Heriau diarth oedd bywyd ar y Lleuad
2 Ebrill, 2026
Yr Athro Damian Bailey, Athro Ffisioleg a Biocemeg ym Mhrifysgol De Cymru, sy’n ysgrifennu ar gyfer The Conversation am heriau iechyd dynol byw ar y Lleuad.
Am y tro cyntaf ers oes Apollo, mae pobl yn paratoi nid yn unig i ymweld â'r Lleuad, ond i fyw a gweithio yno am wythnosau, misoedd -- ac yn y pen draw flynyddoedd.
Ond sut beth mewn gwirionedd fyddai treulio cyfnod hir ar wyneb y lleuad? Mae'r ateb yn gyffrous – ac yn greulon o anfaddeuol. Mae oes newydd gyffrous o archwilio’r gofod ar gychwyn. Nod rhaglen Artemis yr Unol Daleithiau, yn y pen draw, yw sefydlu allbost ar wyneb y Lleuad. Mae hyn yn newid sylfaenol yn y ffordd rydym yn archwilio’r gofod.
Yn hytrach na theithiau byr i osod “baneri ac olion traed”, mae Artemis yn anelu at sefydlu presenoldeb dynol parhaus ar y Lleuad ac o’i hamgylch, gan ddechrau yn ardal Pegwn Deheuol y Lleuad.
Mae'r rhaglen yn mynd rhagddi fesul cam. Yn 2022, gwnaeth ymgyrch Artemis I lwyddo i brofi roced y System Lansio Gofod (SLS) a llong ofod Orion fel system integredig ar daith heb griw o amgylch y Lleuad.
Y cam nesaf yw Artemis II: taith o ddeg diwrnod gyda chriw a fydd yn anfon gofodwyr o amgylch y Lleuad heb lanio. Yn ôl tudalen swyddogol ymgyrch Artemis II Nasa, y targed ar hyn o bryd yw cynnal y lansiad "ddim hwyrach na mis Ebrill 2026".
Yn hollbwysig, mae Nasa eisoes wedi enwi criw Artemis II, gan olygu mai dyma’r tro cyntaf ers Apollo i griw penodol i’r lleuad gael ei gadarnhau'n gyhoeddus. Mae Artemis II yn ymgyrch allweddol oherwydd dyma fydd y tro cyntaf i Nasa anfon Orion ac SLS ar hediad gyda chriw, ac mae’r ymgyrch wedi'i dylunio i wirio bod systemau cynnal bywyd, llywio, amddiffyniad thermol a gweithrediadau’r gofod oll yn gweithredu'n ddiogel gyda phobl ar fwrdd y llong ofod.
Cyn y gall gofodwyr fyw ar y Lleuad, rhaid profi bod y daith yno yn ddibynadwy. Y tu hwnt i'r teithiau cynnar hyn, mae gweledigaeth hirdymor Nasa yn ymestyn ymhell y tu hwnt i un glaniad. Mae'r cynlluniau'n cynnwys y Gateway, gorsaf ofod fach yn orbit y Lleuad, ac allbost ar wyneb y Lleuad o'r enw Gwersyll Sylfaen Artemis, gyda'r bwriad o gynnal ymweliadau graddol hirach ar yr wyneb. Gyda'i gilydd, mae'r elfennau hyn wedi'u dylunio i'n dysgu sut i weithredu'n gynaliadwy y tu hwnt i'r Ddaear – gwybodaeth a fydd yn y pen draw yn bwydo ymlaen i deithiau dynol i blaned Mawrth, sef y nod sydd ar y gorwel.
Heriau iechyd
Bydd byw ar y Lleuad yn herio holl systemau organau’r corff dynol. Mae amgylchedd y Lleuad am rhoi gofodwyr i sefyllfa unigryw - sef y casgliad o straenachoswyr corfforol, cemegol, biolegol a seicolegol a wynebir y tu hwnt i’r Ddaear.
Mae'r rhain yn cynnwys llai o ddisgyrchiant (tua un rhan o chwech o ddisgyrchiant y Ddaear), amlygiad cronig i ymbelydredd cosmig, newidiadau eithafol mewn tymheredd, llwch gwenwynig y Lleuad, ynysu, tarfu ar gylchoedd cwsg ac effro, a chael eich cyfyngu am amser hir.
Yn wahanol i ofodwyr mewn orbit isel o amgylch y Ddaear, mae criwiau’r Lleuad yn gweithredu i raddau helaeth y tu allan i faes magnetig amddiffynnol y Ddaear. Mae hyn yn cynyddu amlygiad i ymbelydredd gofod a all niweidio DNA, amharu ar imiwnedd ac effeithio ar yr ymennydd a'r system gardiofasgwlaidd mewn ffyrdd cynnil ond a allai fod yn ddifrifol.
Mae llai o ddisgyrchiant hefyd yn newid yn sylfaenol sut mae gwaed, ocsigen a hylifau'n symud o amgylch y corff. Gall microdisgyrchiant amharu ar sut mae gwaed, ocsigen a glwcos yn cael eu danfon i'r ymennydd, gan gynyddu'r posibilrwydd o gamweithrediad niwrolegol a fasgwlaidd dros amser.
