Diogelu ein chwaraewyr | Ymchwilio i gyfergyd mewn chwaraeon
Ym Mhrifysgol De Cymru, mae ymchwilwyr yn mynd i’r afael ag un o heriau iechyd mwyaf dybryd a pherthnasol byd-eang chwaraeon – cyfergyd.
Dan arweiniad yr Athro Damian M. Bailey, mae’r Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd wedi dod yn arweinydd cenedlaethol a rhyngwladol mewn ymchwil i gyfergyd, gan helpu i drawsnewid sut mae anafiadau i’r pen mewn chwaraeon yn cael eu deall, eu hatal a’u rheoli.
Mae cyfergyd sy’n gysylltiedig â chwaraeon yn effeithio ar bron i bedwar miliwn o bobl ledled y byd bob blwyddyn. Er eu bod yn aml yn cael eu disgrifio yn ‘ysgafn’, gall effeithiau cyfergyd ac is-gyfergyd rheolaidd gael canlyniadau dwys, gydol oes, gan gynnwys nam ar y cof, iselder, risg o hunanladdiad, strôc, a chlefyd niwroddirywiol. Yn hanesyddol, mae ymwybyddiaeth a chanllawiau – yn enwedig mewn chwaraeon ar lawr gwlad – wedi bod yn dameidiog ac yn anghyson, gan adael chwaraewyr, rhieni a hyfforddwyr heb gyfarwyddyd clir ar dynnu o chwarae neu adferiad diogel. Mae’r bwlch hwn wedi pwysleisio ar angen brys am ganllawiau cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a ffisioleg.
Mae gwaith arloesol gan dîm yr Athro Bailey wedi dangos y gall cyfergyd gyflymu heneiddio biolegol yr ymennydd, gan gynyddu’r bregusrwydd i glefyd niwrolegol yn sylweddol. Mae’r labordy wedi nodi marcwyr niwrofasgwlaiddd a biolegol newydd o anaf, ochr yn ochr â strategaethau niwroamddiffynnol posib, gan gynnwys gwahaniaethau pwysig sy’n benodol i ryw sydd bellach yn ail-lunio sut mae risg cyfergyd yn cael ei ddeall. Gyda chefnogaeth partneriaid gan gynnwys Head for Change, mae’r ymchwil hon wedi ymestyn ymhell y tu hwnt i’r labordy – gan dderbyn sylw yn y cyfryngau cenedlaethol, ymgysylltiad cyhoeddus, a dadl wybodus ynghylch diogelwch chwaraewyr.
Yn bwysicaf oll, mae’r corff hwn o waith wedi llunio polisi cenedlaethol yn uniongyrchol. Roedd yr Athro Bailey yn arbenigwyr dethol a alwyd gan Lywodraeth y DU a’r Cyngor Ymchwil Feddygol, gan gyfrannu at ddwy ddogfen bolisi nodedig a gyhoeddwyd yn 2024: Concussion in Sport: Research Priorities and If in Doubt, Sit Them Out—UK Concussion Guidelines for Non-Elite (Grassroots) Sport. Am y tro cyntaf, mae chwaraeon llawr gwlad ledled y DU bellach yn gweithredu o dan fframwaith unedig, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer adnabod cyfergyd, tynnu chwaraewyr rhag chwarae, a rheoli penderfyniadau dychwelyd i chwarae.
Mae’r effaith wedi bod yn amlwg ac yn ddiaros. Mae hyfforddwyr a dyfarnwyr bellach wedi’u hyfforddi’n well i adnabod symptomau cyfergyd, mae cyrff llywodraethu wedi gweithredu newidiad mewn rheolau fel gostwng uchder y tacl mewn rygbi undeb, ac mae timau meddygol yn adrodd am fwy o wyliadwriaeth ac asesiad clinigol cynharach. Yn hollbwysig, mae chwaraewyr yn ceisio gofal amserol yn fwy – gan symud normau i ffwrdd o guddio a thuag at ddiogelu.