Ymchwil

DATBLYGU OFFER YSTADEGOL AR GYFER GWASANAETHAU RHEOLI YNNI

Mae Ymchwil Mathemateg yn Ysgogi Datblygiadau Rheoli Ynni.

Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021
Steam and smoke rising from distillation towers and cooling towers towards the left at Grangemouth oil refinery and petrochemical plant in Central Scotland.

Fe wnaeth gwaith ymchwil mathemateg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) greu cyfres o offer ystadegol a oedd yn rhan ganolog o eiddo deallusol cwmni newydd twf uchel, RUMM Ltd. 

Cysylltodd y cwmni ag ystadegwyr yn y brifysgol i ddatblygu dulliau newydd o ddadansoddi data amser real i wella eu meddalwedd rheoli ynni a chryfhau eu mantais gystadleuol.  

Fe wnaeth gwaith ymchwil PDC wella gallu’r cwmni i ddadansoddi data, gan arwain at greu eiddo deallusol newydd. Yn sgil hynny, aeth cyflenwr ynni Prydeinig mawr, RWE Npower Ltd, ati i gaffael y cwmni ym mis Mawrth 2015. Creodd hynny effeithiau economaidd ac amgylcheddol sylweddol, drwy arbed costau i gleientiaid a thrwy leihau allyriadau carbon ledled y Deyrnas Unedig.   

Cyfrannodd yr ymchwil hefyd at adfywio economaidd yn nghymunedau difreintiedig cymoedd y de drwy hyfforddi ac uwchsgilio cyflogeion ac ailfuddsoddi incwm cyfranddalwyr mewn cwmnïau newydd. 

 

Darganfod Mwy

https://maths.research.southwales.ac.uk/cymraeg/

Mathemateg yn PDC