"Rwyf bob amser wedi ceisio cefnogi celfyddydau a diwydiannau creadigol Cymru, hyd yn oed pan nad wyf yn gweithio'n uniongyrchol yn y sectorau hynny. Mae fy mhenodiad diweddaraf i fwrdd Casnewydd Fyw, fel Cadeirydd y Celfyddydau yn caniatáu i mi ddod â fy ngwaith yn PDC ynghyd â rolau eraill i gyfoethogi gweithgareddau diwylliannol ledled y Ddinas. Rwyf hefyd yn aelod o fwrdd ymgynghorol Caerdydd Creadigol ac fe ges i fy mhenodi gan Lywodraeth Cymru yn Gyfarwyddwr Anweithredol Cymru Greadigol. Unwaith eto, mae fy mhrofiad blaenorol a phresennol yn cefnogi busnesau newydd a gweithwyr llawrydd y diwydiannau creadigol, gobeithio, yn helpu i lunio strategaethau'r Llywodraeth at y dyfodol o ran sgiliau a hyfforddiant yn y sectorau hyn sy'n tyfu'n gyflym.
"Cyn ymuno â Chymru Greadigol treuliais naw mlynedd ar Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi fy mhenodi unwaith eto gan Lywodraeth Cymru, ac roedd gen i gyfrifoldeb dros faterion amrywiaeth a chydraddoldeb ar lefel y bwrdd. Mae'r materion hyn bob amser wedi bod yn agos iawn at fy nghalon, ar ôl tyfu i fyny mewn cyfnod pan oedd priodasau cymysg yn brin iawn ac yn cael eu dirmygu gan y rhan fwyaf o bobl, a lle'r oeddwn yn wynebu cam-drin hiliol bob dydd am fod yr unig berson o liw yn fy ysgol uwchradd gyfan.
"Yn fwyaf diweddar, mae hynny wedi arwain at weithio ar ddau brosiect allweddol yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn y celfyddydau. Mae fy nghynigion ar gyfer cerdyn mynediad i'r celfyddydau ar gyfer pobl B/byddar ac anabl (wedi ei gomisiynu gan bedwar cyngor celfyddydau'r DU) newydd gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth y DU ac mae fy ymchwil gyda chydweithwyr i'r rhesymau pam nad yw pobl B/byddar ac anabl yn ymwneud i raddau helaeth â'r gwasanaethau celfyddydau a threftadaeth yng Nghymru newydd gael ei chyhoeddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru.
"Yn olaf, rwy'n aelod o fwrdd Gentle/Radical – cydweithredfa gelf yng Nghaerdydd – sydd wedi mabwysiadu model datgoloneiddio a hyperlleol ar gyfer ein gwaith gyda chymuned hynod amrywiol Riverside, yn ceisio galluogi ffordd o feddwl radical i fod yn sail i ymarfer celf creadigol, blaengar, gweledigaethol a chydweithredol. Roedd Gentle/Radical ar restr fer Gwobr Turner 2021, sy'n cael ei redeg gan y Tate Britain, ac agorodd arddangosfa'r gystadleuaeth fel rhan o Ddinas Diwylliant y DU yn Coventry. Roedd bod yno i gefnogi ein hartistiaid anhygoel yn fy ngwneud yn falch iawn o alluoedd creadigol Caerdydd a Chymru.
"Gan mai cwmnïau newydd sy'n cynhyrchu'r holl gynnydd net mewn swyddi yn ein heconomi mewn gwirionedd. Mae cwmnïau mawr yn canolbwyntio'n bennaf ar eu helw a chynyddu gwerth i gyfranddalwyr. Mae entrepreneuriaid a chwmnïau newydd ar y llaw arall yn angerddol am gael eu syniadau newydd i'r farchnad, maen nhw am wneud gwahaniaeth i brofiadau bywyd eu cwsmeriaid ac mae llawer nawr, wrth gwrs, hefyd am gyfrannu at gymdeithas fwy cynaliadwy a thecach, ochr yn ochr â chreu swyddi newydd. Ond yr ychydig flynyddoedd cyntaf o redeg busnes yw'r cyfnod anoddaf fel arfer, felly gwneud unrhyw beth a allaf i helpu ein hentrepreneuriaid i oroesi a thyfu eu busnesau, a gobeithio mynd ymlaen i gyflogi pobl, sy’n rhoi gwir foddhad i fi."