Hanesion Graddio: Cysylltiadau cryf â'r Brifysgol yn sicrhau swyddi seiber yn y Bathdy Brenhinol i raddedigion oedd am newid gyrfa

13 Gorffennaf, 2026

Ross Wills a Connor Jones, yn eu gwisg raddio a’u hetiau graddio, o flaen draig enfawr y tu allan i'r ICC yn Casnewydd, Cymru

Mae’r ddau wedi newid gyrfa, mae'r ddau newydd gwblhau eu graddau seiberddiogelwch a chael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yr un, ac fe gafodd y ddau swyddi yn y Bathdy Brenhinol hyd yn oed cyn cwblhau eu cyrsiau ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), diolch i raddau helaeth iawn i'r addysgu a'r dysgu mae'r Brifysgol yn eu cynnig, sy’n sicrhau bod y Brifysgol yn un o sefydliadau arweiniol y maes.

Yn ddi-os, roedd rhagoriaeth Ross Wills, 32 oed, a Connor Jones, 28 oed, yn amlwg i’r recriwtwyr wnaeth gynnig y swyddi fel peirianwyr seiberddiogelwch iddyn nhw, ond roedd perthynas hirsefydlog PDC a'r Bathdy Brenhinol yn sicr o gymorth mawr hefyd.

I Ross, o Bencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr, daeth y penderfyniad i ddychwelyd i addysg ac wedyn cael swydd yn y Bathdy Brenhinol ar ôl cyfnod heriol.

"Ar ôl gadael yr ysgol es i weithio yn y maes gofal am ryw 10 mlynedd, gydag oedolion ifanc ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth," dywedodd.

"Yna cafodd fy ngefell ei barlysu mewn damwain, ac fe ddes i’n un o'i ofalwyr. Yn anffodus, cefais ddiagnosis o ganser a bu'n rhaid i fi roi'r gorau i ofalu am fy mrawd, ac wedyn daeth y canser yn ôl am yr eildro, a chefais fy nhrin yn llwyddiannus.

"Yna fe es i deithio am chwe mis i glirio fy mhen ac ystyried fy nyfodol. Tra oeddwn i yn Ne-ddwyrain Asia penderfynais mai seiberddiogelwch oedd y llwybr roeddwn i eisiau ei ddilyn.  Roedd gen i ddiddordeb yn y maes ers fy arddegau, ond fe roddodd y cyfnod o deithio eglurder i fi a wnaeth wedyn arwain at ymrwymo'n llawn i’r maes ar ôl cyrraedd  adref.

"Ges i le ar gwrs sylfaen diogelwch cyfrifiadurol PDC pan oeddwn i'n 28, ac yna es i yn fy mlaen i gwblhau’r radd mewn seiberddiogelwch."

Roedd taith Connor i PDC a'r Bathdy ychydig yn wahanol, ond bu’n rhaid iddo yntau hefyd wynebu nifer o heriau ar ôl cwblhau ei Safon Uwch.

"Roeddwn i wedi cael cynigion gan PDC bryd hynny i wneud gradd datblygu gemau, ond buodd yn rhaid i fi gael llawdriniaeth ar fy nghefn fwy nag unwaith,  a phob tro roeddwn i fod i ddechrau, methais â gwneud hynny,” dywedodd Connor, sy'n dod o Cil-y-coed.

"Wedyn, fe ddechreuais i weithio yn Asda, yn gyntaf fel arweinydd tîm ac wedyn, yn ystod fy mhedair neu bum mlynedd olaf gyda nhw, roeddwn i'n rheolwr ar siopau yng Nghaerdydd, Bryste a Gwlad yr Haf. Roedd yr oriau’n hir ac roeddwn i bant o fy mhartner a'n plant yn aml iawn.

"Ond roeddwn i wastad wedi eisiau mynd i'r brifysgol, a phan welais ein siopau’n dioddef oherwydd problemau seiberddiogelwch, dyma benderfynu y byddwn i’n hoffi dysgu mwy am y maes.

"Roedd PDC yn gweddu’n berffaith i fi, gan ei bod yn cynnig ffordd ymarferol iawn o ddysgu, yn hytrach na bod yn seiliedig ar arholiadau."

