Ffilm gan raddedig yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Iris Prize yr 20fed

15 Hydref, 2026

Llun o ffilm Love is not an emotion

Dangoswyd ffilm fer gan Will Collins, graddedig o PDC, ar noson agoriadol Gŵyl Ffilm Iris Prize – dathliad byd-eang o straeon LGBTQ+ – sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Ysgrifennodd a chyfarwyddodd Will y ffilm, Love is Not an Emotion, tra oedd yn astudio ar gyfer gradd BA (Anrh) Perfformio a'r Cyfryngau yn PDC. Mae'r stori ddystopaidd, sydd wedi'i lleoli ym Mhrydain yn y flwyddyn 2030, yn archwilio rhamant annisgwyl rhwng Archie – android a reolir gan ddeallusrwydd artiffisial – a Rory, bod dynol; mae'r ddau yn wynebu cwestiynau am derfynau dynoliaeth, deallusrwydd artiffisial, a beth yn union mae caru yn ei olygu.

Cydweithiodd Will â myfyrwyr o feysydd Perfformio a'r Cyfryngau, Theatr a Drama, Ffotograffiaeth, a Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw ar y ffilm; roedd hon yn un o bedwar teitl Cymreig a ddangoswyd yn ystod digwyddiad noson agoriadol yn Cineworld.

Dywedodd Matthew Gough, arweinydd y cwrs Perfformio a'r Cyfryngau yn PDC: "Rydym wrth ein bodd yn gweld cyflawniad Will yn cael ei ddathlu yng Ngŵyl Iris Prize. Mae eu llwyddiant yn enghraifft wych o'r dalent greadigol sy'n deillio o'r cwrs, ac o'r cyfleoedd a all godi o ymgysylltu'n barhaus â phartneriaid diwydiant fel Iris.

"Mae ein myfyrwyr Perfformio a'r Cyfryngau, yn ogystal â myfyrwyr Ffilm, yn cefnogi'r ŵyl yn weithredol drwy gydol yr wythnos – gan greu cynnwys, cynorthwyo gyda gweithgareddau'r ŵyl, a mynychu rhaglen Diwrnod y Diwydiant, lle mae ganddynt gyfle i ddysgu'n uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr y diwydiant am ddatblygu gyrfa yn y diwydiannau creadigol.

"Mae cynnwys gwaith Will yng Ngŵyl Iris Prize eleni yn enghraifft wych o sut mae graddedigion yn symud ymlaen o gymryd rhan yn yr ŵyl fel myfyrwyr i gael eu cydnabod fel artistiaid yn eu hawl eu hunain."

Ychwanegodd Will: “Rwy’n teimlo balchder aruthrol bod Love Is Not An Emotion wedi’i ddewis i gael ei ddangos am y tro cyntaf ar noson agoriadol yr 20fed Gŵyl Ffilm Iris Prize. Mae cael llwyfan mor fawr ar gyfer fy ffilm fer gyntaf fel cyfarwyddwr – yn yr ŵyl ffilmiau byrion LGBTQ+ fwyaf yn y byd sy’n cynnig gwobrau – yn anrhydedd na fyddaf byth yn ei gymryd yn ganiataol.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod gan leisiau ‘queer’ lwyfan lle gallwn adrodd ein straeon a rhannu ein profiadau ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd; am yr 20 mlynedd diwethaf, mae Iris wedi bod yn oleuni disglair o ran adrodd straeon ‘queer’, gan ddisgleirio ar draws y byd o’n cartref gwych yn Ne Cymru, ac mae cael fy ystyried yn rhan o’r etifeddiaeth honno yn fraint.

“Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth wych gan y cwrs Perfformio a’r Cyfryngau yn PDC. Yn ystod fy nhair blynedd ar y cwrs, rwyf wedi dysgu’r sgiliau i ddatblygu fy hun, meddwl yn feirniadol a bod yn annibynnol yn fy nghrefft ar draws rolau niferus yn y diwydiant ffilm a theledu. Ar y cwrs, roeddem bob amser yn ymdrechu i weithio yn unol â safonau’r diwydiant – ac i gyrraedd y safonau hynny – o’r diwrnod cyntaf ym mhob un o’n prosiectau; wedi’r cyfan, pam lai?

“Fe wnaeth y cyfnodau dwys o ddysgu a datblygu sgiliau fy ngalluogi i fod yn gwbl barod ar gyfer y diwydiant hynod heriol rwyf wedi ymuno ag ef bellach. Ni fyddwn wedi bod yn barod ar gyfer hyn oll oni bai am y cyfeiriad gwirioneddol ysbrydoledig y mae’r cwrs yn cael ei arwain ynddo nawr.”

Cynhelir Gwobr Iris 2026 rhwng 12 ac 18 Hydref. I weld rhaglen lawn yr ŵyl, ewch i: https://irisprize.org/2026-programme/

Delweddau: Frederika Machova a Jon Pountney