Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru

25 Ionawr, 2024

Dyn yn gwenu yn gwisgo gŵn graddio du a choch a het.

Mae Harry Iles, cerflunydd o Gaerdydd a Chadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru (PDC) am ei waith yn cefnogi pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.

Wedi’i eni yn Tiger Bay ym 1951, magwyd Harry yn nhref glan môr Morecambe, cyn addysgu gyda VSO (gwasanaeth gwirfoddol dramor) yn Swaziland, lle cafodd ei ysbrydoli gan weledigaeth, gwleidyddiaeth a chyfeillgarwch pobl a oedd yn ymladd apartheid.

Wedi dychwelyd i’r DU i astudio Sŵoleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, daeth Harry wedyn yn gerflunydd llawn amser, hunanddysgedig, gan ddysgu sut i gastio efydd a cherfio mewn pren a charreg, ac arddangos ei waith yn eang ar draws y DU.

Am lawer o flynyddoedd bu’n gweithio i elusen sy’n darparu offer llaw i gwmnïau cydweithredol yn Affrica, ac ar ôl symud i’r Fenni gyda’i wraig Ruth bron i 40 mlynedd yn ôl, daeth yn Gyfarwyddwr Sir Fynwy ar gyfer Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, gan weithio i feithrin gallu sefydliadau gwirfoddol.

Bu Harry yn Bennaeth swyddfa Cymru’r Comisiwn Elusennau am 12 mlynedd, yn darparu cyngor rheoleiddiol i rai o elusennau mwyaf Cymru a Lloegr. Am y chwe blynedd diwethaf bu’n Gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid i adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.

Mae PDC wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Arweiniodd Dr Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid y Brifysgol, ar gydweithrediad ag elusen yng Nghaerdydd, Oasis, a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i ddarparu dosbarthiadau Saesneg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’r prosiect yn dod â myfyrwyr PDC ynghyd â’r ffoaduriaid, sydd yn aml o oedran tebyg, i ddarparu addysg iaith a chwalu rhwystrau i bobl sy’n cyrraedd Cymru, i ddod yn rhan o’u cymuned newydd.

Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Harry: “Rwyf wedi ymrwymo’n fawr i gynnal hawliau dynol, dynoliaeth a rennir, a chred ym mhotensial y rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel. Rwy’n rhannu’r weledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa ac yn teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o Gyngor Ffoaduriaid Cymru, sy’n dod â thîm mor fywiog ac amrywiol o staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr ynghyd.

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru, gan ein bod eisoes wedi gweithio gyda’n gilydd i sicrhau newid cadarnhaol i gynifer o fywydau, a gobeithio y gallwn barhau â’r bartneriaeth hon am lawer o flynyddoedd i ddod."