Mae'r cae pêl-droed 3G dan do maint llawn cyntaf yng Nghymru yn cael ei adeiladu yn Nhrefforest

24 Mawrth, 2017

USW Sport Park indoor still, from video

Mae'r cyfleuster yn cael ei adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) fel rhan o fuddsoddiad parhaus yng nghyfleusterau'r sefydliad.

Bydd gwella Parc Chwaraeon PDC yn Nhrefforest yn cynnwys ychwanegu cae dan do 3G diweddaraf, sy'n cael ei adeiladu i safon FIFA Pro a safon Rygbi’r Byd 22, ochr yn ochr â chanolfan arbenigol ar gyfer cryfder a chyflyru, gyda 12 platfform codi, ystafelloedd newid, ystafelloedd addysgu a swyddfeydd. Bydd cyfanswm o 9500 troedfedd sgwâr o ofod ychwanegol.

Bydd dau gae pêl-droed a rygbi 3G awyr agored newydd wedi'u llifoleuo. Bydd hyn yn ychwanegu at y saith cae awyr agored arall sydd eisoes ar gael ar y safle, gan gynnwys cae pêl-droed pob tywydd maint llawn, cae hoci pob tywydd maint llawn â llifoleuadau, pedwar cae pêl-droed glaswellt a dau gae rygbi glaswellt, yn ogystal â neuadd chwaraeon â chwe chwrt.

Mae nifer o dimau rygbi proffesiynol eisoes wedi hyfforddi yn y Parc Chwaraeon, gan gynnwys Llewod Prydain ac Iwerddon, a thimau cenedlaethol Awstralia, Seland Newydd a De Affrica.

Mae'r cyfleuster, sy'n cael ei adeiladu gan Kier Construction ac a gynlluniwyd gan Atkins, i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni.

Mae'r ffrâm ddur ar gyfer yr ystafelloedd addysgu a'r swyddfeydd eisoes ar waith, ynghyd â gwaith ar y ffrâm ddur ar gyfer yr ardal, a fydd yn gartref i'r cae 3G.

Dywedodd Dr Martin Steggall, Deon y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg,: “Bydd cyflwyno cyfleusterau o'r radd flaenaf ym Mharc Chwaraeon PDC nid yn unig o fudd i fyfyrwyr ar ein cyrsiau chwaraeon a'n myfyrwyr sy'n cynrychioli'r brifysgol mewn amrywiaeth o chwaraeon, ond hefyd yn adeiladu ar ymchwil sy'n arwain y sector mewn ffisioleg, cryfder a chyflyru, a seicoleg chwaraeon, i enwi ond rhai o'n cryfderau.

“Mae'r cyfleuster eisoes yn cael ei ddefnyddio'n dda gan y gymuned leol a thimau proffesiynol, ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn gobeithio ehangu arno yn y dyfodol.

“Rydym nid yn unig yn buddsoddi mewn caeau, ond hefyd mewn cyfleusterau cryfder a chyflyru a dadansoddi a fydd yn cefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu pob agwedd ar eu rhagoriaeth mewn chwaraeon.”

Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Kier Construction,: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner adeiladu o ddewis ar gyfer y datblygiad newydd ym Mharc Chwaraeon PDC yn Nhrefforest. Mae'n gyffrous bod yn rhan annatod o greu'r cae chwaraeon 3G maint llawn dan do cyntaf yng Nghymru, a fydd yn darparu llwyfan newydd ar gyfer talent gynyddol mewn chwaraeon yn y dyfodol.”

Bydd darpar fyfyrwyr ar gyfer ein cyrsiau Chwaraeon yn gallu gweld camau cynnar yr adeilad, a dysgu mwy am y cyfleusterau newydd, mewn ffair wybodaeth israddedig ac ôl-raddedig ddydd Mercher 29 Mawrth.

Mae'r ffair wybodaeth yn agored i bob myfyriwr sy'n bwriadu dechrau astudio cwrs yn y Brifysgol o fis Medi 2017, p'un ai ar sail amser llawn neu'n rhan-amser. Gallwch archebu eich lle yn y ffair wybodaeth drwy wefan y Brifysgol: https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/diwrnodau-agored/