Prifysgol De Cymru - Credyd a gyflawnwyd ar ôl mis Mawrth 2013

Diffinnir pwynt credyd fel yr hyn y gellir ei gyflawni mewn deg awr dybiannol o amser dysgu myfyriwr. Y llwyth gwaith blynyddol arferol ar gyfer myfyriwr israddedig llawn amser yw 120 credyd.

Dangosir gradd credyd pob modiwl ar yr adysgrif.

Uned o astudiaeth ddysgu hunan-gynhwysol a chydlynol yw modiwl, sydd â sgôr credyd cyffredinol, lefel ddynodedig, canlyniadau dysgu diffiniedig, a strategaethau asesu priodol o ran ei lefel a'i ganlyniadau.

Fel y nodir yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch,

  • Lefel 4-5 - BTEC/Pearson HNC/HND
  • Lefel 4-6 - Camau astudio israddedig, a lefel 6 yw cam terfynol y radd anrhydedd
  • Lefel 7 - Rhaglen Feistr
  • Lefel 8 - Rhaglen Ddoethuriaeth

Canran % Gradd Anrhydedd Israddedig Gradd Ôl-raddedig (credyd a gyflawnwyd ar ôl 2002) Gradd Ôl-raddedig (credyd a gyflawnwyd yn 2002)
70 – 100 Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf Rhagoriaeth Rhagoriaeth
60 – 69 Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch Teilyngdod Pasio
50 – 59 Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Is Pasio Pasio
40 – 49 Gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth Pasio Pasio
Pasio drwy Ddigollediad Gellir rhoi dyfarniad Pasio drwy Ddigollediad yn ôl disgresiwn y Bwrdd Asesu, yn unol â'r cyfyngiadau sydd wedi'u nodi yn Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer methiannau ffiniol    

Gradd Eglurhad
Rhagoriaeth Marc rhwng 70 a 100 (myfyrwyr Meistr a HND/C yn unig)
Teilyngdod Marc rhwng 60 a 69 (myfyrwyr Meistr a HND/C yn unig)
Pasio Marc rhwng 40 a 100 (Israddedig) neu 40 a 59 (myfyrwyr Meistr a HND/C yn unig)
Methu Ffiniol Marc rhwng 30 a 39
Methu Marc rhwng sero a 29
Wedi'i ddigolledu Mae'r modiwl wedi'i ddigolledu
APCL Achrediad o Ddysgu Blaenorol â Chredyd
APEL Achrediad o Ddysgu drwy Brofiad Blaenorol
EXE Y modiwl wedi'i gwblhau yn llwyddiannus ac fe'i hystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol o'r bwrdd asesu

NODIADAU PWYSIG:

  1. Mae gan rai cyrsiau randdirymiadau, ac o ganlyniad i hyn, mae'n bosib y gallai ffiniau marciau fod ychydig yn wahanol i'r uchod.
  2. Os yw marc y modiwl yn uwch na 40 a bod gradd y modiwl wedi'i ddangos fel Methu Ffiniol neu Methu, bydd hyn oherwydd nad yw holl ganlyniadau dysgu'r modiwl wedi'u pasio.

Statws Eglurhad
Camymddygiad Academaidd Camymddygiad Academaidd e.e. llên-ladrata neu dwyllo mewn arholiad.
Yn parhau Nid oes canlyniad ar gyfer y modiwl hwn eto gan ei fod yn parhau, ac nid yw dyddiad cau'r holl asesiad(au) / arholiad(au) wedi bod eto.
Gohirio Mae angen rhagor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad ar eich marc ar gyfer y modiwl hwn.
Ymgais Gyntaf Mae amgylchiadau esgusodol wedi'u caniatáu, a gellir ail-sefyll asesiadau fel pe bai am y tro cyntaf. Mae'r ystod lawn o farciau ar gael i chi.
Cymysg Bydd angen ail-wneud neu amnewid rhai asesiadau, ac mae'n bosib y bydd angen gwneud rhai fel pe bai am y tro cyntaf oherwydd amgylchiadau esgusodol.
Ail-wneud Bydd angen ail-wneud neu amnewid pob elfen o'r modiwl yn y flwyddyn academaidd nesaf (gyda phresenoldeb ar gyfer pob modiwl a addysgir).
Ailsefyll Methwyd y modiwl cyfan neu ran ohono, a bydd angen ailsefyll asesiadau er mwyn pasio. Bydd y marciau'n cael eu capio ar 40%.
Myfyriwr wedi'i Wahardd Mae astudiaethau wedi'u gwahardd ac nid oes asesiadau digonol wedi'u cyflawni i gael canlyniad.
Myfyriwr wedi'i dynnu'n ôl Mae astudiaethau wedi'u tynnu'n ôl o'ch cwrs, ac nid ydych wedi cyflawni asesiadau digonol i gael canlyniad.

20 credyd Prifysgol = 10 credyd ECTS

10 credyd Prifysgol = 5 credyd ETCS

5 credyd Prifysgol = 2.5 credyd ECTS

Gradd ECTS Marc Canran Prifysgol
A 70-100%
B 60-69%
C 55-59%
D 50-54%
E 40-49%

Nid oes system gredyd gyson yn yr Unol Daleithiau; dylid gwirio cywerthedd credydau yn ôl sefydliad ar sail unigol.
Mae rhagor o wybodaeth am ECTS ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Mae'r codau a ddefnyddir i ddangos lefelau'r modiwlau mewn rhaglenni BTEC/Pearson fel a ganlyn:

N/H Modiwl ar lefel genedlaethol yng nghyd-destun Rhaglenni Cenedlaethol Uwch
H Modiwl wedi'i gynllunio ar gyfer rhaglenni Diploma/Tystysgrif Genedlaethol Uwch
CE Modiwl wedi'i gynllunio ar gyfer Addysg Barhaus
PD Modiwlau wedi'u cynllunio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol

Mae gwerthoedd modiwlau yn dynodi cyfran y gefnogaeth ddysgu ffurfiol sy'n ofynnol ar gyfer pob modiwl. Mae'n rhaid i gyfanswm gwerth modiwlau sydd wedi'u cwblhau i lefel foddhaol fodloni gofyniad lleiafswm gwerth modiwl ar gyfer y rhaglen.

Ar ôl cwblhau modiwl yn llwyddiannus, dyfernir gradd. Mae'r tabl isod yn rhoi arweiniad i raddau Pasio, Teilyngdod, a Rhagoriaeth, ond pennwyd y bandiau yn ôl y cwrs a astudiwyd.

Gradd Marc Canran (Mae'r graddau hyn yn dynodi lefel o gyflawniad yn y wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sylfaenol)
Rhagoriaeth 70-100
Teilyngdod 60-69.9
Pasio 40-59.9
Wedi'u heithrio Trwy brofiad neu gymhwyster sy'n dderbyniol i BTEC/Pearson
Credydwyd Llwyddiant ar fodiwl BTEC/Pearson cyfwerth

Fel arfer, ni ddyfernir graddau Teilyngdod a Rhagoriaeth mewn perthynas â modiwlau CE neu PD
Mae rhagor o wybodaeth am fframwaith rhaglenni BTEC/Pearson a chynnwys rhaglenni galwedigaethau penodol ar gael o https://qualifications.pearson.com/en/home.html

 

Mae lleoliad astudio yn dynodi a gyflawnwyd cwrs yn un o gampysau'r Brifysgol neu gydag un o'n partneriaid cydweithredol.

Cymraeg a/neu Saesneg yw iaith y modiwlau, oni nodir yn wahanol.

Dolenni Defnyddiol