Dirgelwch tarddiad Allorfaen eiconig Côr y Cewri yn dyfnhau wrth i’r chwilio gulhau

5 Tachwedd, 2026

Mae’r Allorfaen yn gorwedd ar ei hyd ar y ddaear, wedi suddo i’r glaswellt o dan garreg unionsyth y Trilith Mawr a’i lintel sydd wedi dymchwel. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r gwaith o ddod o hyd i darddiad Allorfaen hynod Côr y Cewri nawr ar drywydd newydd ar ôl i wyddonwyr wrthod sawl un o’r lleoliadau sydd eisoes wedi’u cynnig gan symud un cam yn nes at nodi ei fan cychwyn.

Mae’r cyfnodolyn Journal of the Geological Society wedi cyhoeddi astudiaeth newydd sy’n rhoi’r dadansoddiad daearegol mwyaf manwl hyd yma o Allorfaen chwe thunnell yr heneb.

Am fwy na chanrif, roedd archeolegwyr a daearegwyr yn credu bod y slab tywodfaen nodedig sy’n 4.9 metr o hyd yng nghanol yr heneb Neolithig enwog ar Wastadedd Caersallog yn tarddu o Gymru.   Cafodd y theori honno ei gwyrdroi gan ymchwil ddiweddar a ddefnyddiodd dechnegau dadansoddol modern, a oedd yn hytrach yn awgrymu mai gogledd-ddwyrain yr Alban oedd y ffynhonnell debygol.

Yn yr ymdrech ddiweddaraf i ddatrys un o ddirgelion daearegol mwyaf parhaus Côr y Cewri, mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr wedi edrych o'r newydd ar yr Allorfaen gan ddefnyddio ystod eang o brofion gwyddonol.

Gan gyfuno arsylwadau newydd o'r Garreg ynghyd ag astudiaeth fanwl o ddarnau a gedwir mewn casgliadau amgueddfeydd, edrychodd yr ymchwilwyr ar ei strwythur, ei mwynau, ei chyfansoddiad cemegol a’i nodweddion isotopig i ymchwilio'n ddyfnach i'w tharddiad.

Hyd yn hyn, nid oes lleoliad sydd â’r un nodweddion â’r Allorfaen wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i’r chwilio ym Masn Orcadaidd gogledd-ddwyrain yr Alban.

Dywedodd yr Athro Duncan Pirrie, Athro Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru a arweiniodd yr astudiaeth:

“Dyma'r ymchwiliad daearegol mwyaf cynhwysfawr o'r Allorfaen a gynhaliwyd erioed.  Trwy gyfuno ystod eang o dechnegau dadansoddol, rydym wedi adeiladu'r darlun mwyaf clir eto o gyfansoddiad y garreg ac wedi profi'r prif ddamcaniaethau am ei tharddiad.  Hyd yn hyn, nid oes gan yr un o'r lleoliadau a archwiliwyd yr un set o nodweddion â’r Allorfaen.  Mae hynny'n dweud wrthym nad yw'r chwilio drosodd, ond rydym bellach mewn sefyllfa llawer gwell i ganolbwyntio ar y meysydd sydd fwyaf tebygol o roi ateb.”

Meddai'r Athro Richard Bevins, Athro Anrhydeddus yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

“Am bron i ganrif, y farn gyffredinol oedd bod yr Allorfaen yn dod o orllewin Cymru.  Mae ein hymchwil flaenorol wedi gwrthdroi'r rhagdybiaeth honno ac yn awgrymu yn hytrach mai rhanbarth yn yr Alban yw’r ffynhonnell fwyaf tebygol.  Mae'r astudiaeth ddiweddaraf hon yn mireinio'r chwilio yn sylweddol trwy nodi'r nodweddion daearegol penodol y mae angen i ni chwilio amdanynt, sy’n golygu y gall ymchwiliadau yn y dyfodol gael eu targedu'n fwy effeithiol.  Gyda phob darn newydd o dystiolaeth, rydyn ni'n symud yn agosach at ddatrys un o ddirgelion mwyaf parhaus Côr y Cewri.”

Ychwanegodd yr Athro Nick Pearce, Athro Emeritws mewn Geocemeg yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

“Mewn stori dditectif ddaearegol fel hon, mae diystyru ardaloedd ffynhonnell posibl yr un mor bwysig â nodi rhai newydd.  Mae pob lleoliad sy’n cael ei ddileu yn culhau'r chwilio ac yn dod â ni'n agosach at ddarganfod ble y tarddodd yr Allorfaen.  Mae'r garreg yn unigryw ymhlith y cerrig yng Nghôr y Cewri, a byddai olrhain ei ffynhonnell yn rhoi dealltwriaeth newydd a gwerthfawr i ni o’i thaith ryfeddol i Wastadedd Caersallog filoedd o flynyddoedd yn ôl.”

Adeiladwyd Côr y Cewri mewn sawl cam rhwng tua 3000 a 1600 CC.  Mae'r heneb yn enwog yn rhyngwladol am y ffaith bod ei cherrig wedi eu cludo dros bellter hir, gyda'r cerrig gleision llai wedi teithio tua 225 cilomedr o orllewin Cymru.

Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd yr olion daearegol manwl a sefydlir gan yr astudiaeth yn y pen draw yn helpu i nodi ffynhonnell yr Allorfaen ac yn rhoi dealltwriaeth newydd am un o orchestion peirianyddol mwyaf rhyfeddol y cyfnod cynhanesyddol.

Daeth yr ymchwil â daearegwyr ac archaeolegwyr ynghyd o sefydliadau ledled Prydain, Canada, yr Eidal a Sweden, gan gynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Aberdeen, Prifysgol Plymouth, Sefydliad James Hutton, Prifysgol Gwyddorau Amaethyddol Sweden, Prifysgol Milano-Bicocca a nifer o bartneriaid mewn diwydiant.