PDC yn cyrraedd y 50 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian

13 Medi, 2025

Dau fyfyriwr yn cerdded trwy'r llyfrgell ym Mhrifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cofnodi ei chanlyniadau gorau erioed yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian.

Rydym wedi derbyn safle 43 o’r 123 sefydliad yng Nghanllaw 2026, gan guro ein safle o 51 yn nabl llynedd, sef safle uchaf blaenorol y Brifysgol. Mae PDC yn parhau i fod y drydedd Brifysgol yng Nghymru ar y rhestr.

Mae PDC wedi gweld cynnydd mawr mewn nifer o safleoedd, gan gynnwys bod ar y brig yng Nghymru a chodi 31 lle i fod y 19eg yn DU am ‘werth ychwanegol’ – sef mesur o sut mae addysgu a chefnogaeth y Brifysgol yn galluogi myfyrwyr i ragori ar eu perfformiad academaidd disgwyliedig yn ystod eu hamser gyda ni – tra bod safle ‘gyrfa ar ôl 15 mis’ wedi codi 28 lle o’r 87fed i’r 59fed safle, ac mae ‘gwariant fesul myfyriwr’ wedi symud i fyny o’r 45fed i’r 31ain safle.

Mae nifer o bynciau – Bydwreigiaeth, y Gyfraith, Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Peirianneg Sifil, a Gwyddoniaeth Fforensig – ar y brig yng Nghymru, tra bod gennym bum pwnc sydd yn y 10 uchaf yn y DU – Bydwreigiaeth, Gweithwyr Proffesiynol Iechyd, y Gyfraith, Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus a Ffasiwn a Thecstilau. Mae saith pwnc arall yn y 25 uchaf yn y DU – Animeiddio a Dylunio Gemau, Gwyddor Chwaraeon, Peirianneg Fecanyddol, Gwyddor Daear a Môr, Peirianneg Sifil, Peirianneg Awyrofod, a Gwyddoniaeth Fforensig.

Bydwreigiaeth yw’r pwnc sydd â’r safle uchaf, yn gyntaf yn y DU a Chymru, tra bod Cyfrifeg, a Dawns a Drama, yn rhagori fwyaf yn PDC, i fyny 30 lle i’r 61ain safle, a 30 lle i’r 31ain safle, yn y drefn honno.

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC, fod y rhestr yn dangos sut mae gwaith caled cydweithwyr ar draws PDC yn dwyn ffrwyth.

 “Mae cyflawni ein safle uchaf erioed yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian yn foment hynod o falch i PDC,” meddai Dr Calvert.

 “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad a phroffesiynoldeb diysgog cydweithwyr ar draws y brifysgol. Mae eu hymroddiad yn parhau i lunio amgylchedd lle mae myfyrwyr ac arloesedd yn ffynnu.

 “Rydym wrth ein boddau bod PDC wedi cael ei chydnabod fel un o’r 50 sefydliad gorau, gan arwain y ffordd o ran darparu addysg ragorol a chreu cyfleoedd i bawb.”

Daw’r canlyniadau hefyd yn fuan ar ôl i’r Brifysgol gael ei rhoi ar y rhestr fer mewn dau gategori ar gyfer gwobrau Times Higher Education (THE) eleni. Mae PDC wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Rhagorol a Gwobr Cymorth Rhagorol i Fyfyrwyr.