Diwydiannau Creadigol

Partneriaethau Creadigol

Mae Caerdydd yn gartref i gymuned greadigol fywiog, ac mae llawer o’r cwmnïau sydd ar ein stepen drws yn gweithio mewn partneriaeth â ni i gyflwyno briffiau byw, darlithoedd gwadd a lleoliadau gwaith i’n myfyrwyr. Maen nhw hefyd yn helpu i lywio ein cwricwlwm fel y gallwch fod yn hollol sicr gan wybod y byddwch yn graddio gyda'r sgiliau y mae'r cyflogwyr hyn yn chwilio amdanynt.

Diwydiannau Creadigol Archwilio Caerdydd
A group of students working together to film in the tv studio.

Ein partneriaid

Eich paratoi ar gyfer diwydiant

P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfarwyddo, golygu, rheoli cynhyrchiad, dylunio setiau, animeiddio neu effeithiau gweledol, bydd ein cwricwlwm eang a pherthnasol yn rhoi’r holl sgiliau a chyfleoedd sydd eu hangen arnoch i ymuno ag un o’r diwydiannau mwyaf deinamig yn y DU.

Edrychwch ar ein cyrsiau creadigol

Screen Alliance Wales

A film camera set up in front of a green screen.

His Dark Materials


Storïau Myfyrwyr

student-25

Cyfres Netflix Sex Education

Roedd gan gyfres Nextflix Sex Education dros 20 o fyfyrwyr a graddedigion PDC ar y tîm cynhyrchu.

Rydyn ni wedi cael llawer o leoliadau llwyddiannus i raddedigion gyda chyfres boblogaidd Netflix ‘Sex Education’. Diolch i'n partneriaethau a'n cysylltiadau agos yn y diwydiant, rydyn ni wedi gweithio ochr yn ochr â'r cwmni cynhyrchu, Eleven Film, i drefnu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a graddedigion. Roedd y rolau’n ymestyn dros y cynhyrchiad cyfan – o wisgoedd a chelf i gamera, sain a dylunio – gyda llawer o’r lleoliadau’n para sawl wythnos.



MAE’N DEIMLAD ANHYGOEL MYND O RADDIO I WEITHIO AR GYNHYRCHIAD BBC/HBO O SAFON UCHEL. RHODDODD ASTUDIO YN PDC YR HYDER I MI WNEUD CAIS AM BROFIAD GWAITH.

Andrew Creak

Myfyriwr Graddedig BA (Anrh) mewn Ffilm

RYDYN NI WEDI CAEL Y CYFLE I FYND I STIWDIOS BADWOLF FWY NAG UN TRO LLE GWELON NI’R SETIAU O GYNYRCHIADAU Y MAEN NHW’N GWEITHIO ARNYNT A SIARAD Â GWEITHWYR PROFFESIYNOL SYDD WEDI DANGOS CYFLEOEDD GWAITH A ALLAI FOD AR GAEL I NI.

Niamh Davies

Myfyriwr Drama a Pherfformio PDC

CES I GYFWELIAD GYDA DYLUNYDD Y CYNHYRCHIAD, SAMANTHA HARLEY, A’R CYFARWYDDWR GORUCHWYLIO CELF, SAMANTHA JAY CLIFF. DANGOSAIS I FY MHORTFFOLIO IDDYNT GYDAG ENGHREIFFTIAU O FY NGWAITH, GAN ARDDANGOS Y SGILIAU A DDATBLYGAIS YN Y BRIFYSGOL. GWEITHIAIS I AR Y GYFRES AM CHWE MIS, GAN ORFFEN YM MIS MEDI’R LLYNEDD.

Emily Barker

Hyfforddai Adran Gelf (Dylunio Setiau Teledu a Ffilm PDC)