Darparu tystiolaeth ar gyfer polisïau gwell ym maes y cyfryngau a chynhyrchu teledu cynaliadwy
Mae Ymchwil yn Llunio Polisi a Chynrychiolaeth y Cyfryngau yng Nghymru.
Ymchwil yn PDC Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-case-study-sustainable-tv-production.jpg)
Mae cenhedloedd bach yn wynebu heriau yn sgil adnoddau cyfyngedig, mwy o gymdogion pwerus, a systemau llywodraethol aml-haen cymhleth fel yn y Gymru ddatganoledig.
Mae gwaith ymchwil yr Athro Ruth McElroy, a wnaed yng Nghanolfan y Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, wedi rhoi tystiolaeth o fethiant y cyfryngau yn y Deyrnas Unedig a Chymru i wneud digon i greu sffêr cyhoeddus democrataidd, datganoledig ar yr union adeg pan fo pwerau deddfwriaethol cenhedloedd datganoledig yn tyfu.
Cyn cyhoeddi Archwiliad Cyfryngau Cymru 2015, nid oedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fforwm ddynodedig ar gyfer craffu ar bolisi ym maes y cyfryngau. Yn yr Archwiliad, argymhellodd y Ganolfan fod angen monitro’r cyfryngau yng Nghymru’n well, gan fanteisio ar arbenigedd academaidd i amlygu datblygiadau newydd yn y cyfryngau.
Mae’r gwaith eirioli hwn, sydd wedi’i seilio ar ymchwil, wedi helpu i drawsnewid byd y cyfryngau yng Nghymru trwy helpu i sefydlu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru (CWLCC) sy’n craffu’n ddemocrataidd ar bolisïau datganoledig ym maes y cyfryngau.
Yn adroddiad terfynol Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y Deyrnas Unedig yn 2016 i Ddarlledu yng Nghymru, dyfynnwyd gwaith ymchwil y Ganolfan mewn nifer o ganfyddiadau, gan gynnwys wrth gyfeirio at yr angen am well craffu ar y cyfryngau a chynrychioli Cymru ar y sgrin: “Research conducted by the University of South Wales and the BBC Audience Council for Wales concluded that audiences in Wales value the programming produced in, and representing images of, the country.”
Canfu’r ymchwil fod cynrychiolaeth o’r fath yn cryfhau’r ymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a chymdeithasol, a bod diffyg cynrychiolaeth yn golygu nad yw elfennau pwysig o fywyd cenedlaethol Cymru yn cael eu dangos ar y sgrin.
Bu ymchwil ac argymhellion PDC hefyd yn sail i adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o S4C, y darlledwr cyhoeddus Cymraeg. Arweiniodd at ddiwygiadau i gylch gwaith statudol S4C fel ei fod yn adlewyrchu’r oes ddigidol yn well ac yn gwasanaethu cynulleidfaoedd modern Cymraeg eu hiaith ledled y Deyrnas Unedig.
Mae arbenigedd y Ganolfan mewn systemau cynhyrchu sgrin wedi helpu i sicrhau buddsoddiad newydd mawr ar gyfer arloesi yn sector sgrin Cymru. Roedd ei gwaith ymchwil a’i chydweithio â diwydiant yn sail i greu Clwstwr – un o ddim ond wyth Clwstwr Creadigol yn y DU – sy’n defnyddio £1 miliwn y flwyddyn o fuddsoddiad newydd ar gyfer ymchwil a datblygu yn niwydiannau sgrin Cymru ac sydd wedi cefnogi mwy na 60 o brosiectau ymchwil a datblygu mewn diwydiant ac addysg uwch.
Mae gwaith y Ganolfan gyda’r cyfryngau hefyd wedi gwella dealltwriaeth y cyhoedd o sut mae polisi’n siapio’r hyn a welwn ar y sgrin, gan roi cyngor gwybodus, yn seiliedig ar ymchwil, i’r rheoleiddiwr, Ofcom.