Gweld eich canlyniadau
Ystyrir yr holl ganlyniadau a dderbyniwch yn ystod y flwyddyn yn rhai dros dro a gallent fod yn destun newid hyd nes y bydd cadarnhad yn y byrddau asesu.
Mae byrddau asesiad dyfarniad a chynnydd yn gyfrifol am benderfynu ar gynnydd myfyrwyr, cwblhau, ac, os yw’n briodol, canlyniad cyffredinol (dosbarthiad).
Cyhoeddir yr holl ganlyniadau drwy'r Gwasanaeth Canlyniadau. Unwaith y bydd eich canlyniadau wedi'u cadarnhau trwy fyrddau asesu byddant ar gael drwy'r Gwasanaeth Canlyniadau ar y dyddiadau penodedig.
Mae’r Rheoliadau ar gyfer dulliau a Addysgir yn cynnig gwybodaeth pellach ar gymwysterau a sut y maent yn cael eu dosbarthu.
Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd bydd eich canlyniadau'n cael eu prosesu drwy Fwrdd Asesu. Yn dilyn y bwrdd asesu bydd eich canlyniadau'n cael eu rhyddhau ar-lein. Os nad ydych yn siŵr pa fwrdd y byddwch yn cael eich prosesu drwyddo, cysylltwch âg Ardal Gynghori eich Campws. Dylai myfyrwyr sy'n astudio mewn Colegau Partner, Sefydliadau Partner gysylltu â'u cyswllt cwrs arferol.
Mae'r Brifysgol yn pennu nifer o Ddiwrnodau Canlyniadau yn dilyn y prif Fyrddau Asesu o fewn y Flwyddyn Academaidd. Gweler isod:
Byrddau Asesu Mis Mawrth
Byrddau Asesu yn Cwrdd:
25 Chwefror - 13 Mawrth 2026
Cyhoeddi Canlyniadau Ar-lein (o 9:00am):
17 Mawrth 2026
Dyddiadau Cyhoeddi Canlyniadau Ychwanegol (o 9:00am):
MGB Rheoli Gofal Iechyd (BAPIO) and MGB Byd-eang - 12 Chwefror 2026
BSc Nyrsio (Carfannau Mawrth), FFisio Lefel 5 - 19 Mawrth 2026
Learna (Carfannau Mawrth), – 9 Ebrill 2026
BSc Nyrsio (Carfan Ebrill), TG Lefel 5 - 23 Ebrill 2026
BSc Bydwreigiaeth (Carfan Ebrill) – 16 Ebrill 2026
Rhaglenni Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol - 30 Ebrill 2026
MSc RAD (Carfan Chwefror 25) - 14 Mai 2026
Byrddau Asesu Mis Mehefin
Byrddau Asesu yn Cwrdd:
27 Mai - 18 Mehefin 2026
Cyhoeddi Canlyniadau Ar-lein (o 9:00am):
Blwyddyn olaf - 23 Mehefin 2026
Pob blwyddyn arall - 24 Mehefin 2026
Dyddiadau Cyhoeddi Canlyniadau Ychwanegol (o 9:00am):
BSc Nyrsio, BSc Bydwreigiaeth (Carfan Mawrth) Ail eistedd - 16 Mehefin 2026
Cyfrifydd Proffesiynol - 2 Gorffennaf 2026
BSc Bydwreigiaeth (Carfan Mawrth) Ail eistedd - 7 Gorffennaf 2026
BSc Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol Lefel 4 - 30 Mehefin 2026
PCET ar gampws - 9 Gorffennaf 2026
TG pob blwyddyn – 21 Gorffennaf 2026
Ffisio Lefel 4 & 6 - 28 Gorffennaf 2026
Ffisio Yr 2 & 3, ODP pob blwyddyn - 5 Awst 2026
Byrddau Asesu Mis Awst
Byrddau Asesu yn Cwrdd:
17 - 27 Awst 2026
Cyhoeddi Canlyniadau Ar-lein (o 9:00am):
2 Medi 2026
Dyddiadau Cyhoeddi Canlyniadau Ychwanegol (o 9:00am):
Cyfrifydd Proffesiynol - 3 Medi 2026
IR / OL Nyrsio Llawn Amser (Carfannau Medi), BSc Midwifery – 9 Medi 2026
IR Nyrsio Hyblyg – 24 Medi 2026
MA Addysg Cymru - 2 Hydref 2026
Learna (Carfannau Medi) - 7 Hydref 2026
MBA (Carfan Medi 25) - 6 Tachwedd 2026
Byrddau Asesu Mis Tachwedd
gan gynnwys cwblhau cyrsiau Meistr
Byrddau Asesu yn Cwrdd:
4- 20 Tachwedd 2026
Cyhoeddi Canlyniadau Ar-lein (o 9:00am):
25 Tachwedd 2026
Dyddiadau Cyhoeddi Canlyniadau Ychwanegol (o 9.00am):
IR / OL Nyrsio Llawn Amser (Carfannau mis Medi), BSc Bydwreigiaeth Ail eistedd – 1 Rhagfyr 2026
IR Nyrsio Hyblyg Bl 1 a 4 Ail eistedd – 15 Rhagfyr 2026
BSc Hyfforddiant Pêl-droed Bl 1 & 2 – I’w gadarnhau
Llinell amser gweithgaredd
Dyddiad Cau Apeliadau - Pob myfyriwr: O fewn 10 diwrnod gwaith i'r Diwrnod Canlyniadau
Gallwch argraffu'ch canlyniadau gan ddefnyddio'r botwm PDF yn y sgriniau Gwasanaeth Canlyniadau. Anfonir copi PDF o'ch canlyniadau at eich cyfrif e-bost myfyrwyr. Dyma fersiwn swyddogol y canlyniadau a bydd yn argraffu gyda Phenawdau'r Brifysgol.
Sylwer y byddwch yn derbyn tystysgrif swyddogol a thrawsgrifiad (fel y bo'n briodol) yn dilyn y seremonïau graddio a gynhelir ym mis Gorffennaf a mis Rhagfyr.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr presennol drwy'r Ardal Gynghori.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich canlyniadau, ewch i’r Ardal Gynghori Ar-lein a phorwch ein Cwestiynau Cyffredin. Gall y Cwestiynau Cyffredin helpu i ddatrys popeth o faterion cofrestru i amserlenni, talu eich ffioedd dysgu, gwybodaeth am fenthyciadau myfyrwyr a llawer mwy.
Fel arall, gallwch gysylltu â'ch Ardal Gynghori.