Telerau ac Amodau
Arolwg Derbynwyr a Gwrthodwyr 2026
Yr hyrwyddwr yw: Prifysgol De Cymru, Llantwit Road, Trefforest, Pontypridd CF37 1DL, Adran Myfyrwyr y Dyfodol, y tîm Recriwtio Myfyrwyr, y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "y Brifysgol").
Teitl y raffl yw Arolwg Derbynwyr a Gwrthodwyr 2026
Telerau ac Amodau
Mae'r Brifysgol yn gwahodd pob Ymgeisydd i gymryd rhan yn ein raffl Arolwg Derbynwyr a Gwrthodwyr 2026. Diben y raffl yw dewis 5 enillydd fydd yn derbyn un o'r canlynol:
- 1 x taleb Love2Shop gwerth £200
- 2 x daleb Love2Shop gwerth £100
- 3 x taleb Love2Shop gwerth £50
Yn y Raffl hon ystyr ("Ymgeisydd(Ymgeiswyr)*) yw unrhyw un sydd wedi gwneud cais i astudio cwrs israddedig, llawn amser ym Mhrifysgol De Cymru ar gyfer mynediad yn 2026, ac sydd wedi cael cynnig ac wedi ymateb i dderbyn, gwrthod neu dynnu cais yn ôl. Nid yw myfyrwyr rhyngwladol yn rhan o’r arolwg hwn.
Y Rheolau
1 SUT I GYSTADLU
1.1 Bydd y raffl yn weithredol o Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026 ("y Dyddiad Agor") tan Sal 9 Awst 2026 ("y Dyddiad Cau").
1.2 Dim ond unwaith y gall unigolyn fod yn rhan o’r raffl. Ni allwch gael eich dewis fel enillydd mwy nag un wobr yn y raffl hon. Ni dderbynnir ceisiadau ar ran person arall (ac eithrio fel y nodir yn 2.1 isod).
1.3 I gymryd rhan yn y raffl, cwblhewch Ffurflen Gofrestru’r Raffl ar ddiwedd yr arolwg.
1.4 Mae Raffl Arolwg Derbynwyr a Gwrthodwyr 2026 ac am ddim i gymryd rhan ynddi ac nid oes angen prynu unrhyw beth.
1.5 Ni fydd ymgeiswyr y daw eu cais i law ar ôl y Dyddiad Cau yn cael eu derbyn.
1.6 Trwy gofrestru ar gyfer Raffl Wobr Arolwg Derbynwyr a Gwrthodwyr 2026, rydych chi'n cytuno i rwymedigaeth y telerau ac amodau hyn arnoch.
1.7 Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys a gafwyd o fewn perthnasol y raffl a’r gwobrwyo.
2. CYMHWYSEDD
2.1 Dim ond i Ymgeiswyr sy’n 14 oed neu'n hŷn y mae’r raffl hon yn agored, a gellir gwirio cymhwysedd yn erbyn data sydd gan y Brifysgol. Nid yw gweithwyr y Brifysgol nac unrhyw gwmnïau cysylltiedig, nac aelodau o'u teulu agos neu aelwyd gymryd rhan.
2.2 Wrth gymryd rhan yn y raffl wobrau, rydych chi'n cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio unrhyw wobr y gallech ei hennill.
2.3 Mae'r Brifysgol yn cadw pob hawl i'ch anghymhwyso os yw eich ymddygiad yn groes i ysbryd neu fwriad y raffl neu os ydych yn cael eich ystyried yn anghymwys yn ôl cofnodion y Brifysgol.
3 Y WOBR
3.1 Darperir y wobr gan y Brifysgol. Bydd pum enillydd yn cael eu dewis ar hap i dderbyn un wobr yr un. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i rhoi gwobr gwahanol o werth cyfartal neu uwch os bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol yn ei gwneud yn angenrheidiol gwneud hynny.
3.2 Nid oes modd dewis gwobr ac ni ellir negodi gwobr, na’i chyfnewid, na’i throsglwyddo ac ni fydd opsiwn i ddewis arian parod yn lle yn cael ei gynnig. Nid yw defnydd y Brifysgol o frandiau penodol fel gwobrau yn awgrymu unrhyw gysylltiad â brandiau o'r fath neu gymeradwyaeth ohonynt.
