Profiad gofal iechyd ymarferol ar gyfer cadetiaid llawn dyhead yn PDC
2 Chwefror, 2024
Yr wythnos diwethaf, (24 Ionawr 2024) croesawodd Prifysgol De Cymru (PDC) gadetiaid y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) o ysgolion a cholegau lleol a rhoddodd PDC brofiad ymarferol iddynt o weithio mewn lleoliad gofal iechyd.
Mae Cynllun Cadetiaid Tywysog Cymru RCN yn rhaglen sefydledig sy'n cyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd mewn rolau nyrsio a gofal iechyd.
Gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), rhoddodd y digwyddiad flas i'r cadetiaid ar wahanol agweddau ar ofal iechyd, gan gynnwys sgiliau nyrsio a bydwreigiaeth, bod yn ymarferydd adran lawdriniaeth, a chyflwyniadau i therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Teithiodd y cadetiaid i gampws Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd o Ysgol Fitzalan, Coleg Gwent, Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a'r Fro, a Choleg y Cymoedd.
Gan ddefnyddio'r cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf yng Nghanolfan Efelychu Clinigol PDC, cafodd y cadetiaid eu trochi yn yr amgylchedd gofal iechyd a chawsant gyfle i siarad â darlithwyr gyda degawdau o brofiad.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd PDC ac AaGIC eu bod wedi ariannu carfannau cadetiaid RCN yng ngholegau'r De.
Dywedodd Karen Stratford-Davies, Darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Coleg y Cymoedd: "Mae'r myfyrwyr wedi bod wrth eu bodd â'r digwyddiad heddiw.
"Doedd rhai o fy myfyrwyr ddim wedi ystyried mynd i'r brifysgol ond ar ôl ymweld â Phrifysgol De Cymru maen nhw wedi gweld beth sydd ar gael yma ac erbyn hyn mae ganddyn nhw rywbeth i anelu ato, sy'n wych."
Dywedodd Dr Ian Mathieson, Deon Cyswllt, Partneriaethau a Datblygu Busnes (Iechyd a Gofal Cymdeithasol): "Roeddem yn falch iawn o groesawu'r grŵp o gadetiaid heddiw.
"Mae partneriaethau strategol PDC, fel y rhai sydd ag AaGIC, RCN, ac ysgolion a cholegau, yn ganolog i'n gwaith o baratoi gweithwyr gofal iechyd y dyfodol.
"Mae'r digwyddiad hwn wedi rhoi mewnwelediad i addysg uwch i'r oedolion ifanc hyn, yn ogystal â rhoi mewnwelediad i'r gwahanol amgylcheddau gofal iechyd, i'w helpu i wneud y dewis cywir o ran gyrfa."