Archwilio profiadau bywyd trwy ffilm ddogfen

Mae'r Athro Florence Ayisi, yr Athro Michael Brown a Dr Ian Wiblin i gyd yn defnyddio Ffilmiau Dogfen mewn gwahanol ffyrdd i roi mwy o lais i bobl sydd wedi’u lleiafrifo, datgelu hanesion cudd, a chreu cysylltiadau diriaethol rhwng profiadau bywyd a pholisi.

ffilm ddogfen

Mae ymchwil yr Athro Ayisi wedi'i fframio o amgylch syniadau amrywiol sy'n ymwneud â disgwrs ôl-drefedigaethol, cynrychiolaeth, ffeministiaeth, sinema drawswladol ac Affricanaidd, cynulleidfaoedd, a ffilm ethnograffig.

Mae ei chyfres ddogfen ar gyfer y prosiect Co-POWeR a ariennir gan AHRC yn cynnwys Plant Power (2023), Belonging: Tiger Bay Boxing Club (2024) ac A Beacon of Resilience: St Joseph Boxing Club (2025). Gyda'i gilydd, mae'r allbynnau hyn yn ail-ddychmygu trawsnewidiad cymdeithasol trwy ffilmiau a gyd-gynhyrchwyd gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BAME). Trwy leoli cyfranogwyr fel penseiri naratif, mae'r Athro Ayisi yn defnyddio dangosiadau a thrafodaethau wedi’u hwyluso i gadarnhau hunaniaeth gymunedol, cyfoethogi treftadaeth ddiwylliannol a dyfnhau ymwybyddiaeth feirniadol.

Mae treftadaeth ddiwylliannol a gwytnwch hefyd yn rhan annatod o weledigaeth Ayisi. Mae The Bronze Men of Cameroon yn dogfennu crefftwyr efydd Bamum yn Foumban yn wyneb prinder deunyddiau crai a chystadleuaeth fyd-eang. Mae Beyond the Parade, sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd, yn defnyddio ffilm, animeiddio a barddoniaeth sgript Bamum i roi lle blaenllaw i garnifal y menywod yng Ngŵyl Ddiwylliannol Ngoun. Mae Forged in Heritage yn dogfennu stori gof yng nghymoedd Cymru, ac mae Restoring Eden yn canolbwyntio ar gadwraeth a arweinir gan y gymuned yng Ngardd Fotaneg Migombani yn Sansibar.

Mae ffilmiau'r Athro Ayisi yn mynd i'r afael ag ymyleiddio ac erydiad diwylliannol trwy rymuso cyfranogwyr a rhoi lle canolog i’w profiadau. Mae grwpiau cymunedol, sefydliadau polisi a phartneriaid academaidd wedi elwa o adnoddau diwylliannol ar gyfer datblygu cwricwlwm, gweithdai, ac ymgysylltu â pholisi. O ganlyniad, mae buddiolwyr wedi adrodd hunaniaeth gymunedol gryfach, sgiliau arwain gwell, a newidiadau parhaol mewn ymarfer lleol wedi'u gyrru gan straeon cyfranogol.

Mae'r Athro Michael Brown yn gweithio'n lleol ac yn fyd-eang gyda chymunedau a sefydliadau anllywodraethol, gan ganolbwyntio ar greu ffilmiau ethnograffig a chyfranogol er newid cymdeithasol. Fel arfer, mae'n ymgysylltu â phobl sydd wedi’u hymyleiddio, pobl ddifreintiedig neu bobl sy’n prinhau a’u diwylliannau, rhywogaethau, lleoedd ac ecosystemau, i hyrwyddo deialog i geisio trawsnewidiad cadarnhaol.

Mae gwaith yr Athro Brown wedi'i seilio ar egwyddorion cyfathrebu cyfranogol a datblygu arloesol Paulo Freire a Nora Cruz Quebral, sy'n cynnwys hunanfyfyrio beirniadol a chryfhau effaith. Yn Nepal, gweithiodd yr Athro Brown mewn partneriaeth â chyrff anllywodraethol lles anifeiliaid blaenllaw a chymunedau sy'n dibynnu ar geffylau sy'n gweithio.

Gan ddefnyddio ffilmiau ethnograffig cyfranogol fel methodoleg i gychwyn deialog ar draws grwpiau buddiolwyr lluosog, cyflawnodd y gwaith welliannau mesuradwy mewn iechyd mulod, diogelwch ariannol perchnogion mulod, amgylcheddau a chynhyrchiant ffatrïoedd brics, rhaglenni allgymorth milfeddygol, ymwybyddiaeth llunwyr polisi a chyllid cyfarwyddedig, ymwybyddiaeth newyddiadurwyr ac allbynnau sy’n seiliedig ar wybodaeth gan wella ymwybyddiaeth y cyhoedd, a mabwysiadwyd methodolegau ffres gan ymarferwyr datblygu.

Mae prosiectau'r Athro Brown wedi cynhyrchu manteision ymarferol a methodolegol i bartneriaid anacademaidd gan gynnwys cymdeithasau treftadaeth, cyrff cynaliadwyedd, crefftwyr, perchnogion ffatrïoedd, timau milfeddygol a llunwyr polisi.

Yng Nghymru, mae'r Athro Brown yn cymryd rhan mewn prosiectau yn Butetown a gyda Chymdeithas Nepalaidd Cymru, gan ddefnyddio methodolegau gwneud ffilmiau cyfranogol i ymchwilio i agweddau ar dreftadaeth ddiwylliannol, hanes a mudo a all lywio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru. Trwy ei waith lleol a byd-eang, mae'r Athro Brown yn dangos sut y gall ffilmiau cyfranogol ac ethnograffig gefnogi a sbarduno effaith gymunedol gryfach, datblygiad parhaol a arweinir gan y gymuned, a newid cymdeithasol.

Mae gwaith Dr Ian Wiblin yn defnyddio rhaglenni dogfen a ffotograffiaeth arbrofol i ddatgelu hanesion cudd ac archwilio croestoriadau rhwng y cof, lle a thrawma gwleidyddol.

Mae ei ffilmiau wedi’u nodweddu gan ymagwedd unigryw at raglenni dogfen sy'n cyfuno ymchwil archifol ag adrodd straeon gweledol barddonol. Mae Four Parts of a Folding Screen (2018) yn ailadeiladu difeddiant biwrocrataidd menyw ym Merlin cyfnod y Natsïaid, gan ddefnyddio dogfennau a delweddaeth drefol gyfoes i ddelweddu’r hanesion cudd sydd wedi'u hymgorffori mewn mannau bob dydd.

Mae Alarm Notes (2025) yn dilyn bywyd Ludwig Koch, recordydd sain Almaenig-Iddewig, gan olrhain ei erledigaeth o dan y gyfundrefn Natsïaidd a'i waith diweddarach ym Mhrydain. Trwy recordiadau gwreiddiol Koch ac arddull weledol fyfyriol, mae'r ffilm yn pontio'r gorffennol a'r presennol, gan archwilio themâu alltudiaeth, cof a rhwyg hanesyddol.

Gyda'i gilydd, mae'r gweithiau hyn yn herio ffurf ddogfennol gonfensiynol trwy daflu goleuni ar absenoldeb, tawelwch, ac olion materol trawma. Mae ffilmiau Dr Wiblin yn gwahodd y gwyliwr i ymgysylltu'n feirniadol â gwleidyddiaeth y cof ac effeithiau gweddilliol trais hanesyddol trwy dynnu sylw at naratifau sydd wedi’u hanwybyddu.