Myfyriwr PDC yn mynd ag arbenigedd hyfforddi i Gemau'r Gymanwlad

22 Gorffennaf, 2026

Mae Rob yn sefyll ar fewnfaes Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas tra bod beicwyr trac yn reidio heibio yn y cefndir yn ystod sesiwn hyfforddi.

Bydd myfyriwr o Brifysgol De Cymru (PDC) yn chwarae rhan allweddol yn ymgyrch Gemau'r Gymanwlad Tîm Cymru'r haf hwn fel hyfforddwr dygnwch i dîm beicio trac y genedl.

Bydd Rob Partridge, sy'n astudio MSc mewn Chwaraeon Perfformiad a Hyfforddi wrth weithio’n llawn amser i Beicio Cymru, yn teithio i Glasgow fel rhan o staff hyfforddi Tîm Cymru, lle bydd yn goruchwylio 10 athletwr dygnwch sy'n cystadlu ar draws ystod o ddisgyblaethau beicio trac.

Mae Rob wedi bod yn paratoi athletwyr ar gyfer y Gemau ers mis Tachwedd, gan gydbwyso gofynion chwaraeon elitaidd gydag astudiaethau ôl-raddedig a bywyd teuluol.

"Mae bron wedi bod fel gwneud dwy swydd am 18 mis," meddai Rob. "Yn ogystal â pharatoi ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, rwy'n dal i redeg ein rhaglen datblygu ieuenctid, felly mae wedi bod yn hynod o brysur. Ond unwaith y byddwn ni'n cyrraedd y Gemau, mae'r holl baratoi yn dod at ei gilydd ac mae'r ffocws yn dod yn glir iawn."

Mae Rob yn gweithio gyda rhai o feicwyr mwyaf addawol Cymru, gan helpu i ddatblygu beicwyr sy'n gallu symud ymlaen i raglenni Prydain Fawr, Pencampwriaethau'r Byd a thimau proffesiynol. Mae gan Beicio Cymru record gref o gynhyrchu talent elitaidd, gyda mwy na thraean o garfan seiclo Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Paris wedi dod trwy lwybrau datblygu Cymru.

Yn gyn-feiciwr cystadleuol ei hun, camodd Rob mewn i hyfforddi ar ôl ymddeol o rasio yn 2017. Penderfynodd ddychwelyd i addysg i ategu ei brofiad ymarferol gyda gwybodaeth academaidd.

"Roeddwn i wastad eisiau mynd yn ôl i addysg ffurfiol," meddai. "Roeddwn i wedi cyrraedd pwynt lle roeddwn i'n gweithio ochr yn ochr â phobl addysgedig iawn mewn chwaraeon elitaidd, ac er bod profiad wedi mynd â mi yn bell, roeddwn i eisiau deall y theori y tu ôl i hyfforddi a pherfformiad."

Nawr yn agosáu at ddiwedd ei MSc, dywed Rob fod y cwrs wedi cael effaith uniongyrchol ar ei ymarfer hyfforddi.

"Mae'r cwrs wedi gwneud i mi feddwl yn wahanol am sut rwy'n hyfforddi, sut rwy'n cyfathrebu a sut rwy'n creu amgylcheddau perfformiad uchel," meddai. "Mae modiwlau fel seicoleg chwaraeon a mentora wedi newid y ffordd rwy'n mynd ati i'm gwaith”.

Mae Rob yn rhoi clod i hyblygrwydd a dealltwriaeth y Brifysgol o ofynion chwaraeon elitaidd am ei alluogi i gydbwyso astudio ochr yn ochr â llwyth gwaith dwys ac ymrwymiadau teuluol, gan gynnwys croesawu ei ail blentyn yn ystod ei flwyddyn gyntaf.

Dywedodd: "Mae'r darlithwyr yn PDC yn deall realiti gweithio mewn chwaraeon perfformiad uchel. Maen nhw wedi fy nghefnogi i barhau i ddysgu wrth reoli popeth arall sy'n digwydd."

I'r rhai sy'n ystyried astudio ôl-raddedig wrth weithio mewn chwaraeon, dywed Rob fod y gwobrau’n gorbwyso'r heriau.

"Rydych chi'n cael allan ohono'r hyn rydych chi'n ei roi i mewn," meddai. "Os ydych chi wir eisiau datblygu eich hun, mae cymaint o bobl wybodus ar y cwrs, a chymaint o gyfleoedd i archwilio gwahanol agweddau ar hyfforddi a pherfformiad. Mae wedi bod yn heriol ond rwy’n difaru dim."