O'r ddosbarth i fyd ffasiwn uchel: myfyrwyr PDC yn ail-ddychmygu gwisgoedd ysgol
21 Medi, 2026
Mae myfyrwyr Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi trawsnewid gwisgoedd ysgol diangen yn ddillad ffasiwn sy'n haeddu lle ar y catwalk, diolch i bartneriaeth sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd gyda Caerphilly Uniform Exchange.
Gan ddefnyddio eitemau a roddwyd na ellid eu hailddosbarthu'n hawdd – gan gynnwys crysau polo wedi pylu, crysau chwys personol a throwsusau wedi treulio – gwnaeth y myfyrwyr eu huwchgylchu'n siacedi, blwsys, sgertiau a ffrogiau cyfoes.
Gan ystyried rhagolygon tueddiadau'r gwanwyn a'r haf, archwiliodd y myfyrwyr sut y gellid datgymalu gwisgoedd a roddwyd a'u hailweithio'n ddillad gwreiddiol. Cafodd eu dyluniadau terfynol eu datgelu mewn arddangosfa yn gynharach y mis hwn yn Y Banc yng nghanol tref Caerffili, cyn cael eu harddangos yng Nghampws PDC yng Nghaerdydd.
Sefydlwyd Caerphilly Uniform Exchange yn 2022 gan Lisa Watkins. Mae'n darparu gwisgoedd ysgol newydd ac ail-law i deuluoedd ledled y fwrdeistref sirol, gan helpu i leihau costau ac atal tecstilau rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Ar ôl mynychu symposiwm PDC, 'Conscious Threads' – a heriodd arweinwyr y diwydiant a busnesau lleol i ailfeddwl sut y caiff ffasiwn ei greu a'i ddefnyddio – bu Lisa yn gweithio gyda'r tîm Ffasiwn i ddatblygu briff byw ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn.
Dywedodd Lisa Watkins, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Caerphilly Uniform Exchange: "Yn ystod y pedair blynedd rydym wedi bod yn gweithredu, rydym wedi sylwi bod rhai dillad yn anodd eu hailddefnyddio, felly roeddem eisiau dod o hyd i ddewis arall cynaliadwy yn lle gorfod cael gwared arnynt.
"Rwyf wrth fy modd yn dweud bod myfyrwyr PDC wedi dod o hyd i atebion gwych i drawsnewid yr 'eitemau problemus' hyn yn ddillad anhygoel. Maent hefyd wedi ein helpu i nodi ffyrdd y gallwn ddefnyddio gwisgoedd a roddwyd i greu eitemau i'w gwerthu yn ein siop, a fydd o fudd mawr i ni yn y dyfodol.
"Mae'r arddangosfa hon yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth am wastraff tecstilau, tra'n tynnu sylw at Caerphilly Uniform Exchange i'r gymuned ehangach ac yn arddangos gwaith gwych y myfyrwyr."
Ychwanegodd Joanne Terrar-Young, darlithydd mewn Dylunio Ffasiwn yn PDC: “Mae gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant yn gyfle amhrisiadwy i’n myfyrwyr. Mae nhw'n dangos mwy o ymrwymiad i brosiectau fel hyn oherwydd bod y canlyniadau’n real; gallant weld y gwerth maent yn ei greu a’r effaith gadarnhaol y gall eu gwaith ei chael. Maent wedi gweithio ar y cyd ac yn unigol ar ddylunio, prosesau, datblygu, creu a chyflwyno, sydd wedi bod yn brofiad gwych iddynt.
“Mae ymgorffori cynaliadwyedd yn ein cwricwlwm yn hynod bwysig, ac ym maes Dylunio Ffasiwn, mae angen ei ystyried ym mhob cam o’r broses. Nid oes fformiwla hud i wneud y diwydiant yn wyrddach, ond mae deialog ystyrlon yn hanfodol i ysgogi newid.”
Mae Rosie Protheroe, o Gastell-nedd, yn ei blwyddyn olaf yn astudio Dylunio Ffasiwn ac fe greodd benwisg a choler o ffabrig gingham. Dywedodd: “Doeddwn i erioed wedi ail-ddefnyddio hen ddillad i greu rhywbeth newydd o’r blaen, felly roedd y prosiect hwn yn her wirioneddol a ddysgodd lawer i mi.
“Dewisais y ffabrig gingham oherwydd fy mod i wrth fy modd â’r patrwm, ac roeddwn i’n gwybod bod ganddo’r potensial i ddod yn rhywbeth hardd iawn a fyddai’n gweddu i’r steil roeddwn i’n anelu ato. Mae gor-ddefnyddio yn broblem enfawr yn y diwydiant ffasiwn, gyda chymaint o ddillad wedi’u difrodi yn mynd i safleoedd tirlenwi, felly mae wedi bod yn wych rhoi bywyd newydd iddynt.”
Mae LeAndre Kuudzadombo, o Leeds, hefyd yn ei blwyddyn olaf ar y cwrs ac fe wnaeth hi wisg aml-bwrpas drwy gyfuno crysau ysgol a ffabrig gingham. Dywedodd: “Roeddwn i wrth fy modd â thuedd ‘La Dolce Vita’ a oedd yn boblogaidd iawn yr haf hwn, felly tynnais ysbrydoliaeth o’r dyluniadau ffrwythau lliwgar a cheisiais eu hymgorffori mewn dilledyn amlbwrpas y gellid ei wisgo mewn sawl ffordd wahanol.
“Pan wnaethom ymweld â siop Caerphilly Uniform Exchange yn Lansbury Park, fe’m hatgoffodd o’r gymuned lle cefais fy magu; ardal eithaf difreintiedig gyda nifer o deuluoedd incwm isel. Dyna pam yr oedd hi’n bwysig i mi greu gwisg y gellid ei gwisgo dro ar ôl tro, gan greu golwg wahanol bob tro. Rwy’n wirioneddol falch ohoni, ac ni allaf aros i’w gwisgo fy hun!”