Teulu PDC

Yr Athro Fiona Brookman

Yr Athro Fiona Brookman am ail rifyn ei llyfr 'Understanding Homicide'

Teulu PDC Swyddi
Professor Fiona Brookman sitting on a white motorised scooter

“Yn gyffredinol, rwy'n cael fy ysgogi gan syched am wybodaeth. Fy nod yn y pen draw yw helpu i ddatblygu strategaethau a fydd yn gwella arferion ymchwilio i lofruddiaethau a chyfraddau datrys ar gyfer y troseddau marwol mwyaf difrifol hyn.“Rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o fy ngyrfa hyd yma yn archwilio pam mae pobl yn cyflawni troseddau treisgar ac ymatebion i drais, gan gynnwys sut mae'r heddlu (ochr yn ochr â gwyddonwyr ac erlynwyr fforensig) yn ymchwilio i lofruddiaethau a sut y gellir eu hatal.

“Roedd y rhifyn cyntaf yn defnyddio ymchwil o fy ngwaith PhD - cyfweliadau yn bennaf gyda llofruddion a dadansoddiadau o ffeiliau llofruddiaeth yr heddlu.  Cafodd ei ddatblygu gyda fy myfyrwyr israddedig mewn golwg ychydig ar ôl i fi orffen fy PhD yn 2000.  Roeddwn i wedi cynllunio a dechrau dysgu 'Deall Llofruddio' yma a doedd dim llyfr academaidd ar gael oedd yn cwmpasu'r ystod eang o bynciau roeddwn i am eu cynnwys yn y modiwl hwnnw. Mae'r llyfr hwn yn elwa o'r holl ddata sydd wedi ei gasglu a’r holl ymchwil rwyf wedi bod ynghlwm wrthi ers ysgrifennu'r cyntaf. Mae hyn yn cynnwys fy newid mewn ffocws, o ymchwil ar lofruddion, i ymchwilio i sut mae'r heddlu, gwyddonwyr fforensig,  ac eraill, yn ymchwilio i lofruddiaethau a sut mae’r llysoedd yn ymdrin â’r drosedd. Mae hefyd wedi'i ddiwygio'n sylweddol o ran theori ac ymchwil i ystyried syniadau newydd sydd wedi dod i'r amlwg am achosion trais (marwol) a thechnegau i fynd i'r afael ag ef.

FY HOFF RAN O’R SWYDD, A RHANNU'R CANFYDDIADAU A GWYBODAETH NEWYDD

Yr Athro Fiona Brookman

“Mae fy swydd wedi mynd â fi i wahanol rannau o Ewrop i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol a chenedlaethol, gan gynnwys Tubingen, Leiden, Oslo,  Stockholm, a gwahanol rannau o'r UD (gan gynnwys San Francisco, Chicago, Philadelphia, Atlanta, New Orleans) a Brisbane yn Awstralia lle cefais wahoddiad i roi prif gyflwyniad mewn cynhadledd, ar ymchwiliadau i lofruddiaethau.

Rwyf hefyd wedi treulio amser fel Athro Gwadd mewn Prifysgol yn America, yn Washington DC,  lle treuliais fisoedd lawer hefyd, ar ymweliadau gwahanol, yn casglu data ar ymchwiliadau i lofruddiaethau. Roedd yr ymchwil honno'n cynnwys cysgodi ditectifs wrth eu gwaith yn ymchwilio i lofruddiaethau a gwaith maes digon cofiadwy, fel chwilio gyda chŵn mewn coedwig am rywun oedd yn cael ei amau o fod yn llofrudd, mynd i bost-mortem yn Baltimore, ac eistedd wyneb yn wyneb â rhywun oedd yn rhoi gwybodaeth gudd i’r heddlu ac a roddodd fanylion am  symudiadau (posibl) rhywun oedd dan amheuaeth o fod yn llofrudd.

“Ond ymgymryd ag ymchwil yw fy hoff ran o’r swydd, a rhannu'r canfyddiadau a gwybodaeth newydd gyda fy myfyrwyr ac academyddion eraill, a goruchwylio myfyrwyr PhD.

"Yn fy amser sbâr rwy'n cerdded, yn bwyta allan, yn gwneud ychydig o Pilates, yn mynd i ddigwyddiadau cerdd, ac yn treulio amser allan ar sgwteri ac mewn ralïau sgwteri.  Mae gen i Vespa fach rydw i’n ei defnyddio o bryd i'w gilydd, yn yr haf yn bennaf!"