Er mwyn deall y risgiau hyn yn iawn, mae angen i ni edrych y tu hwnt i organau unigol ac yn lle hynny, ystyried integrom y gofod - y ffordd y mae'r ymennydd, y galon, pibellau gwaed, cyhyrau, esgyrn, system imiwnedd a metaboledd yn rhyngweithio fel cyfanwaith integredig o dan amodau’r gofod. Mae aflonyddwch bach mewn un system yn anfon crychdonnau trwy systemau eraill.
Un o'r agweddau mwyaf heriol yw bod llawer o newidiadau ffisiolegol sy'n gysylltiedig â’r gofod yn datblygu'n ddirgel. Gallai gofodwyr fod yn teimlo'n dda tra bod cymhlethdodau'n datblygu’n raddol o dan yr wyneb, gan ddod i’r amlwg fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach. Dyna pam mae Nasa yn rhoi cymaint o bwyslais ar fonitro ffisiolegol hirdymor a lliniaru risgiau i bobl fel rhan o strategaeth wyddoniaeth Artemis.
Gwrthfesurau effeithiol
Y newyddion calonogol yw bod bodau dynol yn hynod o addasadwy. Yr her yw arwain yr addasu yma mewn ffyrdd diogel a chynaliadwy. Gwrthfesurau gofodol yw'r dulliau sy’n cael eu defnyddio i leihau risg a diogelu iechyd gofodwyr.
Ymarfer corff yw'r conglfaen o hyd. Ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol, mae gofodwyr yn treulio tua dwy awr y dydd yn ymarfer corff i amddiffyn màs cyhyrau, dwysedd esgyrn a’r system gardiofasgwlaidd. Ar y Lleuad, fodd bynnag, rhaid i’r systemau ymarfer corff gael eu hailddylunio ar gyfer disgyrchiant rhannol, lle nad yw amodau cyfarwydd y Ddaear yn berthnasol mwyach.
Mae maeth yn wrthfesur pwerus arall. Mae diet yn dylanwadu ar iechyd esgyrn, cynhaliaeth cyhyrau, gwytnwch imiwnedd a hyd yn oed sut mae'r corff yn ymateb i ymbelydredd. Mae'n debygol y bydd strategaethau maeth personol, wedi'u teilwra i ffisioleg unigol yn hytrach na’r un fwydlen i bawb, yn dod yn fwyfwy pwysig yn ystod teithiau hir i’r Lleuad.
Mae disgyrchiant artiffisial hefyd yn cael ei archwilio. Gallai allgyrchyddion radiws byr olygu y bydd gofodwyr yn wynebu cyfnodau byr o lwyth disgyrchiant cynyddol, a allai helpu i sefydlogi systemau cardiofasgwlaidd a niwrofasgwlaidd. Er bod y dull hwn yn dal i fod yn arbrofol, gallai fod yn werthfawr ar gyfer teithiau i wyneb y Lleuad yn y dyfodol.
Bydd amddiffyn rhag ymbelydredd yn dibynnu ar sawl haen o amddiffyniad: cysgodi cynefinol (o bosibl gan ddefnyddio pridd y Lleuad ei hun), systemau rhybuddio cynnar ar gyfer stormydd solar, a strategaethau gweithredol sy'n cyfyngu ar amlygiad yn ystod cyfnodau risg uchel.
Yn hollbwysig, dylai gwrthfesurau fod yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol. Gallai monitro ffisiolegol parhaus, synwyryddion gwisgadwy a dadansoddeg data uwch ganiatáu i dimau’r ymgyrchoedd ganfod arwyddion rhybuddio cynnar ac ymyrryd cyn i broblemau bach ddatblygu i fod yn rhai a fyddai’n cyfyngu ar yr ymgyrchoedd.
Byw y tu hwnt i'r Ddaear
Bydd treulio cyfnodau hir ar y Lleuad yn brofiad llawn ysbrydoliaeth. Dychmygwch wylio'r Ddaear yn arnofio’n ddisymud uwch gorwel moel, distaw, neu weithio o dan awyr nad yw byth yn troi'n las. Ond bydd hefyd yn heriol, yn anghyfforddus ac yn anfaddeuol. Nid cyrchfan yn unig yw'r Lleuad – mae'n brawf o'n bioleg.
Os gallwn ddysgu sut i gadw bodau dynol yn iach, yn wydn ac yn gynhyrchiol ar wyneb y Lleuad, byddwn yn cymryd cam pendant tuag at fod yn rhywogaeth sydd wirioneddol yn teithio’r gofod. Mae Artemis yn dangos nad mater o weithredoedd arwrol byr yw archwilio bellach.
Mae'n fater o gynaliadwyedd, addasrwydd a deall ein hunain mor ddwfn â'r bydoedd rydyn ni’n ceisio eu harchwilio.
Wrth ddysgu sut i fyw ar y Lleuad, efallai y byddwn yn y pen draw yn dysgu cymaint am fywyd ar y Ddaear ag a wnawn am ein dyfodol y tu hwnt iddi.
Mae'r erthygl hon wedi’i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Barn yr awdur(on) yw’r hyn a fynegir yn erthyglau The Conversation ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.