Teulu PDC

Yr Athro Florence Ayisi

Yr Athro Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau dogfen arobryn y mae eu ffilmiau wedi'u dangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn gwyliau ffilm

Teulu PDC Swyddi
Professor Florence Ayisi

"Rwy'n addysgu ar yr MA Ffilm (Dogfen) a’r BA (Anrh) Ffilm, yn ogystal â gwneud fy ymchwil fy hun ynghylch agweddau amrywiol ar theori ffilm, hanes ac ymarfer ffilmiau dogfen.

"Roeddwn i’n astudio ar gyfer fy PhD ym Mhrifysgol Caerlŷr, ac fe ges i fy syfrdanu gan y stereoteipiau negyddol roeddwn i’n eu gweld o Affrica ar deledu Prydain. Rhwng 1986 a 1989, roedd y rhan fwyaf o’r sylw oedd yn cael ei roi i Affrica ar y cyfryngau yn negyddol iawn – yn ymwneud â chlefyd, llygredd, newyn – ond roeddwn i'n gwybod bod realiti arall nad oedd yn cael ei ddangos Dyna pryd y penderfynais ddefnyddio fy mhrofiad o ran sut y gallai’r cyfryngau rhoi sylw i bobl, straeon a chymunedau nad oedd cynulleidfaoedd y DU yn gwybod amdanynt. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar y naratifau cadarnhaol am Affrica.

"Ar ôl erchyllterau 9/11, es i i Ŵyl Ffilmiau Dogfen Ryngwladol Sheffield a chwrdd â Kim Longinotto, gwneuthurwr ffilmiau dogfen o Brydain sy'n adnabyddus am wneud ffilmiau am fenywod sy'n dioddef gormes neu wahaniaethu yn eu herbyn. Fe wnaethon ni gasglu syniadau a chysylltiadau at ei gilydd, ac fe gawson ni ein comisiynu gan Channel 4 i wneud y ffilm Sisters in Law, a oedd yn ymwneud â chyfreithwyr benywaidd yn system farnwrol Cameroon. Roedd yn fraint cael mynd yn ôl i'r dref lle cefais fy magu i ganolbwyntio ar y cyfreithwyr a oedd yn gweithio yn y llys ynadon. Cyn i ni ddechrau ffilmio, es i i weld y Gweinidog dros Gyfiawnder a Cheidwad y Seliau. Roedd yn falch iawn o'r ffaith bod ganddo gyfreithwyr benywaidd yn gweithio ar lefel uchaf y system farnwrol. Mae Sisters in Law wedi cael ei dangos mewn dros 200 o wyliau ffilm ac ar y teledu ledled y byd, mae wedi ennill dros 30 o wobrau ffilm rhyngwladol pwysig ac roedd ar y rhestr fer ar gyfer enwebiad yng Ngwobrau’r Academi (Oscar) yn 2006.

"Yn 2006, teithiais i Zanzibar i wneud rhaglen ddogfen am dîm pêl-droed o fenywod Mwslimaidd, o'r enw Zanzibar Soccer Queens. Mae'n adrodd hanes cymuned o fenywod cryf, yn benderfynol o wella eu bywydau a diffinio hunaniaethau newydd drwy chwarae pêl-droed. Yna fe wnes i ffilm arall yno o'r enw Our World in Zanzibar yn 2007 am fenywod o’r Gorllewin sydd wedi mudo i Affrica. Mae'r ffilm yn adlewyrchu eu straeon personol drwy weithdai, trafodaethau gonest, cyfweliadau manwl a pherfformiadau wedi'u llwyfannu. Mae'n archwilio pam eu bod wedi teithio i Affrica, a gadael eu ffyrdd cyfforddus o fyw yn UDA, yr Iseldiroedd, Sbaen a'r DU.

