"Mae'r tîm yn gweithio o adeilad Hirwaun yn Nhrefforest, ac ar lawr C campws Casnewydd, ond mae hefyd yn gweithio ar bob campws a safle arall, yn darparu digwyddiadau i ysgolion a cholegau. Maen nhw hefyd yn gweithio o bell, gyda dau o'r tîm yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o waith y tîm yn beripatetig, gan eu bod yn ymweld ag ysgolion a cholegau’n ddyddiol.
"Rydyn ni’n darparu sesiynau gwybodaeth, cyngor, ac arweiniad rhyngweithiol am y brifysgol, mewn ysgolion a cholegau neu ar y campws, i fyfyrwyr sy'n ystyried gwneud cais i'r brifysgol, i dynnu sylw at fanteision addysg uwch. Rydyn ni hefyd yn annog darpar fyfyrwyr i fynychu sesiynau blasu pwnc-benodol i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis eu hopsiynau AU. Rydyn ni’n darparu gweithgareddau cynyddu cyfranogiad ac yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau allanol i sicrhau bod grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn AU yn cael cefnogaeth briodol i gael mynediad i’r brifysgol. Rydyn ni’n mynd i ffeiriau ysgolion/colegau a ffeiriau allanol mwy, fel UCAS/UK University Search i gynrychioli'r Brifysgol a hyrwyddo cyrsiau PDC. Ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol mae dylanwadwyr fel athrawon, cynghorwyr, rhieni, a gofalwyr, ac felly rydyn ni’n chwarae rhan hanfodol o ran codi proffil PDC ymhlith y gynulleidfa hon.
Ali: "Does mo’r fath beth â 'diwrnod arferol'! Gall amrywio o ddydd i ddydd, o wneud tasgu gweinyddol wrth y ddesg, dadansoddi data ac edrych ar dueddiadau i’n helpu i lunio cynlluniau allgymorth ac ymgysylltu newydd, neu gyrru ledled y DU i ymgysylltu'n uniongyrchol â'n cynulleidfa darged. Mae'n gyflym a dyw e byth yn ddiflas."
Darren: "Yn aml iawn, rwyf mewn ysgol neu goleg yn gweithio’n uniongyrchol gyda myfyrwyr mewn cyflwyniadau neu weithdai. Rwy'n hoffi sicrhau bod pethau'n rhyngweithiol ac ateb unrhyw gwestiynau yn y fan a’r lle. Mae'r daith i'r ysgol neu'r coleg yn aml yn ddiddorol iawn yn Ne-orllewin Lloegr; rwy’n dod i adnabod ffyrdd gwledig a threfi a phentrefi nad ydw i erioed wedi ymweld â nhw o'r blaen."
Kate: "Y rhan orau o'r swydd yw'r wobr o wybod ein bod wedi helpu i newid bywydau er gwell, yn enwedig i'r rhai sydd dan anfantais."
Rebecca: "Ymgysylltu â darpar fyfyrwyr na fyddai byth yn credu y bydden nhw’n gallu mynd i'r brifysgol. Mae eu gweld nhw’n cyflawni ac yn ffynnu yn y brifysgol yn un o'r prif resymau pam rwyf wedi bod yn y rôl ers dros naw mlynedd. Rwy'n mwynhau gweld myfyrwyr rydyn ni wedi gweithio â nhw yn mynychu eu seremonïau graddio. Rwy'n teimlo mor falch ohonyn nhw, ac wrth fy modd hefyd o weld bod tair blynedd o waith caled wedi talu ar ei ganfed."
Ali: "Rhan orau'r swydd yw gwybod ein bod wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rydyn ni’n codi dyheadau ac yn gwneud yr 'amhosibl' yn bosibl i gynifer o bobl. Rwy’n falch iawn ohonon ni i gyd bob dydd. Mae pethau’n gallu bod yn heriol weithiau, ond mae’r tîm yn hynod wydn."
Sêra: "Enillodd y tîm y Wobr Arfer Gorau mewn Recriwtio ac Allgymorth Myfyrwyr y Gymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch yn 2019 am ddigwyddiad yn codi ymwybyddiaeth am fyfyrwyr AU ag awtistiaeth. Yn 2020, enillon nhw Wobr STAR PDC am Dîm Creadigol y Flwyddyn am addasu eu dulliau darparu allgymorth o fewn wythnos ar ddechrau'r pandemig. Rwy'n hynod falch o bob aelod o'r tîm - maen nhw'n gweithio'n galed, yn angerddol, ac yn ymroddedig, yn credu yn PDC a'i heffaith drawsnewidiol, ac maen nhw'n dangos y gwerthoedd craidd bob dydd."