Telerau ac Amodau Raffl Diwrnod Agored i Fyfyrwyr ôl-raddedig
Yr hyrwyddwr yw: Prifysgol De Cymru, Llantwit Road, Trefforest, Pontypridd CF37 1DL, Adran Myfyrwyr y Dyfodol, Tîm Recriwtio Myfyrwyr, y cyfeirir ato fel ("y Brifysgol”).
Enw’r raffl yw RAFFL DIWRNOD AGORED ÔL-RADDEDIGION PRIFYSGOL DE CYMRU 2026-2027.
Telerau ac Amodau
Mae'r Brifysgol yn gwahodd pawb sy'n mynychu i gymryd rhan yn Raffl Diwrnod Agored Ôl-Raddedigion Prifysgol De Cymru.
Bydd 1 enillydd i bob raffl, sef taleb Love2Shop werth £100.
Yn y raffl hwn, ystyr Mynychwr yw unigolyn sy'n 14 oed neu'n hŷn ar ddyddiad y Diwrnod Agored ac y mae ei bresenoldeb wedi'i gofrestru neu ei gofnodi mewn ffordd arall gan y Brifysgol ac sy'n gymwys i gymryd rhan yn y raffl yn unol â'r Telerau ac Amodau hyn.
Y Rheolau
1 SUT I GYSTADLU
1.1 Rydyn ni’n cynnal cyfres o rafflau rhwng 27 Chwefror 2027 i 12 Mehefin 2027. Mae cyfanswm o 2 raffl. Manylir ar fanylion pob raffl, gan gynnwys eu Dyddiad Agor a'u Dyddiad Cau, yn Amod 3 (Manylion Gwobrau).
1.2 Mae'r raffl am ddim ac nid oes angen prynu unrhyw beth.
1.3 Ym mhob Diwrnod Agored, byddwn yn sicrhau bod Arolwg Diwrnod Agored ar gael i Fynychwyr. Gellir cyrchu'r Arolwg Diwrnod Agored drwy'r e-bost a anfonwyd gennym i'r cyfeiriad e-bost sydd gennym a/neu drwy sganio'r cod QR fydd yn cael ei ddarparu ar gyfer y Diwrnod Agored.
1.4 Nid yw mynediad i'r Arolwg Diwrnod Agored trwy ddolen e-bost, cod QR neu unrhyw ddull arall a ddarperir gan y Brifysgol yn sefydlu cymhwysedd i gymryd rhan yn y raffl. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi mynychu'r Diwrnod Agored perthnasol a bodloni'r gofynion cymhwysedd a nodir yn y Telerau ac Amodau hyn.
1.5 Bydd gan yr Arolwg Diwrnod Agored yr un Dyddiad Agor a Dyddiad Cau â'r raffl sy'n gysylltiedig â'r Diwrnod Agored a fynychir. Dim ond yn y raffl sy'n gysylltiedig â'r Diwrnod Agored hwnnw y gall mynychwr gymryd rhan yn y raffl sy'n gysylltiedig â'r Diwrnod Agored hwnnw.
1.6 Bydd y ffurflen raffl yn ymddangos ar ddiwedd yr Arolwg Diwrnod Agored. I gymryd rhan yn y raffl, rhaid i Fynychwr lenwi a chyflwyno'r ffurflen ymuno â’r raffl cyn y Dyddiad Cau.
1.7 Ni fydd cwblhau'r Arolwg Diwrnod Agored ar ei ben ei hun yn gyfystyr â mynediad i'r raffl. Rhaid i Fynychwr hefyd lenwi a chyflwyno'r ffurflen gais ar ddiwedd yr arolwg.
1.8 Ymhob Diwrnod Agored, dim ond unwaith y bydd gan bob unigolyn hawl i gymryd rhan. Ni dderbynnir ceisiadau ar ran person arall ac eithrio pan fo rhiant neu warcheidwad cyfreithiol yn cyflwyno cais ar ran Mynychwr 14 neu 15 oed yn unol ag Amod 2.2.
1.9 Rydyn ni’n cadw'r hawl i anghymhwyso unigolion sy’n ceisio cymryd rhan mwy nag unwaith, a cheisiadau anghyflawn neu dwyllodrus, a cheisiadau wedi’u gwneud mewn swmp neu sy’n dwyllodrus.