"Cafodd Zanzibar Soccer Queens effaith fawr ar fywydau'r pêl-droedwyr a'r gymdeithas fenywaidd yn gyffredinol, gan newid agweddau at y pwynt lle gwnaeth y llywodraeth ganiatáu i ferched chwarae pêl-droed mewn ysgolion fel rhan o'u haddysg gorfforol.

"Dyna pryd y gwnes i wir sylweddoli pŵer ffilm a'r effaith y gall ei chael ar fywydau pobl ac ar gymdeithas. Mae wedi cael ei dangos mewn sawl gŵyl ryngwladol, ac wedi atgyfnerthu fy nghred bod pobl am weld ochr arall i Affrica.

SYLWEDDOLAIS BŴER FFILM A'R EFFAITH Y GALL EI CHAEL AR FYWYDAU POBL AC AR GYMDEITHAS

Yr Athro Florence Ayisi

"Yn 2018, gwnes i ffilm ddogfen o'r enw o'r enw Marie Madeleine, A Female Chief, am fenyw a gafodd ei gorseddu’n bennaeth ar Nkol Ngock I, pentref bach yn Cameroon.  Mae'r ffilm yn dangos digwyddiad anarferol yn Affrica, lle mae swydd arweinydd neu brif swyddog fel arfer yn cael ei throsglwyddo o dad i fab. Mae’n gofnod unigryw o gymuned sy'n newid.  Mae'r ffilm hon hefyd wedi cael ei dangos yn eang mewn gwyliau ffilm rhyngwladol.

"Un o'r ffilmiau rwy'n fwyaf balch ohoni yw The Bronze Men of Cameroon, a gafodd ei rhyddhau yn 2020 ac sy'n bortread agos-atoch o grefftwyr efydd yn Rhanbarth Gorllewinol Cameroon, ac yn tynnu sylw at agweddau pwysig ar dreftadaeth ddiwylliannol, a’r bygythiadau sy’n wynebu crefft draddodiadol bwrw efydd. Mae'r ffilm wedi cael ei dangos mewn dros 20 o wyliau ffilm ac wedi ennill gwobrau pwysig.  Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo'n freintiedig bod y crefftwyr efydd wedi caniatáu i fi ddogfennu eu gwaith a'u profiadau.

"Ers y pandemig, rwyf wedi gweithio ar fy mhrosiect cyntaf yn y DU, a oedd yn dilyn menter gan y Sefydliad Iechyd Meddwl i recriwtio a hyfforddi arweinwyr-gymheiriaid o blith ffoaduriaid a cheiswyr lloches i arwain eu grwpiau eu hunain, gyda'r nod o ysgogi sgyrsiau sy'n defnyddio Saesneg ac ieithoedd eraill i gynyddu llythrennedd emosiynol, empathi a dealltwriaeth.

"Yn gynharach eleni, llwyddais i a grŵp o Athrawon benywaidd o naw prifysgol arall i ennill grant gwerth £2.5 miliwn gan UKRI ar gyfer prosiect ymchwil i archwilio effaith pandemig Covid-19 ar les a gwydnwch teuluoedd a chymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (DALlE).

"Ar ôl bod yng Nghymru ers cynifer o flynyddoedd, rwyf wedi sylweddoli bod cymaint y mae angen i ni roi sylw iddo yma hefyd.  Mae cymuned amlddiwylliannol enfawr yma.  Mae Cymru'n genedl o ddiwylliannau amrywiol ac maen nhw i gyd yn byw'n dda gyda'i gilydd. Rwy'n hoffi canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol mewn cymdeithas, ac mae amlddiwylliant yn bendant yn rhywbeth i'w ddathlu; yn amlygu ymdeimlad cryf o gymuned a chyswllt ac yn dangos yr hyn sy’n gyffredin rhwng pobl, er gwaethaf gwahaniaethau mewn ethnigrwydd.  Mae diwylliannau amrywiol yn cyfoethogi cymdeithasau, felly hoffwn archwilio hyn mwy yn fy ngwaith yn y dyfodol, ac mae Cymru'n cynnig cyd-destun unigryw ar gyfer hyn.