Ymchwil

Defnydd arloesol o hydrogen ar gyfer diwydiant a thrafnidiaeth

Mae Ymchwil yn Ysgogi Effaith Fyd-eang ar Newid Hinsawdd.

Ymchwil yn PDC Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
Placeholder Image 2

Mae ymrwymiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau effaith y newid yn yr hinsawdd o dan Gytundeb Paris yn golygu bod angen i’r wlad ddatblygu a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy fwyfwy a lleihau allyriadau trafnidiaeth a diwydiannol nwyon tŷ gwydr.   

Mae ymchwil yng Nghanolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru yn canolbwyntio ar gymhwyso technolegau hydrogen i sicrhau datgarboneiddio dwfn mewn diwydiant ac yn y sectorau trafnidiaeth ac ynni. 

Ers 2008, datblygodd ein hymchwilwyr ddull arloesol a masnachol hyfyw o gynhyrchu hydrogen, a arweiniodd at weithio gyda ITM Power i gyflwyno eu helectrolysydd PEM masnachol cyntaf. O ganlyniad, ehangwyd eu busnes drwy greu gorsafoedd ail-lenwi a gweithfeydd hydrogen ledled y byd. 

At hynny, mae ein hymchwil wedi dylanwadu ar ddatblygiad polisïau llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ym maes hydrogen. Mae hefyd wedi cyflymu’r ymwneud â diwydiant yn y maes datgarboneiddio, yn enwedig drwy ddatblygu technegau newydd i adfer llawer iawn o hydrogen wrth gynhyrchu dur. Mae wedi arwain yn ogystal at ffurfio a datblygu Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), sy’n glwstwr helaeth gyda dros 40 o bartneriaid diwydiannol o sawl sector. 

Yn olaf, mae Canolfan Hydrogen PDC wedi bod yn allweddol wrth newid polisi yng Nghorfforaeth Grid Gwladol Tsieina (SGCC), drwy helpu’r gorfforaeth i gyflwyno hydrogen electrolytig fel mecanwaith cydbwyso ar gyfer y grid trydan ac ar gyfer defnyddio gorsafoedd ail-lenwi hydrogen yn Tsieina.