1.10 Ni dderbynnir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y Dyddiad Cau.
1.11 Trwy gyflwyno Ffurflen Ymuno â’r Raffl, mae mynychwyr yn cytuno i gael eu rhwymo gan y telerau ac amodau hyn.
1.12 Bydd yr enillydd yn cael ei dynnu ar hap o'r holl geisiadau cymwys a dderbynnir rhwng y Dyddiad Agor a'r Dyddiad Cau.
2 CYMHWYSEDD
2.1 Mae'r raffl yn agored i Fynychwyr sydd:
a) yn 14 oed neu'n hŷn ar ddyddiad y cais i ymuno ag ef;
b) wedi mynychu’r Diwrnod Agored perthnasol;
c) â modd i’w hadnabod a gwirio eu cymhwysedd drwy ddefnyddio gwybodaeth a gedwir gan y Brifysgol.
2.2 Mae rhai sydd â chynnig yn gymwys i gymryd rhan yn y raffl. Nid yw myfyrwyr presennol y Brifysgol, gweithwyr y Brifysgol nag unrhyw un o'i chwmnïau cysylltiedig, ac aelodau o'u teuluoedd agos neu aelwydydd yn gymwys i gymryd rhan. Rhaid i fynychwyr 14 neu 15 oed gael caniatâd gan riant neu warcheidwad cyfreithiol i gymryd rhan yn y raffl a hawlio unrhyw wobr. Gall rhiant neu warcheidwad cyfreithiol gyflwyno cais ar eu rhan.
2.3 Wrth gymryd rhan yn y raffl, rydych chi'n cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio unrhyw wobr y gallech ei hennill.
2.4 Mae'r Brifysgol yn cadw pob hawl i'ch anghymhwyso os yw eich ymddygiad yn groes i ysbryd neu fwriad y raffl neu os ydych yn cael eich ystyried yn anghymwys yn ôl cofnodion y Brifysgol.
3 Y WOBR
3.1 Mae'r wobr yn cael ei darparu gan y Brifysgol. Bydd un enillydd yn cael ei ddewis ar hap i dderbyn un wobr. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddarparu gwobr wahanol o werth cyfartal neu uwch os yw amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol yn ei gwneud yn angenrheidiol gwneud hynny.
3.2 Nid oes unrhyw wobr arall ar gael ac ni ellir trafod derbyn gwobr arall yn lle, ni ellir ei chyfnewid na’i throsglwyddo ac ni fydd arian parod ar gae fel opsiwn yn lle’r wobr. Nid yw defnydd y Brifysgol o frandiau penodol fel gwobrau yn awgrymu unrhyw gysylltiad â brandiau o'r fath na cymeradwyaeth ohonynt.
3.3 Nid yw'r Brifysgol yn darparu unrhyw fath o gymorth ymarferol ar gyfer y wobr; darperir y wobr "fel y mae". Gall gwobrau fod yn ddarostyngedig i'w telerau ac amodau eu hunain, wedi’u cyhoeddi gan y darparwr perthnasol. I dderbyn y wobr, rhaid i'r enillydd hefyd dderbyn unrhyw delerau ac amodau perthnasol y wobr berthnasol (er enghraifft, telerau ac amodau cerdyn rhodd).
MANYLION Y WOBR
| Arolwg a Raffl | Disgrifiad o'r wobr | Nifer yr "Enillwyr" | "Dyddiad Agor" | "Dyddiad Cau" | "Cyhoeddi’r Enillydd" | Ble i gasglu |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Taleb Love2Shop gwerth £100 | 1 | 27 Chwefror 2027 | 14 Mawrth 2027 | 15 Mawrth 2027 | wedi'i e-bostio i gyfeiriad cartref yr enillydd oni bai bod trefniadau eraill yn cael eu cytuno. |
| 2 | Taleb Love2Shop gwerth £100 | 1 | 12 Mehefin 2027 | 27 Mehefin 2027 | 18 Mawrth 2027 | wedi'i e-bostio i gyfeiriad cartref yr enillydd oni bai bod trefniadau eraill yn cael eu cytuno. |
