Dod i Ddiwrnod Agored yw'r ffordd orau o ddarganfod a yw'r brifysgol yn iawn i chi. Gallwch grwydro'n campysau, cwrdd â'r bobl fydd yn eich dysgu a siarad â myfyrwyr presennol am sut le ydy hi.
Os ydych yn meddwl am astudio cwrs rhan-amser neu ôlraddedig, dewch i siarad â'n staff addysgu am y cwrs, ymchwil a chyfleoedd gyrfa. Cewch weld y campws a dysgu mwy am gyllido'ch astudiaethau.