Yr actor a'r awdur comedi Steve Speirs yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd
26 Ionawr, 2024
Mae’r actor Hollywood a’r awdur comedi a aned ym Merthyr, Steve Speirs, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru (PDC) am ei gyfraniad i’r diwydiant Teledu a Ffilm.
Ganed Steven Roberts yn Nhroed-y-Rhiw ym 1965, a mynychodd Ysgol Uwchradd Afon Taf lle cafodd flas ar ddrama. Ar ôl ymuno â Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, astudiodd Ddrama ym Mhrifysgol Loughborough, a chymerodd ei enw llwyfan, Speirs, o gyfenw un o'i ddarlithwyr.
Mae ei yrfa wedi mynd ag ef o’r DU i oleuadau llachar Hollywood, gan chwarae rhan Captain Tarpals yn Star Wars: Episode I – The Phantom Menace a Quartermaster yn Pirates of the Caribbean: Dead Man’s Chest, ac yn serennu ochr yn ochr â Ricky Gervais yn Extras a Jack Whitehall yn y ffilm Bad Education.
Yn awdur dawnus, ysgrifennodd Steve ei ffilm gyntaf, Caught in the Act, yn 2008, a oedd yn seiliedig ar ei fywyd a’i atgofion o dyfu i fyny ym Merthyr. Mae hefyd wedi creu, ysgrifennu a serennu mewn comedi a enwebwyd gan BAFTA The Tuckers ar gyfer BBC Cymru.
Mae ei gredydau teledu helaeth yn cynnwys ei rôl fel Big Alan Williams yn Stella, yn ogystal ag ymddangos yn Not Going Out, Cuckoo, Miranda, ac addasiadau o Gangsta Granny a The Boy in the Dress gan David Walliams, ymhlith llawer mwy.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y West End hefyd yn 2020 fel Burbage yn y gomedi a enwebwyd gan Olivier, The Upstart Crow, yn seiliedig ar gomedi teledu poblogaidd Ben Elton o'r un enw.
Ochr yn ochr ag actio, mae Steve yn llysgennad balch i elusennau amrywiol, gan gynnwys Hospice of the Valleys, Prostate Cymru a Signposted, elusen iechyd meddwl dynion yng Nghymru.
Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Steve: “Mae’n anrhydedd i mi gael Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru, a bod yn rhan o’r seremonïau Graddio gwych hyn.
“Rwy’n falch iawn o fy ngwreiddiau yng nghymoedd De Cymru, ac yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw addysg prifysgol i gyflawni eich potensial mewn bywyd. Mae’n wych gweld y genhedlaeth nesaf o actorion, ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr yn barod i wneud eu marc yn y diwydiannau creadigol – llongyfarchiadau a phob lwc i chi gyd.”