4 CYHOEDDI’R ENILLYDD
4.1 Mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebu na thrafod yn digwydd.
4.2 Bydd y Brifysgol yn cysylltu â'r enillydd trwy'r cyfeiriad e-bost a nodwyd yn yr arolwg cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar neu ar ôl Dyddiad Cyhoeddi’r Enillydd. Ni fydd y Brifysgol yn diwygio'r wybodaeth gyswllt hon ar ôl i’r cais i ymuno â’r raffl gael ei gyflwyno a bydd yr holl gyfathrebu yn cael ei wneud drwy’r cyfeiriad e-bost a roddwyd i'r Brifysgol.
4.3 Gellir datgelu cyfenw a sir breswyl y gwahanol rafflau ar gael ar gais o fewn 30 diwrnod i'r Dyddiad Cau, trwy gysylltu â'r Uwch Swyddog Mewnwelediadau (Ymchwil) ([email protected]). Mae ymuno â’r raffl yn golygu eich bod yn cytuno i’ch cyfenw a’ch sir breswyl gael eu datgelu wrth gyhoeddi enillydd y wobr. Os ydych chi'n gwrthwynebu cyhoeddi neu ddatgelu'r wybodaeth hon neu os hoffech leihau faint o wybodaeth a ryddheir am ryw reswm, cysylltwch â'r Uwch Swyddog Mewnwelediadau ([email protected]).
5 HAWLIO'R WOBR
5.1 Os mai chi yw enillydd gwobr, bydd gennych 7 diwrnod o'r adeg y bydd yr e-bost yn cael ei anfon atoch ar neu ar ôl Dyddiad Cyhoeddi’r Enillydd i hawlio'r wobr, a hynny drwy ymateb i'n e-bost a gaiff ei anfon i'r cyfeiriad e-bost a roddoch yn ystod y broses ddilysu (manylir yn Amod 2). Os na fyddwch yn hawlio'ch gwobr erbyn hynny, bydd eich hawl i’w derbyn yn dod yn annilys.
5.2 Ni all trydydd parti hawlio'r wobr ar eich rhan ac eithrio rhieni a/neu warcheidwaid enillwyr o dan 16 oed.
5.3 Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gysylltu â'r enillydd. Os na ellir cysylltu â'r enillydd neu os nad yw ar gael neu os yw heb hawlio’r wobr o fewn yr amser a bennir, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynnig y wobr i'r ymgeisydd cymwys nesaf a ddewisir ar hap o blith y ceisiadau a dderbyniwyd cyn Dyddiad Cau'r raffl wobr berthnasol.
5.4 Nid yw'r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os nad ydych yn gallu derbyn y wobr.
5.5 Bydd y Brifysgol yn gwneud trefniadau cyflenwi trwy gytundeb cydfuddiannol, o fewn 14 diwrnod i'r Dyddiad Cyhoeddi.
6 CYFYNGU AR ATEBOLRWYDD
6.1 I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Brifysgol, ei hasiantau na’i dosbarthwyr mewn unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol am nac yn atebol i ddigolledu unrhyw ymgeisydd, enillydd neu drydydd parti ac eithrio mewn achos o anaf personol neu farwolaeth yn deillio'n uniongyrchol o esgeulustod y Brifysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
7 DIOGELU DATA
7.1 Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan y Brifysgol at ddibenion y raffl hwn a bydd yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol neu Gyffredinol: Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnydd o ddata personol | Prifysgol De Cymru. Gweler hefyd Amodau 2 a 4, o ran gwirio a chyhoeddi enillwyr gwobrau.
8 TELERAU CYFFREDINOL
8.1 Os oes unrhyw reswm dros gredu eich bod wedi torri'r telerau ac amodau hyn, mae'r Brifysgol, yn ôl ei disgresiwn, yn cadw'r hawl i'ch gwahardd rhag cymryd rhan yn y raffl.
8.2 Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddirymu, atal, canslo neu ddiwygio'r raffl pan fo'n angenrheidiol gwneud hynny.
8.3 Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr, ac mae'r Brifysgol a chi yn cytuno i ddefnyddio llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
8.4 Os bydd unrhyw anghydfod, bydd penderfyniad y Brifysgol yn derfynol.