Mae PDC yn llofnodi cytundeb partneriaeth i gryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng RCT a Mbale

16 Hydref, 2026

Geoff Lloyd a'r Athro Louise Bright yn llofnodi'r bartneriaeth.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gyda'r elusen gymorth ryngwladol PONT i gryfhau cysylltiadau addysgol a chymunedol rhwng Rhondda Cynon Taf (RCT) a Mbale, Uganda.

Mae PONT (Partnerships Overseas Networking Trust) yn elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr sydd wedi'i lleoli yn RCT, maent yn gweithio gyda sefydliadau yn Uganda i fynd i'r afael â thlodi a chefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae'r cytundeb yn adeiladu ar y bartneriaeth 20 mlynedd erbyn hyn, rhwng y ddau sefydliad; yn ystod y cyfnod hwn, mae staff a myfyrwyr y Brifysgol wedi cyfrannu at brosiectau sy'n ymwneud â maeth, iechyd y cyhoedd, newid hinsawdd, gwydnwch rhag trychinebau, addysg a datblygu cynaliadwy.

Mae'r llofnod yma, a gynhaliwyd ddydd Llun 12 Hydref yng Nghampws Trefforest y Brifysgol, yn cydnabod yn ffurfiol y bartneriaeth hirdymor ac yn pennu ffordd ymlaen ar gyfer cydweithio yn y dyfodol mewn meysydd sy'n cynnwys iechyd cymunedol, peirianneg, addysg, a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae'n darparu fframwaith i'r ddau sefydliad ddatblygu cyfleoedd newydd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, ymchwil, ymgysylltu â myfyrwyr, a phrosiectau cymunedol a fydd yn sicrhau buddion cynaliadwy i gymunedau yn Mbale.

Dywedodd Geoff Lloyd, Cydlynydd PONT: “Nid elusen gyffredin yw PONT, ond yn hytrach partneriaeth gefeillio trefi. O’r cychwyn cyntaf, gwnaethom geisio meithrin cysylltiadau rhwng sefydliadau yn Rhondda Cynon Taf ac Uganda, gan gynnwys PDC.”

“Ers hynny, mae llawer o gydweithwyr PDC wedi helpu i ffurfio rhwydwaith craidd gwirfoddolwyr PONT, ac mae mwy na 500 o fyfyrwyr PDC wedi teithio i Mbale i gyfrannu at ystod eang o brosiectau sy'n cael effaith sylweddol. Mae llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn gyda PDC yn gam mawr ymlaen yn ein partneriaeth 20 mlynedd gyda'r Brifysgol.”

Dywedodd yr Athro Louise Bright, Prif Swyddog Masnachol PDC: “Yn ei hanfod, cyfeillgarwch yw ein perthynas ag elusen PONT, perthynas sydd wedi tyfu dros ugain mlynedd trwy weithio ar y cyd, ymweliadau ar y cyd a llawer iawn o barch at ei gilydd ymhlith pobl yng Nghymru a Mbale.”

“Yr hyn sy'n gwneud dull gweithredu PONT mor arbennig yw ei fod yn cael ei arwain gan y cymunedau eu hunain. Mae ein staff a'n myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol i'w helpu i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a'r adnoddau i gynnal eu cynnydd eu hunain ymhell ar ôl i brosiect ddod i ben. Rydw i wedi clywed cymaint o’n myfyrwyr yn disgrifio eu cyfnod yn Mbale fel profiad sy’n newid bywyd – maen nhw’n dychwelyd adref gyda golwg hollol wahanol ar y byd, ac yn aml gydag ymdeimlad newydd o’r hyn maen nhw am ei wneud â’u bywydau.

“Mae llofnodi’r cytundeb hwn yn foment o falchder i PDC. Mae’n ymrwymiad i’r cyfeillgarwch hwn ac i bopeth y bydd yn ei gyflawni yn y blynyddoedd i ddod.”