Addysg iaith ar gyfer integreiddio
Mae cymhwysedd iaith yn ffactor allweddol mewn integreiddio a datblygu ymdeimlad o berthyn. Gan weithio ar y cyd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Dysgu Oedolion Cymru, mae'r Athro Mike Chick yn ymchwilio i'r ddarpariaeth o addysg iaith i ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru.
Mae sgiliau iaith yn hanfodol i integreiddio pobl sy'n ceisio diogelwch rhag rhyfel neu erledigaeth. Mae ymchwil yr Athro Chick yn archwilio ffyrdd arloesol ac ymarferol o ddefnyddio’r ystafell ddosbarth iaith fel cyfrwng i hybu integreiddio a thrwy hynny helpu mudwyr dan orfod i adeiladu bywydau newydd yng Nghymru.
Ers dros 10 mlynedd mae myfyrwyr PDC, dan arweiniad yr Athro Chick, wedi bod yn trefnu a chyflwyno dosbarthiadau iaith Saesneg gwerthfawr mewn cydweithrediad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn eu Pencadlys yng Nghaerdydd.
Mae'r dosbarthiadau hyn yn hynod bwysig i’r Cyngor Ffoaduriaid, nid yn unig ar gyfer datblygu iaith ond hefyd ar gyfer y cyfleoedd cymdeithasol a'r gefnogaeth seicolegol maen nhw'n eu cynnig i bobl nad ydynt yn aml iawn yn cael gweithio neu astudio. Ers 2014, mae cannoedd o geiswyr noddfa wedi mynychu'r dosbarthiadau hyn, ac mae darpariaeth iaith sy'n ystyriol o drawma bellach yn rhan o Ddatganiad Strategol 2026 Cyngor Ffoaduriaid Cymru (CFfC).
Fel Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, mae'r Athro Chick yn hyrwyddo Cynllun Noddfa Ffoaduriaid y brifysgol, ac yn gweithio gyda sefydliadau allanol fel CARA (y Cyngor ar gyfer Academyddion mewn Perygl) i gefnogi academyddion sydd wedi'u dadleoli. Mae hefyd yn goruchwylio cydweithrediad PDC â'i gefell-brifysgol bartner yn Wcráin – Academi Diwylliant Ffisegol Talaith Kharkiv.
Yn 2023, comisiynwyd yr Athro Chick a'r Sefydliad Dysgu a Gwaith gan Lywodraeth Cymru i adolygu eu polisi ar addysg iaith ar gyfer mudwyr yng Nghymru.
Ers hynny, mae argymhellion o'r adolygiad wedi llywio polisi ac arferion. Gwnaeth ymchwil a syniadau’r Athro Chick ar addysg iaith i fudwyr ysgogi’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i gynnwys ei waith ar Addysgeg Gyfranogol mewn Cynlluniau Peilot Cwricwlwm Dinasyddion ar gyfer Llywodraeth Cymru.
O ganlyniad i hyn, mae'r Sefydliad wedi parhau i weithio gyda'r Athro Chick a PDC ar dreialu pecyn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer tiwtoriaid iaith, i brofi a dysgu mwy am ymgorffori dulliau cyfranogol amlieithog sy’n ystyriol o drawma mewn addysgu a dysgu.
Wedi'i ariannu gan grant gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), mae'r Athro Chick wrthi’n cydweithio ag academyddion o'r tair gwlad ddatganoledig yn y DU i ymchwilio i’r rôl y gallai’r Gymraeg ei chwarae wrth feithrin ymdeimlad o berthyn ymhlith y rhai sy'n ceisio lloches yng Nghymru.