PDC ar frig rhestr prifysgolion Cymru yn The Guardian University Guide 2027

12 Medi, 2026

Mae grŵp o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i adeilad prifysgol modern gyda ffenestri gwydr. Mae tri pherson yn amlwg o flaen y llun gyda bagiau a sachau cefn wrth iddynt symud tuag at y brif mewnfa ar ddiwrnod heulog ac egniog.

Prifysgol De Cymru (PDC) sydd ar frig rhestr prifysgolion Cymru yn The Guardian University Guide 2027. Mae PDC wedi codi i safle 24 yn y DU (o blith 123 o brifysgolion), cynnydd o 19 safle ers y llynedd.

Pynciau sydd ar frig y tablau 

Yn y tablau pwnc, PDC sydd ar y brig drwy’r DU gyfan ar gyfer Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, a Bydwreigiaeth. Mae pedwar pwnc arall hefyd yn cyrraedd 10 uchaf y DU: Animeiddio a dylunio gemau (7fed), Peirianneg awyrofod (8fed), Nyrsio plant (8fed), a Proffesiynau iechyd (9fed).  

Mae nifer o feysydd pwnc hefyd yn 25 uchaf y DU – Ffasiwn a thecstilau (11eg), y Gyfraith (11eg), Nyrsio (11eg), Gwyddoniaeth fforensig (15fed), Addysg (18fed), a Seicoleg (25ain).  

Yng Nghymru, PDC sydd ar frig y tablau pwnc mewn Peirianneg Awyrofod, Animeiddio a dylunio gemau, Nyrsio plant, Addysg, y Gyfraith, Marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, Bydwreigiaeth, a Nyrsio. 

Y safle uchaf erioed hyd yn hyn 

Mae'r Brifysgol hefyd yn safle rhif 23 yn y DU am 'wariant fesul myfyriwr', rhif 28 yn y DU ar gyfer myfyrwyr sy'n 'fodlon gyda’r asesu', ac yn safle rhif 33 yn y DU ar gyfer 'gwerth ychwanegol' – mesur o sut mae addysgu a chymorth y Brifysgol yn galluogi myfyrwyr i ragori ar eu perfformiad academaidd disgwyliedig yn ystod eu cyfnod gyda ni.

Dywedodd yr Athro Osama Khan, Is-Ganghellor PDC: "Rydyn ni wrth ein bodd bod y  Guardian wedi cydnabod PDC fel y brifysgol orau yng Nghymru, ac yn un o’r  25 o brifysgolion gorau’r DU, gan olygu ein bod yn y safle uchaf erioed yn y tablau hyd yn hyn. 

"Mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu ymroddiad ac arbenigedd cydweithwyr ledled y Brifysgol, y mae eu hymrwymiad i roi profiad rhagorol i fyfyrwyr yn parhau i wneud gwir wahaniaeth. Mae hefyd yn adlewyrchu uchelgais a llwyddiant ein myfyrwyr, sydd wrth wraidd y cyfan a wnawn. 

"Mae'r Guardian University Guide yn rhoi pwyslais cryf ar brofiad myfyrwyr a chyflogadwyedd, gan olygu bod y gydnabyddiaeth hon yn arbennig o ystyrlon. Trwy ein dull unigryw o addysgu, rydyn ni’n arfogi myfyrwyr gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad mewn diwydiant sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd. Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu dysgu arloesol sydd â chysylltiadau cryf â diwydiant ac sy'n helpu ein myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial."