Mae Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir gyntaf Cymru yn cynnig hyfforddiant trawsnewidiol
10 Gorffennaf, 2026
Mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiannau creadigol a phobl greadigol sy'n dechrau dod i'r amlwg wedi cwblhau Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir gyntaf Cymru, gan ennill sgiliau arloesol ym maes cynhyrchu cyfryngau uwch.
Daeth y rhaglen, a gyflwynwyd gan Final Pixel Academy, mewn partneriaeth â Media Cymru a partner consortiwm Prifysgol De Cymru a chefnogaeth fivefold a Gorilla Academy, â phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant at ei gilydd ar gyfer hyfforddiant ymarferol mewn llifoedd gwaith amser real a thechnegau cynhyrchu rhithwir.
Gwnaeth Final Pixel Virtual Production Fellowship™ gynnig profiadau manwl o safon i 16 aelod o griw lefel ganolig i uwch a thalent sy'n dod i'r amlwg yn y diwydiant – gan weithio ar draws ffilmiau, teledu lefel uchel, gemau, darlledu, animeiddio, effeithiau gweledol, digwyddiadau byw ac ôl-gynhyrchu yng Nghymru.
Mae galw cynyddol am sgiliau cynhyrchu rhithwir o bob rhan y sector wrth i gynyrchiadau fabwysiadu llifoedd gwaith cyfaint LED a pheiriannau amser real i symleiddio sesiynau ffilmio, gwella rheolaeth greadigol a chefnogi arferion mwy cynaliadwy.
Dros gyfnod o naw mis, datblygodd y sawl a gymerodd ran gymwyseddau cynhyrchu rhithwir craidd – boed hynny yn creu amgylcheddau rhithwir neu’n gweithio y tu mewn i gyfaint LED – gan fagu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amgylcheddau cynhyrchu.
Dyma a ddywedodd James Codling, Prif Hyfforddwr Final Pixel Academy: “Mae’r Gymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd hyfforddiant yn seiliedig ar lifoedd gwaith cynhyrchu cyfredol. Peth gwych yw gweld pa mor gyflym y mae pobl yn datblygu sgiliau, ond ar ben hynny yr hyder yn y dechnoleg a'r newidiadau sy’n digwydd yn y diwydiant. Mae cymrodyr yn ymuno â ni yn chwilfrydig ac yn ein gadael yn barod ac yn awyddus iawn i roi hyn ar waith mewn cynyrchiadau. Llwyddodd rhai cymrodorion hefyd i ymuno â lleoliad cynhyrchu Final Pixel byw, gan ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd stiwdio Cynhyrchu Rhithwir proffesiynol.
I mi, y llwyddiant go iawn yw creu lle lle i bobl gael dysgu, cydweithio ac arbrofi’n rhwydd, gan ganiatáu iddyn nhw ddeall eu rhan mewn maes yn y diwydiant sy’n datblygu’n barhaus.”
Dyma ddywedodd Lewis Rawlins, hyfforddai Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Cymru: “Rhoddodd y lleoliad gyflwyniad anhygoel i mi i gynhyrchu rhithwir ar y set a chefais fy ysbrydoli o ran fy nyfodol yn y diwydiant. Roedd bod yn rhan o osodiad cynhyrchu rhithwir go iawn, o gamerâu y tu ôl i’r llenni i gledru camerâu, yn brofiad ymarferol gwerthfawr i mi ar lefel broffesiynol.”
Dywedodd Sally Lisk-Lewis, Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Media Cymru: “Nid y dechnoleg yn unig sy’n gwneud Cynhyrchu Rhithwir yn arbennig – ond parodrwydd cymuned fyd-eang i ddysgu gyda’i gilydd, addysgu gyda’i gilydd a thyfu gyda’i gilydd. Drwy ein Cymrodoriaeth, rydyn ni’n helpu i greu'r gymuned honno yng Nghymru un cyswllt ar y tro. Hoffen ni ddiolch i Final Pixel, fivefold a Gorilla am ddod at ei gilydd i wireddu hyn.”