Myfyrwyr yn dathlu cymwysterau chwaraeon proffesiynol
27 Hydref, 2023
Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon, lle dyfarnwyd tystysgrifau i fyfyrwyr am gyflawni statws hyfforddwr campfa neu hyfforddwr personol cymwys.
Fel rhan o'u graddau mewn BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff, neu Gryfder a Chyflyru, mae'r myfyrwyr bellach wedi cyrraedd safonau proffesiynol y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA).
Mae safonau proffesiynol CIMSPA wedi’u datblygu gyda chyfraniadau cyflogwyr, darparwyr addysg ac arweinwyr y sector, i sicrhau bod ymarferwyr presennol ac ymarferwyr y dyfodol yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i’w defnyddio a’u cadw yn y sector.
Dywedodd Dr Tom Owens, Darlithydd mewn Gwyddor Biofeddygol: “Rydym yn falch o’n holl fyfyrwyr yn casglu eu tystysgrifau heddiw ac yn cydnabod y gwaith caled y maent wedi’i wneud. Mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt nawr yn dewis chwilio am waith, neu hyd yn oed ddechrau eu busnes eu hunain, ochr yn ochr â'u hastudiaethau.
“Trwy alinio’r cymwysterau gradd â safonau proffesiynol, mae Prifysgol De Cymru yn dangos ei gallu i wella rhagolygon cyflogadwyedd myfyrwyr ar ôl graddio.”
Dywedodd Andy McGill, Rheolwr Addysg Dechnegol Uwch yn CIMSPA:
“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r digwyddiad hwn, ac mae’n gyfle gwych i ddathlu holl waith caled y myfyrwyr.
“Mae ein partneriaeth â PDC yn golygu bod y myfyrwyr yn elwa o gyfuniad gwych o astudiaeth academaidd ac ymarfer proffesiynol, gan wreiddio safonau proffesiynol yn eu rhaglenni gradd.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi’r myfyrwyr trwy eu gyrfaoedd o fewn y sector.”