Rydym yn gweithredu fel canolfan arholiadau ar gyfer ymgeiswyr o brifysgolion eraill sydd am drefnu sefyll arholiad ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae'r Brifysgol yn falch o gynnig cymorth i drefnu sefyll arholiadau papur yn ein holl safleoedd, yn cynnwys Pontypridd, Caerdydd a Dinas Casnewydd.

Rydym yn cynnig lefel uchel o broffesiynoldeb ac ystod o wasanaethau gan gynnwys llety addas a Goruchwylwyr Arholiadau profiadol.

Y trefniant ffi presennol yw £100.00 yr arholiad. Rhaid talu'r ffi pan wneir y cais (drwy'r ddolen isod).

Ar ôl derbyn y ffi, bydd y Brifysgol yn rhoi'r trefniadau priodol ar waith.

Er mwyn canslo arholiad, mae angen rhybudd o ddau ddiwrnod gwaith neu bydd y ffi a dalwyd yn cael ei fforffedu.

Fel arfer, rydym yn gofyn bod yr arholiad yn cael ei drefnu yn sefydliad yr ymgeisydd ar ddyddiad ac amser sydd o fewn ein cyfnodau arholiadau ym mis Mai neu mis Awst. Mae pob arholiad yn y Brifysgol yn dechrau am 09:30, 14:00, ac yn achlysurol, am 18:00.

Rhaid i geisiadau gan y rhai sydd â diddordeb gyrraedd dim hwyrach na mis cyn dechrau'r prif gyfnod arholiadau neu'r arholiadau ail-sefyll. Mae'n bosib y bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu hystyried, ond bydd yn dibynnu ar argaeledd staff a lle.