3.3 Nid yw'r Brifysgol yn darparu unrhyw fath o gymorth ymarferol wrth ddefnyddio’r wobr; darperir y wobr "fel y mae". Gall gwobrau fod yn ddarostyngedig i delerau ac amodau y darparwyr perthnasol. I dderbyn y wobr, rhaid i'r enillydd hefyd dderbyn unrhyw delerau ac amodau perthnasol (telerau ac amodau cardiau rhodd er enghraifft).
4. CYHOEDDI’R ENILLYDD
4.1 Mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth na thrafodaeth yn digwydd.
4.2 Bydd y Brifysgol yn cysylltu â'r enillydd drwy'r cyfeiriad e-bost a gyflwynwyd wrth ateb yr arolwg cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar neu ar ôl Dydd Mawrth, 11 Awst ("y Dyddiad Cyhoeddi"). Ni fydd y Brifysgol yn diwygio'r wybodaeth gyswllt hon ar ôl i ymgeisydd gyflwyno’r cais i gymryd rhan a bydd pob gohebu a chyfathrebu yn defnyddio'r e-bost a ddarparwyd i'r Brifysgol.
4.3 Gellir datgelu cyfenw’r enillydd/enillwyr a’u sir breswyl ar gais o fewn 30 diwrnod i'r Dyddiad Cau, drwy gysylltu â'r Uwch Swyddog Mewnwelediadau ([email protected]). Mae mynediad i'r gystadleuaeth yn rhoi eich cytundeb i ddatgelu eich cyfenw a'ch sir breswyl fel enillydd y raffl wobr yn y modd hwn. Os ydych yn gwrthwynebu cyhoeddi neu ddatgelu'r wybodaeth hon am unrhyw reswm neu os hoffech leihau faint o wybodaeth a ryddheir, cysylltwch â'r Uwch Swyddog Mewnwelediadau ([email protected]).
5 HAWLIO'R WOBR
5.1 Os byddwch yn ennill gwobr, bydd gennych 7 diwrnod i hawlio’r wobr o'r dyddiad yr anfonwyd e-bost atoch ar neu ar ôl y Dyddiad Cyhoeddi, drwy ymateb i'r e-bost a ddarparwyd i chi yn ystod y broses ddilysu (manylion yn Amod 2). Os na fyddwch wedi hawlio'ch gwobr erbyn hynny, bydd eich hawliad yn cael ei annilysu.
5.2 Ni all trydydd parti hawlio'r wobr ar eich rhan.
5.3 Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gysylltu â'r enillydd. Os na ellir cysylltu â'r enillydd neu os na fydd ar gael neu heb hawlio’r wobr o fewn yr amser a bennir, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynnig y wobr i'r ymgeisydd cymwys nesaf a ddewisir ar hap o blith y ceisiadau a dderbyniwyd cyn Dyddiad Cau'r raffl honno.
5.4 Ni fydd y Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn methu â hawlio’r wobr.
5.5 Bydd y Brifysgol yn gwneud trefniadau, fydd yn dderbyniol gan y ddau barti, i ddosbarthu’r wobr, o fewn 14 diwrnod i'r Dyddiad Cyhoeddi.
6 CYFYNGU AR ATEBOLRWYDD
6.1 I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Brifysgol, ei hasiantau neu ddosbarthwyr mewn unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol nac yn atebol i ddigolledu unrhyw ymgeisydd, enillydd neu drydydd parti ac eithrio yn achos anaf personol neu farwolaeth yn deillio'n uniongyrchol o esgeulustod y Brifysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
7 DIOGELU DATA
7.1 Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan y Brifysgol at ddibenion y raffl hon a bydd yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol neu Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnydd o Ddata Personol | Prifysgol De Cymru. Gweler hefyd Amod 2 a 4., o ran gwirio a chyhoeddi enillwyr gwobrau.
8 TELERAU CYFFREDINOL
8.1 Os oes unrhyw reswm dros gredu bod y telerau ac amodau hyn wedi’u torri, mae'r Brifysgol, yn ôl ei disgresiwn, yn cadw'r hawl i'ch gwahardd rhag cymryd rhan yn y raffl.
8.2 Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddirymu, atal, canslo neu ddiwygio'r raffl os bydd angen.
8.3 Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, ac mae'r Brifysgol a chi yn cytuno i ddefnyddio llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
8.4 Os bydd unrhyw anghydfod, bydd penderfyniad y Brifysgol yn derfynol.