Ar ôl eich arholiadau
Pryd fydda i'n cael fy nghanlyniadau?
Gweler y wybodaeth ar dudalennau gwe’r Canlyniadau. Cyhoeddir yr holl ganlyniadau drwy'r Gwasanaeth Canlyniadau.
Sut ydw i'n rhoi gwybod am fater a ddigwyddodd yn ystod arholiad?
Nod y Brifysgol yw sicrhau y cydymffurfir â'i safonau ansawdd wrth gynnal ei harholiadau. O ganlyniad, mae ganddi broses ar waith i'ch galluogi i adrodd am unrhyw faterion sy'n ymwneud â chynnal archwiliad yr oeddech yn anhapus â hwy.
Gellid cysylltu'r materion ag unrhyw beth sy'n digwydd o fewn lleoliad yr arholiad e.e. problemau gyda'r papur arholiad, ymddygiad annerbyniol staff neu ymddygiad myfyrwyr, aflonyddwch allanol ac ati.
Os hoffech godi mater, mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen ar-lein gan adrodd eich pryderon o fewn 5 diwrnod gwaith i ddyddiad yr arholiad, gan ddarparu cymaint o dystiolaeth â phosibl i gefnogi'ch cwyn.
Os oes gennych rywfaint o dystiolaeth ffisegol i'w chyflwyno yna dylid mynd â hi i'r Swyddfa Arholiadau, Ardystio a Graddio yn syth ar ôl yr archwiliad, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Bydd y Brifysgol yn ceisio cwblhau ei hymchwiliadau cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach na dechrau'r Byrddau Asesu.
Adrodd am fater a ddigwyddodd yn ystod arholiad.
- Bydd eich mater yn cael ei gydnabod a'i ymchwilio.
- Cymerir camau priodol a throsglwyddir gwybodaeth i'r archwiliwr a / neu'r Bwrdd Asesu i'w hystyried fel y bo'n briodol.
- Bydd tîm gweinyddu'r campws mewn cysylltiad o fewn 20 diwrnod gwaith i gynghori ar gynnydd.