Yn dilyn Pêl-droed Stryd Cymru ar eu taith i Gwpan y Pedair Gwlad
16 Medi, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/09-september/Street_Football_Wales_mens_team.jpeg)
Mae myfyrwyr o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn cefnogi timau Pêl-droed Stryd Cymru ar eu taith i Gwpan Her y Pedair Gwlad, sy'n cael ei chynnal yng Nghaeredin y penwythnos hwn.
Mae Pêl-droed Stryd Cymru (SFW) yn elusen cynhwysiant cymdeithasol sy'n cynnig cyfleoedd i bobl sydd wedi'u hynysu a'u heithrio’n gymdeithasol – gan gynnwys rhai sydd wedi bod yn ddigartref – i chwarae pêl-droed, gwneud ffrindiau, magu hunanhyder a bod yn rhan o gymuned.
Ymwelodd yr actor Michael Sheen - noddwr yr elusen - â sesiwn hyfforddi yr wythnos hon wrth i dimau dynion a menywod baratoi i deithio i’r Alban ddydd Gwener (17 Medi).
Y gystadleuaeth ddeuddydd, a fydd yn cael ei chynnal ar 18 a 19 Medi ac yn gweld SFW yn herio timau o Loegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban mewn cyfres o gemau pêl-droed pedair bob ochr.
Mae’r myfyrwyr Newyddiaduraeth Chwaraeon Dafydd Jones a Matt Skinner, a'r fyfyrwraig Cyfathrebu Graffig Sam Ord, wedi bod ar leoliad gyda SFW yn y cyfnod cyn y bencampwriaeth, yn cefnogi'r elusen a chofnodi eu taith fawr, diolch i gyfleoedd a sicrhawyd gan dîm Gyrfaoedd PDC.
Defnyddiodd Scott Jeynes, Rheolwr Prosiect gyda Phêl-droed Stryd Cymru a chyn fyfyriwr yn PDC, ei gysylltiadau â'i hen gwrs – Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon – i recriwtio cymorth myfyrwraig drydedd flwyddyn, Sian Cousins, i hyfforddi'r tîm menywod.
Dywedodd Scott: "Mae'r effaith ar fywydau'r chwaraewyr wedi bod yn fwy nag ar eu sgiliau ar y cae yn unig dros y chwe wythnos diwethaf.
"Maen nhw wedi gwneud cymaint o newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw – lleihau ysmygu, alcohol a sylweddau – oherwydd eu bod am fod yn fwy ffit a bod cystal pêl-droedwyr ag y gallan nhw fod.
"Mae pêl-droed wedi golygu bod pobl yn dibynnu arnyn nhw’n dod bob wythnos a bod yn rhan o dîm, am y tro cyntaf erioed yn eu bywydau efallai.
"Ein nod yw creu arferion da yn lle’r rhai drwg – creu cyfleoedd i wneud ymarfer corff a chael cymuned o'u cwmpas – mae hynny mor bwysig i ni fel elusen."
Mae Dafydd a Matt, ill dau yn eu hail flwyddyn o’r cwrs newyddiaduraeth chwaraeon, wedi ymuno â'r chwaraewyr mewn sesiynau hyfforddi i recordio cyfweliadau, tynnu lluniau ac ysgrifennu adroddiadau.
Dywedon nhw: "Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i weld sut gall Pêl-droed Stryd Cymru wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Hyd yn oed yn ystod y cyfnod byr rydyn ni wedi bod yn dilyn y chwaraewyr, gallwn weld sut mae bod yn rhan o dîm wedi helpu i roi rhwydwaith cymorth iddyn nhw."
Mae Sam, sydd yn ei blwyddyn olaf o’r cwrs Cyfathrebu Graffig, wedi helpu ail-frandio SFW ac wedi ailddatblygu eu gwefan, gan greu dyluniadau a chynnwys ar gyfer eu hysbysebion, eu nwyddau a’u pecynnau hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Sam: "Roeddwn i wrth fy modd gyda’r cyfle i weithio gydag elusen mor wych, ar ôl darllen am eu cenhadaeth i ddefnyddio pêl-droed i greu newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru. Roeddwn i’n teimlo ei bod yn bwysig bod hunaniaeth brand SFW yn weddol debyg i hunaniaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fel bod ymdeimlad cenedlaethol iddo ar gyfer y bencampwriaeth hon ac wedi hynny. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda SFW yn fawr ac rwy'n gobeithio ymgymryd â phrosiectau tebyg yn y dyfodol."