Mae Connor hefyd wedi cael rheswm ychwanegol i ddathlu eleni, ar ôl ennill gwobr Perfformiad Eithriadol mewn TG gan Sefydliad Siartredig y Gymdeithas Gyfrifiadureg Brydeinig.

Roedd ei brofiad yn adlewyrchu profiad llawer, gan gynnwys Ross, sydd wedi cwblhau cyrsiau seiber arobryn PDC – cyrsiau y mae myfyrwyr yn canmol eu dulliau dysgu ymarferol a’u mynediad at gyfleusterau arbenigol y Brifysgol, megis y Ganolfan Gweithrediadau Diogelwch. Mae canmoliaeth gyson hefyd i’r prosiectau grŵp, y cwricwlwm eang iawn o bynciau seiber a’r profiad o allu gweithio'n uniongyrchol ar brosiectau gyda chwmnïau allanol.

Mae'r cwricwlwm hwn - sy'n cyfuno sgiliau ymarferol cryf a sgiliau technegol eang - wedi bod yn un o'r rhesymau allweddol pam mae Connor a Ross wedi gallu sicrhau eu rolau yn y Bathdy.

Yn ôl Emma Montgomery Grimes, Rheolwr Seiberddiogelwch y Bathdy Brenhinol, mae’r hyfforddiant ymarferol sydd ar gael yn PDC yn golygu bod gan ei myfyrwyr fantais fawr. Mae hefyd yn canu clodydd y sgiliau meddalach y maen nhw’n eu dysgu.

Mae Emma yn siarad o brofiad, gan iddi raddio o PDC yn 2022 wedi cwblhau'r cwrs seiberddiogelwch. Fel myfyriwr aeddfed fe wnaeth hi wir werthfawrogi cynnwys y cwrs, yr arddull addysgu, a safon y myfyrwyr.

"Fe wnaethon ni ystyried nifer fawr o lwybrau recriwtio cyn dod o hyd i'r ymgeiswyr iawn ar gyfer y rolau peirianneg hyn," meddai Emma.

"Drwy fanteisio ar fy nghysylltiadau â PDC, cysylltais â Rachael Medhurst, Uwch Ddarlithydd Fforensig Ddigidol a Seiberddiogelwch y brifysgol, i weld a oedd ymgeiswyr addas ar gyfer y rolau.

"Roedd Ross a Connor yn ymgeiswyr rhagorol. Er nad oedden nhw wedi graddio eto, fe wnaethon nhw ddod â'r sgiliau, y gallu a'r potensial sydd eu hangen i lwyddo yn y rolau o'r cychwyn cyntaf."

"Dydyn ni ddim yn disgwyl i ymgeiswyr gyrraedd yn gwybod popeth sydd i’w wybod, ond mae’r myfyrwyr sydd wedi dilyn y cwrs hwn eisoes yn meddu ar yr hanfodion, y meddylfryd a'r profiad sydd eu hangen i ddechrau cael effaith yn syth bin."

Dywedodd Sharan Johnstone, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Academaidd PDC a Phennaeth Pwnc Seiberddiogelwch a Fforensig Digidol, ei bod wrth ei bodd bod Ross a Connor wedi ennill y marciau uchaf ar gyfer eu graddau, a'u bod wedi sicrhau swydd cyn hyd yn oed orffen eu cyrsiau.

"Dwi wrth fy modd ar ran Ross a Connor, a'r llwyddiant maen nhw wedi'i gael," dywedodd Mrs Johnstone.

"Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffordd rydyn ni’n adeiladu perthnasoedd â sefydliadau allanol, a defnyddio'r perthnasoedd hynny er budd myfyrwyr ein cyrsiau. Ac roedd cael un o'n graddedigion yn dod yn ôl aton ni i chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swyddi mor bwysig yn wych. Roedd gwybod bod y Bathdy yn dod aton ni i chwilio am y bobl fwyaf disglair ac abl, rhai y byddai eu sgiliau’n sicrhau llwyddiant mawr yn eu gyrfa, yn cynhesu’r galon.

"Rydyn ni’n dymuno'r gorau i Ross a Connor, ac yn gobeithio adeiladu hyd yn oed ymhellach ar ein perthynas â'r Bathdy Brenhinol."