Ymchwil

CYFRANNU AT DDIOGELEDD BWYD BYD-EANG

Mae Datblygiadau Biotechnolegol yn Gwella Diogelwch Bwyd Byd-eang.

Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021
Two farmers outside in Malaysia farming their crops

Mae diogeledd bwyd yn her fyd-eang enfawr sy'n golygu datrys newyn a diffyg maeth yn fyd-eang.

Ers 2001, mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil i ddulliau genomeg a biotechnolegol ar gyfer gwella cnydau olew sy’n llawn calorïau mewn gwledydd sy’n datblygu, gan gynnwys Malaysia.  

Mae diogeledd bwyd yn digwydd pan fydd pawb yn gallu cael digon o fwyd diogel a maethlon sy’n eu galluogi i fyw bywydau iach, mewn ffyrdd y gall y blaned eu cynnal i’r dyfodol. Fodd bynnag, mae llawer o wledydd yn wynebu sawl problem wrth gynhyrchu a defnyddio bwyd, sy’n golygu na allan nhw gyrraedd safon genedlaethol uchel o ddiogeledd bwyd.

Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Malaysia a chyrff y diwydiant, mae'r Athro Denis Murphy wedi arwain ymchwil i drin cnydau’n fiodechnolegol ac wedi cymhwyso technegau genomeg uwch i ddulliau o wella cnydau.     

Mae ei ddadansoddiadau genomig wedi canfod genynnau sydd o ddiddordeb i bartneriaid masnachol a phartneriaid yn y llywodraeth ym Malaysia, gan gynnwys bridwyr cnydau a ffermwyr. At hynny, mae ei waith ymchwil ar y cyd â busnesau lleol bach a chanolig eu maint yng Nghymru wedi arwain at greu technolegau dadansoddol sy’n rhoi sylw i bryderon rhyngwladol am gynaliadwyedd cadwyni cyflenwi olew palmwydd, sydd ar hyn o bryd yn bwydo dros 2 biliwn o bobl bob dydd. 

Yn olaf, mae’r gwaith ymchwil hwn wedi effeithio ar ymchwil amgylcheddol a pholisïau datblygu llywodraeth Malaysia.   

https://pure.southwales.ac.uk/en/persons/denis-murphy

Am yr Athro Denis Murphy