Dylanwadu a datblygu polisi entrepreneuriaeth menywod yng Nghymru a’r DU
Newid Polisi Sbardunau Ymchwil.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-case-study-womens-entrepreneurship.jpg)
Nid yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn entrepreneuriaeth. Mae ymchwil gan Brifysgol De Cymru (PDC) i entrepreneuriaeth ymysg menywod wedi cyfrannu at ddatblygu polisi’r llywodraeth a chymorth busnes yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.
Er bod entrepreneuriaeth wedi cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, nid oedd polisi penodol yn bodoli o’r blaen ar gyfer entrepreneuriaeth ymysg menywod.
Gan ddatblygu ar hanes 20 mlynedd o ymchwil yn y maes hwn, comisiynwyd academyddion PDC gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r heriau sy’n wynebu entrepreneuriaid benywaidd a’r cymorth busnes sydd ar gael iddyn nhw.
Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygu a chyhoeddi dau bolisi: Cefnogi Menywod Entrepreneuraidd yng Nghymru: Ffordd Ymlaen i Gymru a Cefnogi Menywod Entrepreneuraidd yng Nghymru: Cynllun Gweithredu Dwy Flynedd a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019.
Mae ymchwil ac arbenigedd PDC hefyd wedi bod o fudd uniongyrchol i dros 400 o entrepreneuriaid benywaidd yng Nghymru ac wedi cefnogi’r gymuned cymorth busnes.