Mae Sian, sydd newydd ddechrau ei blwyddyn olaf ar ei chwrs Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon, wedi bod yn hyfforddi'r tîm merched cyn y gystadleuaeth.
Yn ogystal â'i gwaith llawr gwlad, mae Sian yn hyfforddi yn United Academy Tref y Barri a hi oedd yr hyfforddwr benywaidd cyntaf i weithio gyda thimau ieuenctid y bechgyn yno.
Dywedodd: "Rwyf wedi bod yn hyfforddi ers pan oeddwn yn 14 oed ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweld cynnydd timau pêl-droed merched dros y blynyddoedd. Mae wedi bod yn gwbl arbennig gweithio gyda menywod SFW – mae'r chwaraewyr mor ddiolchgar i fod yma, ac mae'n wych gweld y cynnydd y maen nhw wedi'i wneud mewn ychydig wythnosau yn unig."
Un o aelodau'r tîm merched yw Sharie Messer, o Abertawe, a ymunodd â sesiwn hyfforddi SFW fel dechreuwr llwyr, ar ôl dod yn ddigartref pan oedd yn ei harddegau. Aeth ymlaen i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd i'r Digartref yn 2019, ac mae'n edrych ymlaen at gystadlu yng Nghaeredin y penwythnos hwn.
Dywedodd Sharie: "Roedd ofn arna i, yn mynd i'r sesiwn hyfforddi gyntaf honno, ond llwyddais i fy ngwthio fy hun a'i fwynhau'n fawr. Mae pêl-droed wedi bod yn help enfawr i reoli fy iselder a fy ngorbryder – rwyf wedi gallu rhoi’r gorau i fy meddyginiaeth a hyd yn oed gael swydd fel gofalwr.
"Mae bod yn rhan o SFW wedi bod yn brofiad gwych. Rwyf wedi gwneud ffrindiau, rwy’n siarad â fy nheulu eto ac mae gen i lawer mwy o hyder i siarad â phobl. Rwy'n falch o'r cynnydd rwyf wedi'i wneud ac wrth edrych yn ôl, rwyf mor falch fy mod wedi mynd i'r sesiwn hyfforddi gyntaf honno."
Ychwanegodd Keith Morgan, Cadeirydd Pêl-droed Stryd Cymru: "Mae bod yn rhan o'r sefydliad hwn a gweld y lles mae pêl-droed wedi'i wneud i'r chwaraewyr wir yn ysbrydoliaeth. Ar ôl i bandemig Covid-19 ganslo cynifer o ddigwyddiadau mawr, mae gallu teithio i'r bencampwriaeth hwn wedi bod yn hwb enfawr i'r timau, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at fynd ar y daith hon gyda nhw."
Dywedodd Glesni Ayres, Partner Lleoliadau Cyfadran y Diwydiannau Creadigol yn PDC: "Mae'r profiad y mae myfyrwyr yn ei gael ar leoliad yn amhrisiadwy. Maen nhw’n datblygu eu sgiliau trosglwyddadwy, yn ychwanegu at eu CV, ac yn meithrin cysylltiadau pwysig. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i ddysgu mwy am ddiwydiant a swyddi, yn magu hyder ac yn eu gwneud eu hunain yn fwy cyflogadwy.
"Mae’r sefydliadau hwythau'n elwa'n fawr o sgiliau newydd a safbwyntiau newydd gan unigolion brwdfrydig, ymroddedig sy'n gwneud cyfraniadau gwerthfawr i'w busnes. Mae'n arbennig o werthfawr i fyfyrwyr weithio gydag elusennau fel Pêl-droed Stryd Cymru, a defnyddio eu sgiliau a'u galluoedd i chwarae eu rhan i helpu i wella bywydau pobl eraill."