De Cymru – i ddylunio a phrofi technolegau symudol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg i greu cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer llwyddiant masnachol.
Gyda chefnogaeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, roedd CEMET yn canolbwyntio’n wreiddiol ar gynnig cymorth am ddim i Fusnesau Bach a Chanolig yn y Cymoedd, y Gorllewin a'r Gogledd, ac yna, yn 2019, gyda chyllid ychwanegol, daeth yn brosiect Cymru gyfan gwerth £8.9m.
Yn y blynyddoedd cychwynnol hyn, gweithiodd CEMET gyda channoedd o gwmnïau i ddatblygu technoleg arloesol oedd yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau.
Wedi i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaethon ni symud ein ffocws, ac rydym wedi bod yn defnyddio arian sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i ddarparu cefnogaeth wedi'i hariannu'n llawn i fusnesau sydd am archwilio potensial technolegau sy'n dod i'r amlwg a throi syniadau'n realiti.
Gan ganolbwyntio ar ardaloedd yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Powys, Caerffili, a Bro Morgannwg, rydym wedi bod yn darparu cymorth am ddim i helpu busnesau bach a chanolig bontio'r bwlch rhwng cysyniad a llwyddiant yn y farchnad.
Wedi i entrepreneur gysylltu â ni, byddwn yn cychwyn prosiect ymchwil a datblygu chwech i wyth wythnos o hyd, i ddod â'u syniad yn fyw, gan greu meddalwedd prawf-cysyniad digidol neu galedwedd cynnyrch neu wasanaeth. Mae'r allbwn diriaethol hwn yn agor drysau i brofi’r farchnad ac i grantiau neu gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.
Rydym yn gwneud hyn trwy alluogi perchennog y busnes i gydweithio â thîm CEMET o Ymchwilwyr a Datblygwyr mewnol ymroddedig ac arbenigwyr technoleg medrus sy'n arbenigo mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial, dysgu peirianyddol, realiti rhithwir neu estynedig, Rhyngrwyd y Pethau , a llawer mwy.
Rydym yn rhagweld Cymru lle bydd busnesau'n arloesi'n barhaus, gan ddefnyddio technolegau sy'n dod i'r amlwg i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau sy'n arwain y farchnad, sy’n llunio'r dyfodol, ac sy’n cyfrannu at amgylchedd lle mae'r wybodaeth a'r gallu i arloesi yn ysgogwyr busnes allweddol.
Un busnes mae CEMET wedi ei helpu dros nifer o flynyddoedd yw Senso24, a elwid gynt yn Skystrm, sydd wedi datblygu system sy'n gallu monitro pobl a allai fod yn agored i niwed tra hefyd yn cynnig annibyniaeth a phreifatrwydd iddynt.
O weld yr anawsterau mae'r diwydiant gofal iechyd yn eu hwynebu gyda staffio, daeth Justus Vermak o Gaerdydd at CEMET gyda syniad a allai chwyldroi'r ffordd y mae pobl mewn gofal yn cael eu monitro. Mae gan Senso24 brofiad helaeth yn y diwydiant gofal, ac un o’u prosiectau mwyaf diweddar oedd sefydlu pentref ymddeol a chartref gofal.
Yr her roedd Justus yn ei hwynebu oedd sicrhau bod digon o staff ar gael i fonitro'r bobl mewn gofal a'u cadw'n ddiogel. Arweiniodd hyn at archwilio'r ffyrdd y gellid datblygu system monitro o bell i sicrhau nad yw unigolion yn dod i unrhyw niwed.
Trwy weithdai cydweithredol ac ymchwil helaeth, canfu Senso24 a CEMET y gallai system sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol fod o fudd i ddatblygiad y prosiect.
Helpodd CEMET i adeiladu system deallusrwydd artiffisial sy’n gallu deall a oes angen cymorth brys ar bobl agored i niwed. Gall y system fonitro symudiadau unigolyn yn ddienw, drwy ddysgu eu trefn arferol, a rhoi gwybod i'r teulu neu ofalwyr os oes pryderon. Mantais dysgu trefn yr unigolyn yw ei fod yn creu darlun o'r hyn sy'n arferol iddo.
Yn ôl Justus: "Gall hyn gynnwys pethau fel sut mae'r person yn cerdded, ydyn nhw'n symud yn arafach na'r arfer, faint o amser maen nhw'n ei dreulio ym mhob ystafell, pryd maen nhw'n ymweld â'r gegin ac, er enghraifft, bydd yn gwybod bod gorwedd ar y gwely’n normal i berson, ond bod gorwedd wrth ymyl y gwely’n anarferol. Gall hefyd helpu gyda dementia, drwy dynnu sylw, er enghraifft, at adegau pan fo person wedi anghofio bwyta."
Mae system Senso24 yn defnyddio camerâu neu synwyryddion is-goch sy'n monitro symudiadau unigolyn. Roedd amddiffyn yr unigolyn a'i breifatrwydd yn ganolog i'r cysyniad hwn. Bydd yr holl ddata a gesglir gan y system yn cael ei fonitro ond wedyn caiff ei roi mewn 'blwch du', gan olygu nad oes modd i’r defnyddwyr terfynol adnabod y person.
Drwy gydweithio ar y prosiect bu modd creu rhaglen brototeip bwrdd gwaith. Mae hyn yn caniatáu i Senso24 ddangos sut y gall technegau cyfrifiadurol fel gwahanu fframiau ddeall symudiadau a chreu logiau gweithgaredd drwy ddefnyddio data fideo.
Gyda digon o fewnbwn data, mae gan y system y potensial ar gyfer gweithredu systemau dosbarthu dysgu dwfn datblygedig ar gyfer monitro gweithgaredd a chanfod cwympiadau. Y weledigaeth fyddai gallu helpu a gwella profiad preswylwyr cartrefi gofal a’r staff.
Gan Clayton Jones, Rheolwr Rhaglen CEMET
Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar gyfer Business News Wales. Gallwch weld yr erthygl wreiddiol yma.