Antonia: “Rydym yn darparu cymorth a chyngor AD proffesiynol i’r timau, adrannau a chyfadrannau amrywiol ar draws y Brifysgol, yn ogystal ag i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Y Coleg Merthyr Tudful. Mae rhai ohonom hefyd yn arwain ar fentrau pobl penodol, megis recriwtio gweithwyr, ymgysylltu, dysgu a datblygu, iechyd a lles ac ati.”
Julie: “Rydym yn gweithio gyda phobl ar bob lefel ar draws y busnes i edrych ar ffyrdd y gallwn wella PDC yn barhaus a’i wneud yn lle gwych i weithio. Rydym yn gweithio gyda rheolwyr i barhau i ofyn y cwestiwn “Sut gallwn ni wneud pethau’n well?” ac yna helpu i wneud hynny.”
Ceri: “Nid oes y fath beth â diwrnod arferol yn AD, sy’n golygu bod y rôl yn dod ag amrywiaeth a her.”
Alison: “Y rhan orau o'r swydd yw gwneud gwahaniaeth – boed i unigolyn, tîm, neu strategaeth y Brifysgol. Mae rheolwyr yn aml yn dod atom gyda ‘phroblemau’ neu pan fo pethau’n gymhleth ac maent yn ansicr ynghylch y ffordd orau ymlaen. Mae’n dda gallu darparu atebion a hyfforddi rheolwyr i benderfyniadau sy’n gweithio iddyn nhw a’u timau.”
Julie: “Ni allwn bob amser siarad am y pethau cadarnhaol a wnawn oherwydd preifatrwydd unigolion: y tu ôl i’r llenni rydym yn gwneud llawer o waith adeiladol a chefnogol ac, oherwydd cyfrinachedd, nid ydym byth wedi lledaenu hynny’n ehangach. Ond gallwn fod yn falch o wybod ein bod wedi cefnogi cydweithwyr sy’n mynd trwy bob math o sefyllfaoedd heriol.”
Rebecca: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cael y cyfle i fod yn yrwyr allweddol wrth gefnogi ac annog gweithio’n fwy hyblyg. Credwn ei bod yn bwysig iawn mabwysiadu arferion gweithio mwy hyblyg gan ei fod yn sail i ddiwylliant sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, ymreolaeth a chynwysoldeb. Credwn hefyd y bydd ymagwedd y Brifysgol at weithio hybrid ar gyfer llawer o rolau hefyd yn ffactor hollbwysig wrth ddenu a chadw talent.”
Julie: “Rydym yn cefnogi llawer o sgyrsiau anodd a sensitif iawn. Ac nid yw’n hawdd, gwaeth pa mor hir yr ydych wedi gweithio yn y swydd. Rydyn ni'n ddynol hefyd!”
James: “Jyglo amrywiaeth y rôl; mae gallu neilltuo digon o amser i bopeth a wnawn yn her wirioneddol ond yn un sy'n rhoi llawer o foddhad swydd hefyd.”