Prifysgolion a diwydiant yn ymuno yng Nghynghrair Ymchwil Marshall Land

23 Medi, 2026

Cysgod modiwlaidd a cherbyd Marshall Land Systems wedi'i arddangos mewn amgylcheddau anialwch ac eira.

Mae prifysgolion yng Nghanada a Chymru wedi creu partneriaeth newydd i archwilio technoleg amddiffyn.

Delwedd © Marshall Land Systems

Bydd Cynghrair Ymchwil Marshall Land, a sefydlwyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol New Brunswick ynghyd â Marshall Land Systems, cwmni diwydiant amddiffyn sydd dan berchnogaeth Canada ac sydd â threftadaeth Brydeinig, yn dod ag academyddion ac arbenigwyr technoleg flaenllaw ynghyd i archwilio technolegau newydd ym maes seilwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer defnydd milwrol a dyngarol. 

Mae arweinwyr o’r prifysgolion a'r cwmni wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i greu'r Gynghrair, a fydd yn galluogi trosglwyddo technoleg, cyfnewid staff a gwaith ymchwil a datblygu ar y cyd. Bydd y prosiectau cychwynnol yn canolbwyntio ar seilwaith y cwmni y gellir ei ddefnyddio, sy'n darparu cyfleusterau diogel a gweithredol gan amrywio o sganwyr CT symudol a chyfleusterau ysbytai i ganolfannau cynnal a chadw mecanyddol a chanolfannau rheoli.

Mae'r datganiad o fwriad, a lofnodwyd mewn seremoni rithwir, yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol technoleg amddiffyn wrth yrru twf economaidd domestig a chydweithrediad rhyngwladol rhwng gwledydd allweddol NATO, yn erbyn cefndir amgylchedd byd-eang cynyddol gyfnewidiol. 

Dywedodd Gareth Williams, Prif Swyddog Gweithredol Marshall Land Systems: "Mewn byd cynyddol gyfnewidiol, mae'r gynghrair hirsefydlog a sylfaenol rhwng Canada a'r DU yn dod yn bwysicach fyth. Wrth i gynghreiriaid NATO fuddsoddi i ddiogelu ein ffordd o fyw, bydd y gynghrair ymchwil drawsatlantig hon yn dod â'r meddyliau disgleiriaf ynghyd i gefnogi'r ymdrech i'n cadw'n ddiogel ac i gynnal sefydlogrwydd yn y byd. Rydym yn falch o gydlynu’r gwaith hanfodol hwn rhwng Cymru a New Brunswick drwy Gynghrair Ymchwil Marshall Land.

Dywedodd yr Athro Louise Bright, Dirprwy Is-Ganghellor Menter, Ymgysylltu a Phartneriaethau ym Mhrifysgol De Cymru: "Rydym yn falch o fod yn bartner sefydlu yng Nghynghrair Ymchwil Marshall Land, sef cydweithrediad beiddgar a fydd yn helpu i lunio dyfodol arloesedd, sgiliau a gweithgynhyrchu uwch yn Ne Cymru. Mae cryfderau PDC mewn ymchwil, gweithgynhyrchu uwch a datblygu sgiliau yn ein galluogi i gysylltu diwydiant, talent ac arloesi mewn ffyrdd sy'n cael effaith wirioneddol.

"Bydd y bartneriaeth hon yn creu cyfleoedd gwerthfawr i'n myfyrwyr a'n staff weithio ochr yn ochr â phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant ar heriau byd go iawn, gan helpu busnesau ar yr un pryd i ddatblygu’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i dyfu.

"Gyda Marshall Land Systems yn sefydlu cyfleuster mawr newydd yn Ne Cymru, daw'r Gynghrair hon ar adeg dyngedfennol i'r rhanbarth. Gyda'n gilydd, gallwn gefnogi arloesedd, ehangu cyfleoedd i raddedigion a helpu i yrru twf economaidd hirdymor ledled Cymru."

Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod yn bartner sefydlu yng Nghynghrair Ymchwil Marshall Land, gan ddod ag arbenigedd academaidd a diwydiannol ynghyd i gefnogi ymchwil, arloesi a datblygu sgiliau mewn meysydd gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, peirianneg ac amddiffyn.

"Mae'r Gynghrair yn darparu cyfleoedd i'n staff weithio gyda phartneriaid ar ymchwil, arloesi a datblygu'r gweithlu. Daw hefyd ar adeg bwysig i Dde Cymru, gyda'r potensial i gefnogi cydweithrediadau newydd rhwng prifysgolion, diwydiant a'r llywodraeth.

"Mae'r bartneriaeth yn cyd-fynd yn agos â Chenhadaeth Ddinesig Fyd-eang Prifysgol Caerdydd, ein huchelgeisiau i gefnogi twf sy'n cael ei arwain gan arloesedd yng Nghymru, a’r cynlluniau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer Academi Deeptech De Cymru.

"Drwy ymchwil, cyfnewid gwybodaeth a datblygu sgiliau, rydym yn gobeithio cyfrannu at gyfleoedd i fyfyrwyr, cyflogaeth graddedigion, busnesau a chymunedau, gan gefnogi cryfder a gwytnwch hirdymor economi Cymru drwy ymchwil ac arloesi."

Dywedodd Dr. David MaGee, Is-lywydd Ymchwil ym Mhrifysgol New Brunswick (UNB): "Yn UNB, rydym yn ymfalchïo'n fawr mewn meithrin partneriaethau cryf, sy’n fuddiol i bawb ac sy'n ein helpu i gael effaith ystyrlon yng Nghanada a ledled y byd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Marshall Land Systems, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru i hyrwyddo technolegau arloesol a chyfrannu at ymrwymiadau NATO Canada. Trwy ddefnyddio ein harbenigedd academaidd a dysgu gan ein cydweithwyr, byddwn yn mynd i'r afael â heriau cyffredin ac yn creu manteision parhaol i'n sefydliadau, ein diwydiannau a'n gwledydd."