Gwyddoniaeth rocedi yw hi go iawn: Sut mae Morgan, myfyriwr o PDC, yn estyn am y sêr
18 Awst, 2026
Pan welodd Morgan Jones Gymdeithas Rocedi Prifysgol De Cymru (PDC) am y tro cyntaf yn Ffair y Glas, cafodd ei ddenu i mewn gan roced enfawr a oedd yn sefyll yn falch ar stondin y gymdeithas.
Yr hyn na allai fod wedi'i wybod ar y pryd oedd y byddai ymuno â'r gymdeithas yn helpu i lunio ei brofiad prifysgol, yn cyflymu ei ddysgu, yn agor drysau i gysylltiadau diwydiant, ac yn y pen draw yn ei weld yn ymgymryd â rôl arweinyddiaeth ei hun.
Cyn ymuno â PDC, astudiodd y myfyriwr Peirianneg Awyrofod 21 oed o Aberhonddu yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed ger Aberhonddu, lle cwblhaodd Lefel A mewn ffiseg, mathemateg, cemeg a chyfrifiadureg. Cyrhaeddodd Morgan PDC gydag angerdd dros bynciau STEM a diddordeb cynyddol mewn technoleg awyrofod.
Gan fynd i mewn i gam nesaf ei radd Peirianneg Awyrofod bellach, mae Morgan newydd orffen ei flwyddyn gyntaf ar ôl cwblhau blwyddyn sylfaen ac mae'n dweud ei fod wedi cyffroi ar unwaith pan ddysgodd fod gan PDC Gymdeithas Rocedi.
“Rwy'n hoffi rocedi yn fawr iawn,” meddai. “Mewn diwrnod ymgeisio fe sonion nhw am griw o gymdeithasau gwahanol a chafodd y Gymdeithas Rocedi ei grybwyll. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n edrych yn cŵl a phenderfynais gadw llygad amdanyn nhw. Yna yn ystod Wythnos y Glas roedd bwrdd gyda roced enfawr ac es i syth draw yno.” Ar ôl cwrdd ag aelodau'r gymdeithas a chofrestru, daeth Morgan o hyd i grŵp o fyfyrwyr o'r un anian yn gyflym a oedd yn rhannu ei frwdfrydedd dros beirianneg, technoleg ac archwilio'r gofod.
A daeth yr hyn a ddechreuodd fel diddordeb syml yn rhan bwysig o fywyd prifysgol yn fuan, gyda Morgan yn dod o hyd i gymuned gymdeithasol a lle i rhoi mynegiant tuag at ei angerdd dros brosiectau peirianneg yn y Gymdeithas Rocedi.
“Mae'n allanfa braf ar gyfer y math o berson ydw i,” meddai. “Rwy'n hoffi canolbwyntio ar bethau ac mae nhw'n rhoi prosiectau i mi weithio tuag atynt. Ar hyn o bryd mae gen i brosiect lle rwy'n gwneud fy nghyfrifiadur hedfan fy hun.” Mae'r gymdeithas hefyd wedi rhoi cyfleoedd i Morgan ddylunio, adeiladu a phrofi systemau sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan ganiatáu iddo gymhwyso cysyniadau damcaniaethol i heriau peirianneg go iawn. Trwy brosiectau ymarferol, lansiadau a chystadlaethau, mae Morgan wedi datblygu sgiliau technegol gwerthfawr wrth ennill hyder fel peiriannydd.
Efallai yn bwysicaf oll, mae ei gyfranogiad wedi cryfhau ei berfformiad academaidd. Dywed Morgan fod llawer o'r pynciau a gyflwynir mewn darlithoedd yn gysyniadau y mae eisoes wedi dod ar eu traws trwy brosiectau rocedi.
“Rydw i wedi dysgu llawer o theori rheoli eisoes, ond dydw i ddim yn dechrau'r pwnc penodol hwnnw yn y brifysgol tan fis Medi nesaf, felly rydw i eisoes ar y blaen,” meddai. Mae'r un peth wedi bod yn wir mewn hylifau thermol a phynciau sy'n gysylltiedig â gyriant.
“Pan oedden nhw eisiau gwneud pethau fel ffroenellau a gwacáu, roeddwn i fel, 'Rydw i eisoes yn gwybod am hynny i gyd'.” Yn ogystal â gwybodaeth dechnegol, mae Morgan yn credu bod y gymdeithas wedi ei helpu i ddatblygu'r sgiliau meddalach sy'n hanfodol mewn gyrfaoedd peirianneg.
“Mae wedi helpu cryn dipyn gyda gwaith tîm, agwedd tuag at waith, ac agweddau tuag at ddatrys problemau,” meddai. “Yn aml, nid yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn gymhleth iawn mewn gwirionedd, ond mae'n ymwneud â datrys pethau a gweithio trwy broblemau gyda'n gilydd.” Y tu allan i'r gweithdy, mae'r gymdeithas hefyd yn darparu rhwydwaith cymdeithasol cryf.
“Rydyn ni'n cael llawer o hwyl gyda’n gilydd wrth weithio,” meddai Morgan. “Y tu ôl i ddrysau caeedig, mae’n debyg nad ydym mor ddifrifol ag y mae rhai pobl yn ei feddwl.” Mae’r cydbwysedd hwnnw rhwng gwaith caled a chyfeillgarwch wedi helpu i greu cymuned glos sy’n parhau i ddenu myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd. Mae Morgan yn arbennig o falch bod y gymdeithas yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb, waeth beth fo’u profiad blaenorol.
“Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am rocedi cyn i mi ymuno â’r gymdeithas ac rwy’n ei rhedeg y flwyddyn nesaf,” meddai.
“Jyst achos nad ydych chi’n gwybod dim am rocedi, dewch draw beth bynnag.”
Mae’r gymrodoriaeth hon wedi helpu’r gymdeithas i nifer o lwyddiannau - dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cyrraedd y trydydd safle ac yna’r ail safle ym Mhencampwriaethau Rocedi Cenedlaethol (NRC), tra hefyd yn sicrhau’r ail safle yng nghystadleuaeth Mach-25 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Awyr Machrihanish yn yr Alban.
Mae’r cyflawniadau hyn wedi rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr deithio, profi eu dyluniadau, a chystadlu yn erbyn prifysgolion eraill o bob cwr o’r DU, gan arddangos ansawdd y dalent beirianneg sy’n cael ei datblygu yn PDC. Mae’r cystadlaethau hefyd wedi helpu’r gymdeithas i feithrin perthnasoedd gwerthfawr â chyflogwyr sy’n gweithredu o fewn y sectorau gofod ac awyrofod.
Mae Morgan wedi cwrdd â gweithwyr proffesiynol o sefydliadau, drwy weithgareddau cymdeithasol a chystadlaethau. Mae'r cysylltiadau hynny wedi cynnig cipolwg ar yrfaoedd yn y dyfodol a chyfleoedd posibl ar gyfer interniaethau, lleoliadau yn y diwydiant, ac i feithrin perthnasoedd proffesiynol dilys.
“Maen nhw wedi sôn y bod gyda nhw diddordeb i ni wneud interniaeth neu weithio yn y diwydiant am flwyddyn,” meddai Morgan. “Rydyn ni wedi cwrdd â nhw sawl gwaith ac maen nhw'n ein hadnabod ni wrth ein henwau ar hyn o bryd, sy'n gysylltiad gwych iawn i'w gael.”
Gan edrych ymlaen, mae Morgan yn cyfaddef nad yw wedi setlo ar lwybr gyrfa penodol eto, ond mae ei gyrchfan yn glir.
“Dydw i ddim yn gwybod yn llwyr beth rydw i eisiau ei wneud,” meddai. “Rydw i'n gwybod beth rydw i'n ei fwynhau, serch hynny, a dyna rocedi a thechnolegau gofod.”
Wrth iddo baratoi i arwain y Gymdeithas Rocedi'r flwyddyn nesaf, mae Morgan hefyd yn benderfynol o sicrhau bod myfyrwyr y dyfodol yn elwa o'r un cyfleoedd a'i helpodd i dyfu.
“Os gallwch chi fynd i mewn i gymdeithas rocedi, gallwch chi wir wella'ch profiad prifysgol cyfan,” meddai. “Mae'r Gymdeithas Rocedi wedi dod yn llawer mwy na gweithgaredd allgyrsiol. Mae wedi darparu cyfeillgarwch, profiad ymarferol, cefnogaeth academaidd, cyfleoedd arweinyddiaeth, a chysylltiadau uniongyrchol â diwydiant.”
Capsiwn: Morgan Jones (trydydd o'r chwith) gyda aelodau eraill o Gymdeithas Rocketry PDC.