Teulu PDC

Neil Gibson a Natalie Kendrick-Doyle

Natalie Kendrick-Doyle, Swyddog Oedolion a Grwpiau Agored i Niwed Campws Cyntaf, a Neil Gibson, Partner Cyfathrebu a'r Cyfryngau yn yr adran Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, sydd ill dau'n aelodau o Glwb Pêl-droed Cerdded yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Teulu PDC Swyddi
Neil Gibson and Natalie Kendrick-Doyle smiling to camera standing on an outside football picth

Beth yw pêl-droed cerdded? Yn union beth mae’n ’ddweud. Chwarae pêl-droed, ond dim ond cerdded y gallwch ei wneud – does dim cyswllt, dim ond taclo o flaen chwaraewyr y tîm sy’n eich erbyn (dim llithro i mewn), ac all y bêl ddim mynd uwchben uchder y pen.”

Natalie: “Dechreuais chwarae pêl-droed cerdded tua phedair blynedd yn ôl ac rwyf wedi syrthio mewn cariad ag ef! Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd â phêl-droed, wedi chwarae ar hyd fy oes, ers i fi ddechrau cerdded mewn gwirionedd. O’r lefel iau roeddwn i'n chwarae i Glwb Pêl-droed Bury, tîm y sir ar y pryd, cyn bod sôn am fenywod yn chwaraewyr proffesiynol a doedd dim gobaith chwarae i’r prif glybiau. Oherwydd nifer o anafiadau i fy mhen-glin a fy oedran bu’n rhaid i fi ymddeol yn fy 30au ond roeddwn i’n dal yn awyddus iawn i chwarae.

“Pan ddaeth cyfle i roi cynnig ar bêl-droed cerdded, es i amdani’n frwd.  Roeddwn i ychydig yn amheus ar y dechrau, yn meddwl y gallai fod yn rhy araf, ond diflannodd y rhagdybiaethau hynny yn y sesiwn gyntaf un. Roeddwn i wrth fy modd! Rhoddodd gyfle i fi wneud yr hyn rwy’n ei garu, ond yn arafach, heb gyswllt a gyda phobl o'r un anian.”

Neil: “Dechreuais chwarae pêl-droed cerdded ym mis Medi 2021. Ro'n i wedi chwarae pêl-droed 11 bob ochr tan ganol fy 20au, yna pump bob ochr tan fy 30au cynnar, pan ges i anaf gwael i fy mhen-glin. Dydw i ddim wedi bod yn arbennig o actif ers hynny, ond ar ôl y cyfnodau cloi dyma awydd yn taro i fynd allan a gwneud rhywbeth rwy'n ei fwynhau. Roeddwn i wedi ystyried pêl-droed cerdded yn aml, felly fe ddes i o hyd i dîm ychydig filltiroedd o gartref drwy chwilio ar Google. Roeddwn i'n eithaf nerfus yn mynd i'r sesiwn gyntaf - pobl newydd, a doeddwn i ddim wedi cicio pêl yn iawn ers bron i 20 mlynedd - ond roedd y cyfan yn wych. Roedd pawb yn groesawgar iawn, ac roedd yn ymarfer corff da iawn (10,000 o gamau).

"Mae gan bêl-droed cerdded nifer o fuddion i iechyd corfforol a meddyliol, a lles. Mae'n cynnig cyfle i barhau i fod yn actif mewn ffordd fwy hamddenol wrth i chi ddechrau mynd yn hŷn.  Mae'n galluogi pobl ag anafiadau hirdymor, neu sy'n llai ffit efallai, i barhau mewn camp maen nhw’n ei charu. Mae hefyd yn galluogi pobl i gymryd rhan mewn ffordd llawer mwy cymdeithasol, ac yn gymorth i bobl sy’n unig, neu sydd â gorbryder neu iechyd meddwl gwael.

Cynhaliwyd Twrnamaint Pêl-droed Cerdded cyntaf PDC ym mis Rhagfyr 2022 i gyd-fynd â Chwpan y Byd Dynion yn Dubai. Brwydrodd wyth tîm o gydweithwyr a myfyrwyr i fod yn enillwyr cyntaf y gystadleuaeth. Roedd Neil a Natalie – sy’n ddyfarnwyr pêl-droed cerdded cymwys – yn gweinyddu yn ystod y digwyddiad, a enillwyd gan dîm Gwasanaethau Myfyrwyr.

Neil: “Daeth y Twrnamaint Pêl-droed Cerdded â chwaraewyr o bob rhan o Brifysgol De Cymru at ei gilydd yn ystod prynhawn hwyliog o gystadlu. Roedd yn gêm newydd i lawer ei meistroli, gyda rheolau gwahanol i bêl-droed arferol, ac yn cael ei chwarae mewn ysbryd gwych. Y gobaith yw y daw hwn yn ddigwyddiad blynyddol, ac y bydd yn parhau i amlygu’r gwaith tîm a’r cyfeillgarwch sy’n amlwg ar draws y Brifysgol.”

Y GWAITH TÎM A’R CYFEILLGARWCH SY’N AMLWG AR DRAWS Y BRIFYSGOL

Neil Gibson