Mae Kiri Pritchard-McLean yn ymuno â myfyrwyr PDC ar gyfer ymgyrch Oxfam

29 Medi, 2026

Kiri Pritchard-McLean gyda tim DisDressed

Mae myfyrwyr ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru wedi ymuno â’r digrifwr ac eicon steil o Gymru, Kiri Pritchard-McLean, i gefnogi ymgyrch ‘Medi Ail- Law’ Oxfam Cymru.

Nod yr ymgyrch flynyddol yw tynnu sylw at effaith amgylcheddol ffasiwn cyflym drwy herio siopwyr i brynu dillad ail-law yn hytrach na rhai newydd.

Gan weithio mewn timau, aeth myfyrwyr blwyddyn gyntaf o gyrsiau Dylunio Ffasiwn a Marchnata Ffasiwn ati i chwilio drwy’r rhoddion a gafwyd gan siopau lleol Oxfam, gan lunio gwisgoedd ac ail-greu dillad i greu golwg hollol newydd.

Creodd y tîm ‘DisDressed’ – sy’n cynnwys y myfyrwyr Dylunio Ffasiwn Gio Hanratty-Russell, Emily Lawrence ac Anna Scott, a’r myfyrwyr Marchnata Ffasiwn Eva Patalano a Lily Stephens – amrywiaeth o wisgoedd gan ddefnyddio darnau ‘vintage’ arbennig o’r rhoddion.

Dywedodd Gio: “Roedd gennym gymaint o ddewis o ran y dillad oedd ar gael, ac roeddem wrth ein bodd yn ychwanegu ein steil personol at y golwg drwy ddefnyddio rhai o’n hoff ddarnau. Rydym yn gefnogwyr mawr o siopau elusen gan eich bod bob amser yn gallu dod o hyd i rywbeth nad oes gan unrhyw un arall.”

Ychwanegodd Emily: “Mae’n rhaid i chi edrych ar beth allai dilledyn fod, nid beth ydyw ar hyn o bryd. Mae cymaint o ddarnau unigryw yn aros i gael eu darganfod, a digonedd o ddeunyddiau y gallwch eu defnyddio i greu rhywbeth newydd. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn ffordd wych o arddangos ein creadigrwydd.”

Mae Kiri, sy’n hyrwyddo steil gwreiddiol a chynaliadwyedd, wedi bod yn prynu dillad ail-law ers iddi fod yn ei harddegau. Dywedodd: “Mae’r rhan fwyaf o fy nillad, gan gynnwys gwisgoedd ar gyfer fy sioeau, yn rhai ail-law. Mae’n rhatach; mae’n eich gorfodi i fod yn fwy creadigol gyda’r hyn sydd gennych eisoes; ac mae gennym ddigon o ddillad ar y blaned hon i wisgo’r chwe chenhedlaeth nesaf – felly nid oes angen i ni wneud mwy.

“Mae’r golwg y mae’r myfyrwyr wedi’i greu yn anhygoel. Rwyf wrth fy modd gyda’r defnydd o weadau gwahanol – fel tiwl, gwlân, denim a tweed – i greu casgliad cydlynol sydd wedi’i gynllunio’n ofalus iawn. Da iawn am waith gwych!”

Dywedodd Gwern Gwynfil, Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam Cymru: “Mae ffasiwn yn wych, ond mae hefyd yn un o’r diwydiannau sy’n llygru fwyaf ar y blaned. Dyna pam mae dewis dillad ail-law yn bwysicach nag erioed, ac rydym wrth ein bodd yn cael cefnogaeth Kiri ar gyfer 'Medi Ail-Law'.

“Gyda thraean o’n holl ddillad ar gyfartaledd yn eistedd heb eu gwisgo yn ein cypyrddau, dylem oll ystyried clirio’r rhain a’u rhoi i’n siop Oxfam leol cyn chwilio’r siopau elusen am ddillad ‘hen’ newydd y byddwn yn eu gwisgo mewn gwirionedd! Mae hyn yn dda i’r blaned, yn cefnogi gwaith Oxfam ledled y byd ac yn ein galluogi i ychwanegu elfennau unigryw at ein steil personol. Pawb ar eu hennill!”

Ychwanegodd Emma Jones, Arweinydd y Cwrs Marchnata Ffasiwn yn PDC: “Yn PDC, rydym yn gwreiddio cynaliadwyedd drwy gydol ein cwricwlwm Ffasiwn, ac felly mae prosiectau fel y rhain yn hynod bwysig wrth godi ymwybyddiaeth ymhlith y genhedlaeth nesaf o ddylunwyr a steilwyr bod angen i’r diwydiant newid er mwyn helpu ein planed.

“Mae’r myfyrwyr wedi mwynhau’n fawr ymateb i her wych Kiri, gan greu golwg anhygoel o ddillad ail-law a rhoi bywyd hirach i ffasiwn.”