Gwybodaeth Eglurhaol - Adysgrif Perfformiad (UOG 1992-2002)
Prifysgol Morgannwg – Credyd a gyflawnwyd rhwng 1992 a 2002
Uned o astudiaeth ddysgu hunan-gynhwysol a chydlynol yw modiwl, sydd â sgôr credyd cyffredinol, lefel ddynodedig, canlyniadau dysgu diffiniedig, a strategaethau asesu priodol o ran ei lefel a'i ganlyniadau.
Diffinnir pwynt credyd fel yr hyn y gellir ei gyflawni mewn deg awr o amser dysgu myfyrwyr.
Dangosir statws credyd pob modiwl ar y trawsgrifiad. Cyn 2002/03 maint safonol modiwl oedd 12 credyd ar lefel israddedig a 15 credyd ar lefel ôl-raddedig.
Fel y nodir yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch,
- 1-2 - BTEC/Pearson HNC/HND
- 1-3 - Camau astudio israddedig, a lefel 6 yw cam terfynol y radd anrhydedd
- M- Rhaglen Feistr
- 6 - Rhaglen Ddoethuriaeth
- P - Modiwlau Arfer Proffesiynol
| Lefel Israddedig | |
|---|---|
| A1 | Dosbarth cyntaf uchel |
| A2 | Dosbarth cyntaf da |
| A3 | Dosbarth cyntaf |
| B1 | Dosbarth dau un uchel |
| B2 | Dosbarth dau un da |
| B3 | Dosbarth dau un |
| C1 | Dosbarth dau dau uchel |
| C2 | Dosbarth dau dau da |
| C3 | Dosbarth dau dau |
| D1 | Trydydd dosbarth uchel |
| D2 | Trydydd dosbarth da |
| D3 | Trydydd dosbarth |
| PC (Pasio drwy Ddigollediad) | Gellir rhoi dyfarniad Pasio drwy Ddigollediad yn ôl disgresiwn y Bwrdd Asesu, yn unol â'r cyfyngiadau sydd wedi'u nodi yn Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer methiannau ffiniol |
| Lefel Ôl-raddedig | |
|---|---|
| PD | Pasio gyda Rhagoriaeth |
| P | Pasio |
| PC (Pasio drwy Ddigollediad) | Gellir rhoi dyfarniad Pasio drwy Ddigollediad yn ôl disgresiwn y Bwrdd Asesu, yn unol â'r cyfyngiadau sydd wedi'u nodi yn Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer methiannau ffiniol |
20 credyd Prifysgol = 10 credyd ECTS
10 credyd Prifysgol = 5 credyd ETCS
5 credyd Prifysgol = 2.5 credyd ECTS
| Gradd ECTS | Marc Canran Prifysgol |
| A | 70-100% |
| B | 60-69% |
| C | 55-59% |
| D | 50-54% |
| E | 40-49% |
Nid oes system gredyd gyson yn yr Unol Daleithiau; dylid gwirio cywerthedd credydau yn ôl sefydliad ar sail unigol.
Mae rhagor o wybodaeth am ECTS ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd.
Mae'r codau a ddefnyddir i ddangos lefelau'r modiwlau mewn rhaglenni BTEC/Pearson fel a ganlyn:
| N/H | Modiwl ar lefel genedlaethol yng nghyd-destun Rhaglenni Cenedlaethol Uwch |
| H | Modiwl wedi'i gynllunio ar gyfer rhaglenni Diploma/Tystysgrif Genedlaethol Uwch |
| CE | Modiwl wedi'i gynllunio ar gyfer Addysg Barhaus |
| PD | Modiwlau wedi'u cynllunio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol |
Mae gwerthoedd modiwlau yn dynodi cyfran y gefnogaeth ddysgu ffurfiol sy'n ofynnol ar gyfer pob modiwl. Mae'n rhaid i gyfanswm gwerth modiwlau sydd wedi'u cwblhau i lefel foddhaol fodloni gofyniad lleiafswm gwerth modiwl ar gyfer y rhaglen.
Ar ôl cwblhau modiwl yn llwyddiannus, dyfernir gradd. Mae'r tabl isod yn rhoi arweiniad i raddau Pasio, Teilyngdod, a Rhagoriaeth, ond pennwyd y bandiau yn ôl y cwrs a astudiwyd.
| Gradd | Marc Canran (Mae'r graddau hyn yn dynodi lefel o gyflawniad yn y wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sylfaenol) |
|---|---|
| Rhagoriaeth | 70-100 |
| Teilyngdod | 60-69.9 |
| Pasio | 40-59.9 |
| Wedi'u heithrio | Trwy brofiad neu gymhwyster sy'n dderbyniol i BTEC/Pearson |
| Credydwyd | Llwyddiant ar fodiwl BTEC/Pearson cyfwerth |
Fel arfer, ni ddyfernir graddau Teilyngdod a Rhagoriaeth mewn perthynas â modiwlau CE neu PD
Mae rhagor o wybodaeth am fframwaith rhaglenni BTEC/Pearson a chynnwys rhaglenni galwedigaethau penodol ar gael o https://qualifications.pearson.com/en/home.html
Cymraeg a/neu Saesneg yw iaith y modiwlau, oni nodir yn wahanol.