PDC yw'r cyntaf yng Nghymru i gynnig rhaglen Young Enterprise i fyfyrwyr Busnes

14 Hydref, 2026

Myfyrwyr Young Enterprise

Prifysgol De Cymru (PDC) fydd y gyntaf yn y wlad i integreiddio rhaglen 'Start Up' Young Enterprise i'w gradd Busnes a Rheolaeth, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddechrau a rhedeg eu busnes eu hunain.

Bydd myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar y cwrs Busnes a Rheolaeth yn PDC yn gweithio mewn timau i lansio syniad busnes neu brototeip a'i gyflwyno mewn digwyddiad arddangos. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddangos eu sgiliau entrepreneuraidd a'u potensial busnes.

Gyda chefnogaeth Young Enterprise – prif elusen addysg ariannol ac entrepreneuraidd y DU – bydd myfyrwyr yn cael mynediad at gymorth mentora, cyngor, adnoddau ac arweiniad sydd wedi'u teilwra i gwricwlwm Busnes a Rheolaeth.

Mae'r rhaglen 'Start Up', a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer addysg bellach ac uwch, yn helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr a'u paratoi ar gyfer byd gwaith.

Gall myfyrwyr hefyd agor cyfrif banc busnes a gwerthu i'r cyhoedd mewn digwyddiadau amrywiol, yn ogystal â thrwy siop ar-lein YE Trading Station.

Dywedodd Liam Newton, arweinydd y cwrs Busnes a Rheolaeth yn PDC: “Rydym wrth ein bodd mai ni yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i integreiddio rhaglen 'Start Up' Young Enterprise i'n gradd, fel rhan o'n cwricwlwm newydd sy'n seiliedig ar heriau.

“Drwy gael partneriaethau strategol wedi'u hymgorffori yn ein haddysgu a'n hasesu, mae myfyrwyr yn cael eu paratoi'n llawn ar gyfer y gweithlu, a byddant yn graddio gyda rhwydwaith llawn o gysylltiadau, yn amrywio o fusnesau bach a chanolig i gwmnïau mawr, ar ôl adeiladu portffolio o brofiad drwy gydol eu hastudiaethau.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y myfyrwyr yn ymgymryd â'r her o ddechrau a rhedeg busnes, gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth tra'n elwa ar gefnogaeth wych Young Enterprise.”

Ychwanegodd Simon Page, Arweinydd Young Enterprise yng Nghymru: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag PDC. Mae'r rhaglen yn ffordd bwysig o gryfhau CV; drwy gyfuno dysgu academaidd â'r profiad entrepreneuraidd o ddatblygu eu busnes newydd eu hunain, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y byd sy'n newid yn gyflym heddiw. Byddant yn ennill profiad ymarferol a rhwydweithiau gwerthfawr, ac yn dysgu beth sydd ei angen i droi syniad yn fusnes hyfyw.”