Teulu PDC

Gareth Davies

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura

Teulu PDC Swyddi
university-staff-gareth-davies

"Roedd fy rhieni'n gwylio The Bill, Taggart, A Touch of Frost, Miss Marple, a Hercule Poirot ar y teledu’n gyson pan oeddwn yn tyfu i fyny. O gyfuno hynny gyda fy niddordeb i yng nghyfres y  Famous Five, llyfrau Syr Arthur Conan Doyle ar Sherlock Homes,  a’r ffaith fy mod i wrth fy modd yn creu, torri a thrwsio cyfrifiaduron ers pan oeddwn i’n ddim o beth, roedd y dyfodol yn anochel mewn gwirionedd!

"Roeddwn i wastad yn hoffi gwybod ac archwilio sut roedd pethau'n gweithio a beth roedden nhw’n gallu ei wneud, a beth fyddai canlyniadau fy ngweithredoedd.

"Uwch Ddarlithydd ydw i yn rhinwedd fy swydd, ac rwyf hefyd yn arwain galluoedd  ymchwil ac ymgynghori Seiberdroseddu a Fforenseg Ddigidol PDC. Rwy'n arbenigo mewn Fforensig Digidol a Gwybodaeth Bygythiadau Seiber. Rwy’n treulio llawer o fy amser yn datblygu cynnwys academaidd arloesol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, a'i gyflwyno i fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd, a goruchwylio eu prosiectau academaidd  sy'n aml yn cynnwys briffiau diwydiant byw.

“Rwyf wedi cyfrannu at dair safon ISO mewn Seiber, fel bod gan raddedigion y sgiliau cywir  i ymgymryd â swyddi mewn diwydiant. Mae'r gweithgaredd ysgolheigaidd uchod yn helpu'r Brifysgol i gynnal ei safle fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Seiberddiogelwch o'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy'n rhan o GCHQ. Mae'n anrhydedd bod yn aelod o'r tîm sydd wedi arwain at PDC yn ennill gwobr genedlaethol  Prifysgol Seiber y Flwyddyn y DU am y tair blynedd diwethaf yn olynol.

MAE FY MYFYRWYR HEFYD YN CAEL DYLANWAD ENFAWR ARNAF, AC YN DYSGU LLAWER I FI BOB BLWYDDYN. RWY'N FALCH O FOD YN RHAN O'U TAITH ACADEMAIDD

Gareth Davies

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura

"Rhan orau fy swydd yw boddhad swydd: trosglwyddo'r hyn rwy’n ei wybod i fyfyrwyr mewn ffordd y gallan nhw ei deall a'i defnyddio, nid yn unig mewn sefyllfaoedd technegol penodol, ond yn nes ymlaen yn eu gyrfaoedd, pan fyddan nhw’n wynebu gwahanol broblemau i’w llywio a’u datrys.

"I fi, mae’n ffordd o drosglwyddo'r brwdfrydedd sydd gennyf dros y pwnc gwyddonol craidd a pharhau â datblygu gallu myfyrwyr i ddysgu’n annibynnol.  Rwy'n mwynhau rhyngweithio'n uniongyrchol â myfyrwyr unigol i sicrhau eu bod yn gwneud yn fawr o’u cyfnod yn y Brifysgol, a’u bod yn cael y cyfleoedd gorau posibl o ran gyrfa yn y dyfodol.

"Rwy’n credu bod gennym ran fawr i'w chwarae fel rhanddeiliaid allweddol yn y gwaith o  seiber-warchod ein cenedl yn y dyfodol,  yn ein diogelu ein hunain a'n systemau seiber hanfodol rhag  seiberdroseddau soffistigedig a bygythiadau gan genedl-wladwriaethau.

"Pam mae tîm seiber PDC mor llwyddiannus? Hoffwn gredu ei fod yn ymwneud â'n myfyrwyr, y berthynas rydyn ni’n ei meithrin â nhw, safon y graddedigion rydyn ni’n eu darparu ar gyfer y diwydiant, ein gwaith yng nghymunedau De Cymru, a'r gwaith ymgynghori Seiber rydyn ni’n ei wneud.

“Mae fy myfyrwyr hefyd yn cael dylanwad enfawr arnaf, ac yn dysgu llawer i fi bob blwyddyn. Rwy'n falch o fod yn rhan o'u taith academaidd."